Neidio i'r prif gynnwys
Dupont yn awchu i arwain Ffrainc unwaith eto’n erbyn Cymru

Hawlfraint ©INPHO/Billy Stickland

Dupont yn awchu i arwain Ffrainc unwaith eto’n erbyn Cymru

Mae Antoine Dupont yn awchu i arwain Ffrainc unwaith eto’n erbyn Cymru ar ddiwrnod ola’r mis.  

Rhannu:

Fe ganolbwyntiodd mewnwr Toulouse ar ffurf 7 bob ochr y gamp y llynedd – ac fe enillodd Fedal Aur gyda thîm Ffrianc yn eu Gemau Olympaidd cartref. ‘Roedd y Rownd Derfynol gofiadwy honno yn y Stade de France – a bydd Dupont yn dod â’i gyfnod o 685 o ddyddiau heb gynrychioli tîm pymtheg bob ochr ei wlad i ben yn yr un stadiwm yn erbyn Cymru ar yr 31ain o Ionawr.

Dywedodd Antoine Dupont, fydd yn ennill ei 55fed cap yn erbyn Cymru: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y gêm – ond ar un ystyr byddai’n braf chwarae’r gêm yng Nghaerdydd gan bod y sŵn yno’n fyddarol – yn enwedig pan mae’r to wedi cau. Mae’r awyrgylch yn arbennig yno ac mae gennyf lu o atgofion melys o chwarae yng Nghaerdydd.

“Mae pawb yn disgwyl i ni ennill y gêm agoriadol – ond fe fyddwn yn ofalus a pharchus iawn o’r hyn sydd gan y Cymry i’w gynnig.”

Chwilio am berfformiad da a di-gyfaddawd y mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland ac mae’n grediniol bod y pwysau i gyd ar ysgwyddau’r Ffrancod:

“Mae’n mynd i fod yn her a hanner ym Mharis ond ‘ry’n ni’n gyfarwydd â dechrau’n hymgyrch Chwe Gwlad ar dir Ffrainc. Yn 2019 fe deithion ni’n syth o Baris i’r Eidal a dyna yw’r drefn unwaith eto’r tro hyn.

“Does dim llawer o bobl y y tu allan i’r garfan yn credu y gallwn gael dechrau da’n y Bencampwriaeth – ond mae’n paratoadau’n nynd yn dda hyd yn hyn ac mae hyder amlwg yn y garfan.

“Mae’n rhaid i ni fod yn barod ar gyfer dipyn o gêm – a dipyn o achlysur yn y Stade de France.

“Ry’n ni wedi colli môr o brofiad ers Cwpan y Byd ond mae’r ffaith bod Toby Faletau, Josh Adams Liam Williams a Dafydd Jenkins wedi dychwelyd i’r garfan yn bwysig iawn i ni.

“Mewn cystadleuaeth fel y Chwe Gwlad mae momentwm yn allweddol – ac os y cawn ni ganlyniadau ffafriol i ddechrau – gall unrhywbeth ddigwydd.

“Bydd y gystadleuaeth yn arbennig o gryf a safonol eleni ac ‘ry’n ni gyd yn edrych ymlaen at yr her a’r cyffro sydd o’n blaenau.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Dupont yn awchu i arwain Ffrainc unwaith eto’n erbyn Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Dupont yn awchu i arwain Ffrainc unwaith eto’n erbyn Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Dupont yn awchu i arwain Ffrainc unwaith eto’n erbyn Cymru
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Dupont yn awchu i arwain Ffrainc unwaith eto’n erbyn Cymru