Neidio i'r prif gynnwys
Belinda Moore WRU Head of Womens Rugby

Moore am gynnig mwy i gamp y Merched a’r Menywod

Mae Belinda Moore wedi cael ei phenodi yn Bennaeth newydd ar Rygbi Merched a Menywod Cymru.

Rhannu:

Bu Moore, sy’n ffigwr amlwg iawn yng nghamp y Menywod, yn Brif Weithredwr ar y Bencampwriaeth yn Lloegr (PWR) tan fis Tachwedd y llynedd.

Mae ganddi hefyd brofiad o weithio yn y cyfryngau fel Uwch-gynhyrchydd i’r BBC ac ym meysydd rheoli prosiectau, nawdd a chysylltiadau cyhoeddus. Yn ogystal, bu’n Arweinydd a Phennaeth Partneriaethau ar gyfer Cylchdaith Golff DP, mae hi wedi gweithio i ddwy asiantaeth chwaraeon amlwg a hi hefyd oedd Pennaeth Ymgysylltu’r Athletwyr yng Ngemau Olympaidd 2012.

Daw penodiad Moore yn fuan wedi i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi canlyniad eu hadolygiad i rai agweddau o fewn camp y Menywod, nododd yr angen i greu swydd newydd benodol i arwain gêm y Merched a’r Menywod.

Am gyfnod o 9 mis y bydd Belinda Moore wrth y llyw, ac un o’i chyfrifoldebau yn ystod y cyfnod hwnnw fydd cynorthwyo’r broses o benodi ei holynydd parhaol.

Rhai o’i phrif gyfrifoldebau eraill fydd adolygu’r systemau a’r llwybrau datblygu sy’n arwain at y gêm broffesiynol gan hefyd edrych ar gynaliadwyedd yr Her Geltaidd o safbwynt Cymreig yn yr hirdymor.

Bydd paratoi ar gyfer Cwpan y Byd 2025 hefyd yn flaenoriaeth, yn ogystal â chytundebau a diwylliant y garfan genedlaethol. Bydd Moore hefyd yn cyfrannu at Bwyllgorau Rygbi Menywod a’r Chwe Gwlad.

Bydd Belinda Moore yn dechrau ar ei gwaith heddiw a’i thasg gyntaf fydd cydweithio’n agos gyda Phrif Hyfforddwr newydd y Menywod. Bydd manylion y penodiad hwnnw’n cael ei gyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf.

Dywedodd Belinda Moore: “Mae hwn yn amser cyffrous iawn i ymuno â Rygbi Cymru – a gêm y Merched a’r Menywod yn benodol.

“Dim ond ers tair blynedd y mae’n chwaraewyr rhyngwladol wedi bod yn broffesiynol ac mae’r datblygiad yn ystod y cyfnod hwnnw wedi bod yn sylweddol.

“Wrth ddatblygu’n gyflym, ‘dyw hi’n ddim syndod bod rhai problemau cychwynol wedi dod i’r amlwg – ond mae fy llygaid yn gwbl agored ac ‘rwy’n teimlo’n hyderus a chadarnhaol iawn am yr hyn y gallwn ei gyflawni.

“Mae’n flwyddyn Cwpan y Byd wrth gwrs a gyda Phrif Hyfforddwr newydd ar fin ymuno â ni -yn ogystal â strwythur mwy cadarn ac aelodau staff i weithredu’r datblygiadau newydd angenrheidiol – mae hwn yn gyfnod cyffrous i gamp y Merched a’r Menywod yng Nghymru.

“Mae’r twf yn ein gêm yn amlwg i bawb a gyda’r gêm yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality ddiwedd mis Mawrth yn debygol o dorri tir newydd i ni yma yng Nghymru o safbwynt maint y dorf – bydd hynny’n cryfau ein camp ymhellach.

“Ein gawith yw manteisio ar y twf yma a galluogi rygbi Merched a Menywod yma yng Nghymru i gyrraedd eu llawn botensial o Fôn i Fynwy.”

Bydd deiliad swydd Pennaeth Rygbi Merched a Menywod yn atebol i Gyfarwyddwr Rygbi dros dro Undeb Rygbi Cymru Huw Bevan, sy’n gwneud y swydd honno ar hyn o bryd wedi iddo gymryd yr awenau gan i Nigel Walker ymddiswyddo cyn y Nadolig. Bydd Cyfarwyddwr Cymunedol yr Undeb Geraint John, yn gofalu am y cyfrifoldebau cymunedol hyd nes i Gyfarwyddwr Rygbi parhaol gael ei benodi.

Ychwanegodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Mae’r penodiad hwn wedi bod yn brif flaenoriaeth i ni ac felly mae’r ffaith ein bod wedi llwyddo i sicrhau gwasanaeth rhywun o safon a phrofiad Belinda’n allweddol o bwysig.

“Y rôl hon fydd conglfaen ein datblygiad yng nghamp y Merched a’r Menywod dros y pum mlynedd nesaf wrth i ni weithredu ein strategaeth ‘Cymru’n Un’ hyd at 2029.

“Ry’n ni gyd yn gwybod bod rygbi Merched a Menywod yn ardal o dwf i ni – o safbwynt y niferoedd sy’n chwarae’r gêm – ac o safbwynt masnachol hefyd – ac felly mae’n hynod bwysig ein bod yn meithrin y twf hwn yn effeithiol.

“Belinda yw’r person perffaith ar gyfer y gwaith yma ar yr amser yma ac ‘ry’n ni’n estyn croeso cynnes iawn iddi i deulu Rygbi Cymru. Mae’r dyfodol yn gyffrous a byddwn yn gweithio’n arbennig o galed i sicrhau ein bod yn penodi’r person gorau i wneud y gwaith yn llawn amser yn y pendraw.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Moore am gynnig mwy i gamp y Merched a’r Menywod
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Moore am gynnig mwy i gamp y Merched a’r Menywod
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Moore am gynnig mwy i gamp y Merched a’r Menywod
Rhino Rugby
Sportseen
Moore am gynnig mwy i gamp y Merched a’r Menywod
Moore am gynnig mwy i gamp y Merched a’r Menywod
Moore am gynnig mwy i gamp y Merched a’r Menywod
Moore am gynnig mwy i gamp y Merched a’r Menywod
Moore am gynnig mwy i gamp y Merched a’r Menywod
Moore am gynnig mwy i gamp y Merched a’r Menywod
Amber Energy
Opro
Moore am gynnig mwy i gamp y Merched a’r Menywod