Neidio i'r prif gynnwys
Whiffin yn gwneud llu o newidiadau.

Aidan Boshoff - un o'r pump sy'n dechrau eto.

Whiffin yn gwneud llu o newidiadau.

Mae Richard Whiffin wedi gwneud 10 newid ar gyfer ail gêm tîm o dan 20 Cymru yn erbyn yr Academïau Rhanbarthol yn Llanymddyfri nos Wener (7.30pm)

Rhannu:

Dim ond asgellwr Bryste Aidan Boshoff, prop Caerfaddon Ioan Emanuel, clo Bryste Kenzie Jenkins, blaenwr  aml-safle Caerfaddon Arthur Moore ac wythwr y Dreigiau Evan Minto – sy’n dechrau unwaith eto’r wythnos hon – wedi buddugoliaeth y tîm o 42-21 ar Barc yr Arfau’r wythnos ddiwethaf.

Bydd y deg chwaraewr newydd yn gobeithio creu argraff ffafriol ar y tîm hyfforddi cyn i Gymru ddechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth o dan 20 y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc yn Vannes ar y cyntaf o Chwefror.

Yn cael eu cyfle i arddangos eu doniau’r wythnos hon fydd olwyr y Gweilch Lewis Edwards a Ieuan Cornelius, y ddeuawd o Sale sef y canolwr Osian Roberts a’r mewnwr Carwyn Edwards, canolwr y Scarlets Elis Price a’i fachwr rhanbarthol Harry Thomas a’r ddau flaenwr o’r Dreigiau Nick Thomas a Ryan Jones.

Gan fod y capten yr wythnos ddiwethaf, Harry Beddal wedi ei ddewis ar y fainc, Harry Thomas fydd yn arwain tîm yr wythnos hon.

O safbwynt pymtheg yr Academïau, mae newidiadau lu wedi eu gwneud i’w pymtheg cychwynol nhw hefyd. Dim ond olwyr y Scarlets Jac Davies a Gabe McDonald, maswr Abertawe Josh Phillips, blaenasgellwr Caerdydd Evan Rees ac wythwr y Dreigiau Owen Conquer sy’n cael dechrau am yr ail wythnos o’r bron.

Mae’r propiau Freddie Chapman a Joe Cowell, y blaenasgellwr Charlie Probert a’r cefnwr Sam Potter wedi eu dyrchafu o’r fainc yr wythnos hon a Cowell – sy’n brop pen tynn gyda Chaerdydd – fydd y capten ar Fanc yr Eglwys yn Llanymddyfri.

Dywedodd Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru, Richard Whiffin:

“Fe wnaeth nifer o chwaraewyr argraff arna’i yr wythnos ddiwethaf. ‘Roedd hi’n ornest gorfforol ac fe reolon ni nifer o agweddau o’r gêm.

“Fe wnaethon ni ambell gamgymeriad hefyd – ac fe fanteisiodd yr Academïau’n fawr arnyn nhw. Er bod lle i wella gennym yn ardal y dacl yn benodol, ‘ro’n i’n arbennig o falch o agwedd y bechgyn a’r ffaith i ni dorri’n glir gyda dau gais hwyr.

“Ry’n ni wedi bod yn gweithio’n arbennig o galed ar agweddau corfforol ein gêm fel ein bod yn barod am her y Ffrancod ymhen pythefnos.”

Cymru D20 v Academïau Rhanbarthol – Llanymddyfri, Gwener 17 Ionawr (7.30pm)

Cymru D20: Lewis Edwards (Gweilch); Aidan Boshoff (Bryste); Osian Roberts (Sale), Elis Price (Scarlets), Ieuan Cornelius (Gweilch); Harri Ford (Dreigiau), Carwyn Edwards (Sale); Ioan Emanuel (Caerfaddon), Harry Thomas (Scarlets, capten), Owain James (Dreigiau), Nick Thomas (Dreigiau), Kenzie Jenkins (Bryste), Arthur Moore (Caerfaddon), Ryan Jones (Dreigiau), Evan Minto (Dreigiau)
Eilyddion: Morgan Williams (Dreigiau), Lewis Jones (Cwins Caerfyrddin), Jac Pritchard (Scarlets), Dylan Alford (Scarlets), Tom Cottle (Rygbi Gogledd Cymru), Harry Beddall (Caerlŷr), Sion Davies (Caerdydd), Harri Wilde (Caerdydd), Osian Darwin-Lewis (Caerdydd), Iori Badham (Scarlets)

Academïau Rhanbarthol: Sam Potter (Dreigiau); Jac Davies (Scarlets), Iestyn Gwilliam (Cwins Caerfyrddin), Gabe McDonald (Scarlets), Macauley Rowley (Penybont); Josh Phillips (Abertawe), Lucca Setaro (Scarlets); Freddie Chapman (Gweilch), Isaac Young (Scarlets), Joe Cowell (Caerdydd, capten), Ben Roberts (Gweilch), Ilan Evans (Rygbi Gogledd Cymru), Evan Rees (Caerdydd), Charlie Probert (Rygbi Gogledd Cymru), Owen Conquer (Dreigiau)
Eilyddion: Tomoya Adachi (Dreigiau), Harry Olding (Penybont), Paddy Nelson (Rygbi Gogledd Cymru), Ethan Phillips (Caerdydd), Kobi Rees (Glyn Ebwy), Rhodri Lewis (Scarlets), Fraser Jones (Caerdydd), Gabe Lacey (Penybont), Cori Lewis-Jenkins (Gweilch), Kodi Stone (Caerdydd)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Whiffin yn gwneud llu o newidiadau.
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Whiffin yn gwneud llu o newidiadau.
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Whiffin yn gwneud llu o newidiadau.
Rhino Rugby
Sportseen
Whiffin yn gwneud llu o newidiadau.
Whiffin yn gwneud llu o newidiadau.
Whiffin yn gwneud llu o newidiadau.
Whiffin yn gwneud llu o newidiadau.
Whiffin yn gwneud llu o newidiadau.
Whiffin yn gwneud llu o newidiadau.
Amber Energy
Opro
Whiffin yn gwneud llu o newidiadau.