Neidio i'r prif gynnwys
Buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i Ffrainc yn erbyn Cymru

Noson anodd i Gymru ym Mharis.

Buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i Ffrainc yn erbyn Cymru

Colli o 43-0 fu hanes Cymru yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 ym Mharis wrth i’r Ffrancod groesi am saith o geisiau o dan arweiniad athrylithgar eu capten Antoine Dupont.

Rhannu:

Hwn oedd y trydydd tro ar ddeg o’r bron i’r Cymry golli ar y llwyfan rhyngwladol a hon oedd y golled fwyaf erioed ar dir Ffrainc.

Er bod Warren Gatland wedi arwain Cymru at dair buddugoliaeth yn y Stade de France yn y gorffennol, chafodd ef mo’r canlyniad yr oedd yn ei obeithio amdano yn ei 150fed gêm wrth y llyw wrth i Les Bleus adeiladu ar eu llwyddiannau yn erbyn Japan, Ariannin a Seland Newydd fis Tachwedd.

Hon oedd trydedd colled ar ddeg y Cymry’n olynol mewn gemau prawf ers y fuddugoliaeth o 43-19 yn erbyn Georgia yng Nghwpan y Byd yn Nantes yn 2023.

‘Roedd Warren Gatland wedi gwneud 11 o newidiadau o’r tîm gollodd yn erbyn De Affrica yn Stadiwm Principality yng Nghyfres yr Hydref – ond er bod y Crysau Cochion wedi ennill ar dir Ffrainc ar dri o’u chwe ymweliad diwethaf cyn yr ornest heno, y tîm cartref reolodd y chwarae yng nglaw gwanwynol Paris – gan sicrhau pwynt bonws yn ystod yr hanner cyntaf.

Yn ei gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad ers dros flwyddyn – bu ond y dim i Antoine Dupont agor y sgorio wedi dim ond 3 munud – ond fe lwyddodd Tomos Williams a Tom Rogers ei atal rhag tirio.

Cafodd wythwr dylanwadol Cymru Aaron Wainwright ei anafu yn y symudiad hwnnw – a daeth Tommy Reffell i’r maes yn ei le i ennill cap rhif 24.

Cyn ymweliad y Cymry, ‘roedd y Ffrancod wedi ennill 21 o’u 23 gêm ddiwethaf yn y Stade de France a bechgyn Fabien Galthié agorodd y sgorio wedi 17 munud. Fe osododd cic letraws hyfryd Dupont gais ar blât i asgellwr Pau, Theo Attissogbe – ac fe ychwanegodd Thomas Ramos y ddeubwynt o’r trosiad.

Bum munud wedi hynny – tro’r asgellwr chwith, Louis Bielle-Biarrey oedd hi i dirio – wedi i flaenwyr y tîm cartref guro ar linell gais y Cymry’n gyson. Wedi ail drosiad Ramos, ‘roedd mwyafrif yr 80,000 o dorf wedi deffro ac ‘roedd La Marseillaise yn atseinio o gwmpas y stadiwm.

Cafodd gobeithion yr ymwelwyr ergyd bellach yn y symudiad nesaf wrth i Owen Watkin orfod gadael y cae gydag anaf arall anffodus i’w ben-glin.

O ganlyniad i hynny daeth Dan Edwards i’r maes i ennill ei gap cyntaf ac fe gamodd i safle’r maswr, olygodd bod Ben Thomas yn symud i’r canol.

Enillodd Dan Edwards ei gap cyntaf dros ei wlad.

‘Roedd Evan Lloyd wedi bod yn amlwg yn y chwarae ar achlysur ei ddechreuad cyntaf dros ei wlad – ond wedi hanner awr o chwarae, cafodd ei ddanfon i’r cell cosb am dacl anghyfreithlon ar Bielle-Biarrey.

Fe brofodd hynny i fod yn gostus iawn i’r ymwelwyr gan iddynt ildio 14 pwynt pellach tra bod y bachwr ar yr ystlys.

Fe gymrodd y Ffrancod fantais lawn o’r dyn ychwanegol wrth i Dupont fylchu’n hudolus a chreu ail gais yn y gornel i Attissogbe. Gyda symudiad olaf y cyfnod cyntaf – gweledigaeth Dupont wrth basio arweiniodd at ail gais Bielle-Biarrey a phwynt bonws hanner cyntaf i Ffrainc.

Wedi pedwerydd llwyddiant Ramos at y pyst, ‘roedd Ffrainc yn gyfforddus ar y blaen o 28 pwynt wrth droi.

