Neidio i'r prif gynnwys
Cariad brawdol yn y Bencampwriaeth o dan 20

Steff Emanuel

Cariad brawdol yn y Bencampwriaeth o dan 20

Mae gan y brodyr Emanuel le i ddioch i’w gardd gefn am eu gwneud mor gystadleuol.

Rhannu:

Mae deunaw mis yn gwahanu’r brodyr Ioan a Steff o Lanilltud Faerdref ac maen nhw wedi treulio oriau lawer dros y blynyddoedd yn rhedeg yn gwbl ddi-gyfaddawd at ei gilydd yng ngardd gefn y teulu.

Pwy fyddai wedi dychmygu y byddai’r ddau frawd yn dechrau ymgyrch Chwe Gwlad o dan 20 Cymru – ysgwydd wrth ysgwydd – yn Vannes heno.

Wrth baratoi ar gyfer y Bencampwriaeth, fe sgoriodd y prop pen rhydd Ioan bedwar cais mewn dwy gêm baratoadol yn erbyn yr Academïau Rhanbarthol – ac mae Steff y brawd ‘bach’ eisoes wedi cynrychioli Caerdydd yn Lyon yng Nghwpan Her Ewrop y tymor hwn.

Bydd chwarae o flaen torf angerddol Lyon yn baratoad da wrth edrych ymlaen at y gêm yn y Stade de la Rabine heno.

Dywedodd Steff:” Roedd chwarae’n Lyon yn brofiad anhygoel. Mae cefnogwyr Ffrainc yn ‘boncyrs’ ac mae’r awyrgylch yn Vannes yn mynd i fod yn wych hefyd gan bod pob tocyn wedi’i werthu.

“Fe chwaraeon ni gyda’n gilydd yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn Ne Affrica dros yr haf a bydd hi’n braf rhannu’r profiad gyda fy mrawd mawr unwaith eto.

“Mae’n chwarae’n arbennig o dda at hyn o bryd – ac er ei fod wedi sgorio pedwar cais yn ddiweddar – mae’n bwysig cofio mai cyfanswm o rhyw bedair metr redodd o i sgorio nhw’i gyd!”

Ioan Emanuel

Mae Steff wedi dilyn llwybr gyrfa Ioan yn eithaf agos – Ysgolion Pontypridd, Millfield, Cymru o dan 18 a bellach mae’r ddau yn chwarae gyda’i gilydd ar y lefel o dan 20.

“Mae Ioan flwyddyn a hanner yn hŷn na fi ac mae’r ffaith ein bod wedi bod mor gystadleuol dros y blynyddoedd – fel llawer iawn o frodyr eraill – wedi helpu fy ngyrfa’n fawr iawn hyd yma. Mae wedi bod yn gefnogo iawn i mi – er bod ganddo ben anferth!

“Gan ei fod wedi bod i Millfield, hen ysgol Gareth Edwards, ‘ro’n i’n fwy na hapus i’w ddilyn yno. Er mai dim ond 16 oed oeddwn i ar y pryd ‘dwi wir wedi mwynhau fy amser yno.

“O safbwynt fy nghyfleoedd i chwarae – ‘rwy’n hynod o ddiolchgar i Gaerdydd am y ffordd y mae’r clwb wedi dangos eu ffydd ynof. Mae Super Rygbi Cymru wedi rhoi cyfleoedd a phrofiadau gwych i lawer o fechgyn ifanc – ac mae criw da ohonom o’r clwb yn y garfan o dan 20. Felly nid dim ond fy mrawd mawr fydd yno i rannu’r profiad yma gyda mi.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cariad brawdol yn y Bencampwriaeth o dan 20
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Cariad brawdol yn y Bencampwriaeth o dan 20
Cariad brawdol yn y Bencampwriaeth o dan 20
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cariad brawdol yn y Bencampwriaeth o dan 20
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cariad brawdol yn y Bencampwriaeth o dan 20