O ganlyniad i anafiadau, ‘roedd Ashley Beck wedi gwneud deg o newidiadau i wynebu tîm oedd yn llawn o chwaraewyr rhyngwladol Iwerddon ac fe brofodd y profiad hwnnw’n allweddol yn y pendraw yn Stadiwm Kingspan.
Y clo Jayne Clohessy agorodd y sgorio cyn i Anna McGann fanteisio ar fylchiad cofiadwy Chisom Ugwueru i dirio am yr ail. Gan i Clohessy groesi eilwaith cyn yr egwyl ac yn dilyn trosiad y maswr Fowley, ‘roedd y Gwyddelod ar y blaen o 19-0 yn chwarter agoriadol yr ornest.
Daeth y pwynt bonws i ran y tîm cartref cyn troi – o ganlyniad i gais y prop Sophie Barrett ac fe hawliodd Clohessy ei thrydydd cais cyn yr egwyl hefyd. Wedi i’r asgellwr Amme Leigh Costigan boenydio’r Cymry ymhellach, ‘roedd mantais y tîm cartref yn 34-0 erbyn y chwiban hanner amser.
Yn yr ail hanner fe hawliodd Ugwueru, Barrett, McGann a Costigan eu hail geisiau o’r prynhawn gan selio buddugoliaeth swmpus i’r Clovers.