Mae Lynn wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a daw â môr o brofiad ac arbenigedd hyfforddi gydag ef.
Ganed Lynn yn Abertawe ac fe arweiniodd lwyddiant Hartpury-Caerloyw yn Uwch Gynghrair Lloegr am y ddau dymor diwethaf – sef y cynghrair menywod sy’n cael ei ystyried fel y gorau’n y byd.
Mae Hartpury-Caerloyw yn arwain y ffordd yn y cynghrair eto eleni hefyd ac mae’r garfan yn cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru.
Yn y tymor byr, bydd Sean Lynn yn cyfuno ei ddyletswydau clwb a rhyngwladol gan ganolbwyntio ar gwblhau tymor domestig ei glwb i ddechrau, cyn troi ei olygon yn llwyr at Gymru wedi hynny.
Bydd ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau yng Nghaeredin yn erbyn Yr Alban ar yr 22ain o Fawrth.
Gêm gartref gystadleuol gyntaf Sean Lynn wrth y llyw fydd honno’n erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality ar y 29ain o Fawrth ac mae disgwyl i’r ornest honno dorri’r record o safbwynt torf ar gyfer y Menywod yma yng Nghymru.
Mae’n argoeli i fod yn flwyddyn anhygoel i rygbi menywod wrth gwrs – gan fod cystadleuaeth Cwpan y Byd yn cael ei chynnal yn Lloegr ym mis Awst a Medi.
Fel chwaraewr, fe gynrychiolodd Sean Lynn dimau Myfyrwyr ac o Dan 18 Cymru fel mewnwr ac fe ddechreuodd hyfforddi yn Academi Rygbi Hartpury. O dan ei arweiniad fe enillodd Prifysgol Hartpury Bencampwriaeth Super Rugby y Prifysgolion deirgwaith o’r bron.
Cafodd ei benodi’n Bennaeth Rygbi Menywod yn Hartpury-Caerloyw yn 2019 ac mae ei gynlluniau datblygu a’i ddawn fel hyfforddwr wedi eu gweld yn arwain y ffordd yng nghamp y menywod yn Lloegr ers hynny.
Mae ei brofiad helaeth wedi datblygu gyrfaoedd llu o ferched a menywod o Gymru, Lloegr ac Iwerddon ac mae ei ddawn wrth adnabod a datblygu chwaraewyr addawol hyd at y lefel uchaf un yn cael ei gydnabod a’i barchu’n fawr.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Rwy’n Gymro balch ac felly ‘dyw hi ddim yn anodd dyfalu beth mae hyn yn ei olygu i mi.
“Mae cael fy mhenodi’n Brif Hyfforddwr ar Fenywod fy ngwlad yn uchafbwynt pendant yn fy ngyrfa ac ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r garfan – sy’n ifanc a thalentog.
“Mae’r Chwe Gwlad ar y gorwel a Chwpan y Byd wedi hynny a hon fydd y flwyddyn fwyaf erioed i rygbi Menywod hyd yn hyn. Mae’n gyfnod cyffrous iawn a bydd y digwyddiad yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality ar y 29ain o Fawrth yn arwydd o’r cynnydd sydd yn y diddordeb y gêm yma yng Nghymru.
“Mae gennyf y profiad o hyfforddi nifer o chwaraewyr carfan Cymru ac ‘rwyf wedi hyfforddi yn erbyn y mwyafrif o’r gweddill hefyd. ‘Rwy’n gwybod yn iawn fod gennym y chwarewyr i wneud ein cenedl yn falch.”
Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: “Mae penodiad Sean Lynn yn cadarnhau pwysigrwydd datblygiad ein tîm rhyngwladol. Mae’r parch tuag ato fel hyfforddwr yn uchel iawn – ac mae’r ffaith ei fod wedi ennill y ddwy Bencampwriaeth ddiwethaf yn Lloegr yn brawf o’i ddawn.
“Rwyf wrth fy modd ei fod wedi derbyn y swydd gan mai ef oedd yr ymgeisydd cryfaf yn ystod proses benodi o safon arbennig o uchel. ‘Roedd ansawdd yr ymgeiswyr yn arwydd clir o bwysigrwydd swydd Prif Hyfforddwr Cymru.”
Daw penodiad Lynn wythnos wedi i Belinda Moore gael ei chyhoeddi’n Bennaeth Rygbi Menywod URC ac fe ddywedodd hi: “Mae enw da a gallu Sean wrth adeiladu timau llwyddiannus ar y cae ac oddi arno’n amlwg iawn.
“Mae hwn yn benodiad pwysig ac arwyddocaol i rygbi Cymru. ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei gefnogi yn ei waith ac i’w gynorthwyo i siapio gêm y menywod yma yng Nghymru.”