Fe sgoriodd tîm Richard Whiffin chwe chais i gyd yn erbyn eu gwrthwynebwyr hŷn a chorfforol – mewn gornest werthfawr yn eu paratoadau i deithio i Vannes yn Ffrainc ar gyfer gêm agoriadol y Bencampwriaeth o dan 20 ar y cyntaf o Chwefror.
O dan arweiniad eu capten Harri Beddall fe ddangosodd y Cymry o dan 20 eu doniau a’u gallu i herio timau corfforol ac fe lwyddodd y prop pen rhydd Ioan Emanuel – brawd hŷn Steff, i sgorio ddwywaith gyda’r capten ei hun, Scott Delnovo, Iorrie Badham a Harri Ford yn hawlio’r ceisiau eraill.
Bydd Ioan Emanuel yn arbennig o ddiolchgar i’r asgellwr Harry Rees-Weldon am ei gais cyntaf gan mai ei fylchiad ef o 50 metr ac yna gwaith cynorthwyol Aidan Boshoff a’r mewnwr Logan Franklin arweiniodd at y cais.
Josh Carrington, Walker Price a Luca de la Rua hawliodd geisiau yr Academïau Rhabarthol ond cyflymdra eilydd y tîm o dan 20 Iorrie Badham gadarnhaodd y fuddugoliaeth i fechgyn Richard Whiffin yn y pendraw wrth iddo groesi am gais cofiadwy unigol cyn iddo greu cais ola’r noson i Harri Ford.
Buddugoliaeth gofiadwy i’r bechgyn o dan 20 felly– a bydd cyfle arall i’r ddau dîm herio’I gilydd ar yr 17eg o Ionawr ar Fanc yr Eglwys yn Llanymddyfri – cyn i fechgyn Richard Whiffin ddechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda dwy gêm ar daith i Ffrainc a’r Eidal.
Sgorwyr: Cymru D20: Ceisiau: Ioan Emanuel 2, Harry Beddall, Scott Delnovo, Iorrie Badham, Harri Ford; Tros: Harri Wilde 4, Harri Ford 2. Academïau Rhanbarthol D23: Ceisiau: Josh Carrington, Walker Price, Luca de la Rua; Tros: Josh Phillips 2, Sam Potter
Cymru D20: Scott Delnovo (Aberafan); Harry Rees-Weldon (Dreigiau), Elijah Evans (Caerdydd), Steff Emanuel (Caerdydd), Aidan Boshoff (Bryste); Harri Wilde (Caerdydd), Logan Franklin (Dreigiau); Ioan Emanuel (Caerfaddon), Saul Hurley (Aberafan), Jac Pritchard (Scarlets), Kenzie Jenkins (Bryste), Dan Germine (Gweilch), Arthur Moore (Caerfaddon), Harry Beddall (Caerlŷr, capten), Evan Minto (Dreigiau)
Eilyddio: Evan Wood (Met Caerdydd) yn lle Hurley 58; Harrison Bellamy (Caerloyw) yn lle Ioan Emanuel 41; Owain James (Dreigiau) yn lle Pritchard 55, Deian Gwynne (Caerloyw) yn lle Beddall 41; Caio James (Caerloyw) yn lle Moore 41; Sion Davies (Caerdydd) yn lle Franklin 58; Harri Ford (Dreigiau) yn lle Wilde 64; Osian Darwin Lewis (Caerdydd) yn lle Evans 64; Iorrie Badham (Scarlets) yn lle Delnovo 58; Bedall yn lle Minto 74
Academïau Rhanbarthol D23: Jac Davies (Scarlets); Josh Carrington (Met Caerdydd), Gabe McDonald (Scarlets), Fraser Jones (Caerdydd), Walker Price (Dreigiau); Josh Phillips (Abertawe), Rhodri Lewis (Scarlets, capten); Morgan Williams (Dreigiau), Tomoya Adachi (Dreigiau), Nathan Evans (Casnewydd), Evan Hill (Gweilch), Evan Rees (Caerdydd), Lucas de la Rua (Caerdydd), Owen Conquer (Dreigiau)
Eilyddio: Sam Scarfe (Dreigiau) yn lle Adachi 50; Freddie Chapman (Gweilch) yn lle Williams 50; Joe Cowell (Caerdydd) yn lle Evans 50; Ethan Phillips (Caerdydd) yn lle Hill 50; Kobi Rees (Glyn Ebwy) yn lle Evan Rees 56; Luca Settaro (Scarlets), Sam Potter (Dreigiau) yn lle Phillips 56; Kodi Stone (Caerdydd) yn lle Price 56; Charlie Probert (RGC) yn lle Conquer 55