Thomas fydd yn arwain tîm o dan 20 Cymru yn erbyn yr Academïau Rhanbarthol – fydd yn cynnwys Young. Ni chwaraeodd yr un o’r ddau yn yr ornest gyfatebol y penwythnos diwethaf ar Barc yr Arfau pan enillodd carfan Richard Whiffin o 42-21.
Fe enillodd y prop Isaac Young chwe chap o dan 20 yn nhymor 2022/23 ond er ei fod yn gymwys y tymor diwethaf hefyd – golygodd anaf difrifol i’w droed iddo golli’r Bencamperiaeth yn llwyr.
Mae’r bachwr cydnerth Thomas wedi arwain tîm o dan 18 Cymru’n y gorffennol ac mae wedi cynrychioli y tîm o dan 20 mewn deg gêm ryngwladol.
Mae maes Banc yr Eglwys yn gyfarwydd iawn i Harri Thomas gan ei fod yn chwarae dros Lanymddyfri yn Super Rygbi Cymru a bu’n aleod o garfan y clwb y tymor diwethaf enillodd Uwch Gynghrair Indigo a’r Cwpan hefyd.
Dywedodd Harry Thomas: “Mae pobl Llanymddyfri’n caru eu rygbi ac ‘rwy’n gobeithio y bydd torf dda yno i wylio’r gêm. Byddai hynny’n ychwanegu at y cyffro a’r achlysur hefyd.
“Rwyf wedi cael y fraint o arwain Coleg Sir Gâr a thîm o dan 18 y Scarlets yn y gorffennol ond bydd hi’n eiliad arbennig arwain y tîm o dan 20 i faes Banc yr Eglwys.
“Mae hi’n mynd i fod yn ornest galed a chorfforol – ac mae’r ddwy gêm yn erbyn yr Academïau’n baratoad gwych cyn i ni deithio i Vannes i herio Ffrainc ar y cyntaf o Chwefror yn ein gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
“O safbwynt gêm heno – mae’n rhaid i ni fod yn fwy clinigol wrth gymryd ein cyfleoedd ac hefyd yn ardal y dacl – ond yn y pendraw y canlyniad yn Vannes – nid canlyniad heno sydd fwyaf pwysig.”
Mae Thomas a Young wedi wynebu ei gilydd yn barod y tymor hwn wrth i Lanymddyfri drechu Cwins Caerfyrddin yn Super Rygbi Cymru – a gobaith Harry Thomas yw gallu ail-adrodd y profiad hwnnw heno ar Fanc yr Eglwys.