Mae Brython yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf o’u hymgyrch tra bo’r Clovers eisoes wedi ennill tair o’u gemau nhw.
Y clo rhyngwladol Natalia John fydd yn arwain y Cymry ac mae 10 newid a thri newid o ran safle ers eu gêm ddiwethaf yn erbyn y Wolfhounds yn Nulyn bythefnos yn ôl.
Mae canolwr Cymru Hannah Bluck yn dychwelyd i’r tîm a Savannah Picton-Powell fydd yn cadw cwmni iddi yng nghanol y cae.
Seren Singleton sydd wedi ei dewis yn fewnwr a Niamh Terry fydd y maswr.
Stella Orin, Chloe Grant a Cadi-Lois Davies fydd yn cael y profiad newydd o rannu dyletswyddau’r rheng flaen gyda’i gilydd. O ganlyniad i anafiadau i Jess Rogers a Lucy Isaac – bydd golwg eithaf anghyfarwydd ar y rheng ôl hefyd. Katie Carr, Finley Jones ac Anna Stowell fydd y drindod yng nghefn y sgrym.
O ganlyniad i’w dyletswyddau ym Mhencampwriaeth y Prifysgolion – nid oedd y maswr Hanna Marshall ar gael i’w hystyried ar gyfer y daith i Belfast.
Dywedodd Ashley Beck, Prif Hyfforddwr Brython Thunder:”Ry’n ni’n dîm ifanc iawn ar hyn o bryd ac felly mae’n rhaid i ni ddysgu sut i ymdopi gyda safon yr Her Geltaidd yn gyflym.
“Y ddau dîm o Iwerddon sydd wedi gosod y safon yn y gystadleuaeth ers iddi gael ei sefydlu ac felly ‘ry’n ni’n disgwyl wynebu her a chryn safon dros y penwythnos.
“Mae’r profiadau yma’n arbennig o werthfawr i’n carfan wrth iddyn nhw ddatblygu a chryfhau ar y maes chwarae – a bydd hynny’n bendant yn wir yn erbyn y Clovers – sy’n llawn o chwaraewyr rhyngwladol.
“Mae gennym lawer iawn o ddawn yn y garfan ond mae’n rhaid i ni wella’n canolbwyntio a’n disgyblaeth wrth weithredu ein cynlluniau tactegol. Wrth i ni wneud hynny bydd ein perfformiadau’n gwella’n gyson ac yn gyflym.”
Brython Thunder (v Clovers)
Hannah Lane, Ellie Tromans, Hannah Bluck, Savannah Picton Powell, Amy Williams, Niamh Terry, Seren Singleton; Stella Orrin, Chloe Gant, Cadi-Lois Davies, Robyn Davies, Natalia John (Capten), Katie Carr, Finley Jones, Anna Stowell
Eilyddion: Lowri Williams, Elan Jones, Emma Powson, Danai Mugabe, Bethan Adkins, Ffion Davies, Gabby Healan, Eleanor Hing