Wedi pum munud o’r ail hanner, fe ddaeth Warren Gatland â rheng flaen newydd i’r maes olygodd bod Nicky Smith yn ennill ei 50fed cap a phedwar munud wedi hynny, eilyddiwyd Dupont gan bod y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws eisoes wedi eu sicrhau.

Ond eilydd rheng flaen Ffrainc Julien Marchand hawliodd gais nesa’r noson – wrth i’r bachwr godi o waelod y pentwr cyrff yn dilyn sgarmes symudol o’r lein.

Gydag 13 o funudau ar ôl croesodd y tîm cartref am eu chweched cais a’r eilydd o glwb Section Paloise, Emilien Gailleton hawliodd hwnnw – eiliadau’n unig wedi iddo gamu i’r maes.

Tro Ffrainc oedd hi chwarae gydag 14 dyn am gyfnod wedi hynny gan i Romain Ntamack weld cerdyn coch am dacl hwyr ar Ben Thomas. Nid y diweddglo y byddai’r maswr wedi ei ddymuno amdano wedi blwyddyn a hanner allan o’r gêm gydag anaf.

Cafwyd un eiliad gofiadwy o safbwynt Cymreig wedi hynny – pan gamodd Rhodri Williams i’r maes – un mlynedd ar ddeg wedi ei unig ymddangosiad arall yn y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban – sy’n record o fwlch.

‘Roedd dal amser i’r eilydd Freddie Thomas weld cerdyn melyn ac i wythwr Ffrainc Grégory Alldritt dirio seithfed cais y crysau gleision gan rwbio halen ym mriwiau’r Cymry.

Mae deunaw mlynedd wedi mynd heibio ers i Gymru fethu â sgorio pwynt mewn gêm ryngwladol. Digwyddodd hynny yn Awstralia yn 2007 – ac fe adawodd bechgyn Warren Gatland y Stade de France yn waglaw heno wedi i Gymru fethu â sgorio pwynt yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf erioed.

Yn dilyn y golled drymaf erioed ar dir Ffrainc, bydd y garfan yn troi eu golygon tuag at Rufain gan y bydd Cymru’n herio’r Azzurri yn Rhufain am 2.15pm ddydd Sadwrn nesaf.

Canlyniad Ffrainc 43  Cymru 0

Yn dilyn y chwiban olaf, dywedodd Capten Cymru, Jac Morgan: “Ni’n siomedig iawn gyda’r golled yna. Do’dd ein disgyblaeth ni ddim yn ddigon da – ac ‘roedd Ffrainc yn dda iawn am fanteisio ar ein camgymeriadau ni.

“Doedd colli Aaron (Wainwright) ac Owen (Watkin) i anafiadau ddim wedi ein helpu – ond mae’n rhaid i ni ddysgu sut i addasu i hynny a pharatoi i chwarae hebddyn nhw.”

Ychwanegodd Dan Edwards ar achlysur ei gap cyntaf: : “Doedd y sgôr ddim yn neis. Roedden nhw’n glinigol iawn ac wrth i ni ‘chaso’r’ gêm fe wnaethon ni gamgymeriadau.

“Er i ni golli fel ‘naethon ni –‘roedd y profiad o ennill fy nghap cyntaf yma’n wych ond mae’n rhaid i mi ymarfer yn galed yr wythnos hon er mwyn ceisio cael y cyfle i ddechrau’r wythnos nesaf.”

Nododd Warren Gatland, Prif Hyfforddwr Cymru: “Fe ddechreuon ni’n weddol addawol. Fe weithiodd ein lein a’n sgrym yn reit dda ac fe weithion ni’n galed iawn – ond yn y pendraw ‘does dim esgus am y canlyniad yna.

“Mae’n rhaid i ni symud ymlaen a pharatoi’n dda ar gyfer y daith i’r Eidal yr wythnos nesaf.”

 

 

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i Ffrainc yn erbyn Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i Ffrainc yn erbyn Cymru
Buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i Ffrainc yn erbyn Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i Ffrainc yn erbyn Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i Ffrainc yn erbyn Cymru
Buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i Ffrainc yn erbyn Cymru
Buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i Ffrainc yn erbyn Cymru
Buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i Ffrainc yn erbyn Cymru
Buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i Ffrainc yn erbyn Cymru
Amber Energy
Opro
Buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws i Ffrainc yn erbyn Cymru