Y gobaith yw y bydd cefnogwyr angerddol Cymru’n codi llef a chodi’r to er mwyn cyfrannu at awyrgylch eiconig y Stadiwm unwaith yn rhagor wrth groesawu Iwerddon a Lloegr ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025.
Gall Undeb Rygbi Cymru hefyd gadarnhau heddiw bod pob tocyn ar gyfer ymweliad y Gwyddelod ar yr 22ain o Chwefror (14:15pm) wedi eu gwerthu. Er mai’r gêm yn erbyn ‘Yr Hen Elyn’ ar y 15ed o Fawrth (16:45) yw gornest olaf Cymru yn y Bencampwriaeth, gwerthwyd pob un o’r 74,000 tocyn ar gyfer honno o fewn yr oriau cyntaf.
Mae’r penderfyniad i gau’r to wedi ei gytuno gan y Chwe Gwlad a bydd hynny’n gwarantu a chysoni gwell amodau chwarae a gwella profiad y cefnogwyr hefyd.
Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: “Mae gwerthu pob tocyn ar gyfer ein dwy gêm gartref ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn adlewyrchu’r cyffro mawr sydd wrth i ni edrych ymlaen at y gystadleuaeth eleni ac mae hynny’n brawf o’r gefnogaeth a’r ffydd sydd gan ein cefnogwyr yn ein tîm.
“Mae Stadiwm Principality’n cael ei gydnabod ledled y byd fel un o’r lleoliadau chwaraeon mwyaf eiconig sy’n meddu ar awyrgylch unigryw. Mae’r ffaith fod gynnym y gallu i gau’r to yn golygu y bydd y Stadiwm o dan ei sang a’r awyrgylch yn arbennig yn ystod y Chwe Gwlad.”
Cyhoeddwyd heddiw hefyd fod y Cynnig Cynnar am docynnau ar gyfer dwy ornest gartref y Menywod yn Chwe Gwlad 2025 wedi ei ymestyn tan yr 21ain o Ionawr. Mae gwerthiant y tocynnau ar gyfer y gemau’n Stadiwm Principality a Rodney Parade yn galonogol a’r neges syml i gefnogwyr rygbi Cymru yw mynnwch eich lle: (WRU.WALES/TICKETS) now.
Ychwanegodd Abi Tierney: “Mae’n argoeli i fod yn dymor arbennig o gyffrous yng nghamp y menywod a bydd yr ornest yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality wrth gwrs. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein cefnogwyr ffyddlon ar gyfer achlysur ac awyrgylch cofiadwy arall.”
Dywedodd Mark Williams, Rheolwr Stadiwm Principality: “Pan mae’r Stadiwm yn llawn dop a’r canu’n atseinio o’i amgylch – does dim gwell awyrgylch yn y byd chwaraeon.
“Yn y gorffennol, ‘rydym wastad wedi dod i gytundeb gyda’n gwrthwynebwyr am agor neu gau’r to – ond gyda’r penderfyniad hanesyddol yma byddwn yn gallu gwneud y mwyaf o’n hadnoddau a’n hawyrgylch wrth sicrhau fod y to ar gau am y ddwy flynedd nesaf ar gyfer gemau rhyngwladol.
“Pan mae’r to wedi’i gau, mae’r awyrgylch yn fygythiol. Mae’n brofiad gwych i’r cefnogwyr – ac felly fydd hi ar gyfer ein dwy gêm gartref yn y Bencampwriaeth eleni.”Tocynnau Lletygarwch
Mae nifer cyfyngedig o becynau lletygarwch ar gael ar gyfer gemau Iwerddon a Lloegr trwy:
Mae modd hefyd sicrhau Gwely a Brecwast yng Ngwesty’r Parkgate: http://www.theparkgatehotel.wales
Mae cwmni Events International yn trefnu lletygarwch yn agos at y Stadiwm (eventsinternational.co.uk) a gellir trefnu Pecynau Teithio Swyddogol trwy gulliverstravel.co.uk
Mae System Cyfnewid Tocynnau Swyddogol URC ar gael yma: welshrugbyticketexchange.seatunique.com.
Cafodd y platfform ei sefydlu gan Seat Unique yn 2022 ac mae’n galluogi cefnogwyr i gyfnewid tocynnau’n ddiogel ac mewn modd sy’n cael ei reoleiddio ac wedi ei warantu gan Undeb Rygbi Cymru. Bob tro y bydd tocyn yn cael ei gyfnewid bydd cyfraniad o £1 yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng elusennau dewisol Undeb Rygbi Cymru (Ymddiriedolaeth Elusennol URC) a Seat Unique (Y Lleng Brydeinig).