Neidio i'r prif gynnwys
Cymru o dan 20 yn ildio naw cais yn Vannes

Logan Franklin mewnwr y Cymry.

Cymru o dan 20 yn ildio naw cais yn Vannes

Colli o 63-19 fu hanes tîm o dan 20 Cymru yn erbyn Ffrainc yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Vannes.

Rhannu:

Hwn oedd yr wythfed tro o’r bron i’r Les Bleuets guro’r Cymry ar y lefel hon.

Daeth cais cyntaf y tîm cartref wedi cwta 4 munud o’r ornest wrth i’r bachwr Lyam Akrab fanteisio ar sgarmes symudol effeithiol o’r lein. Ychwanegodd y maswr Diego Jurd y cyntaf o’i naw trosiad o’r noson.

Toc wedi chwarter awr o’r chwarae – fe wrthododd yr ymwelwyr driphwynt hawdd gan fentro am gais eu hunain. Yn dilyn gweledigaeth a phas gywir yr îs-gapten Steff Emanuel, fe wasgodd asgwellwr Bryste, Aidan Boshoff i mewn i’r gornel i’w gwneud hi’n 7-5.

Fe enillodd y Ffrancod o 45-12 ar Barc yr Arfau y tymor diwethaf gan sgorio chwe chais yn y broses – ac felly ‘doedd hi’n ddim syndod i’r dorf o 12,000 yn y Stade de la Rabine yn Llydaw – weld y cefnwr Ugo Pacome – yn dewis ongl hyfryd gan ddod o hyd i’r llinell gais wedi bron i hanner awr o chwarae.

Yn dilyn ail gic hawdd Jurd at y pyst, ‘roedd gan y crysau gwynion 9 pwynt o fantais.

Dri munud wedi hynny, fe gafodd y Cymry ddihangfa. Yn dilyn meddwl chwim o lein fe groesodd yr asgellwr chwith Xan Mousques yn orfoleddus – ond yn dilyn adolygiad teledu, cosbwyd y blaen-asgellwr Antione Deliance am dacl beryglus ar Sam Scott a bu’n rhaid iddo dreulio deng munud yn y cell callio hefyd.

Dri munud yn ddiweddarch – tro Harry Thomas oedd profi’r siom o feddwl ei fod wedi sgorio cais – cyn i’r dyfarnwr teledu ddileu’r sgôr. Trosedd dechnegol yn y lein oedd penderfyniad y tîm dyfarnu yn y pendraw.

Ond barodd rhywstredigaeth Thomas ddim yn hir gan i ail sgarmes symudol ym munudau ola’r hanner cyntaf roi cyfle arall i fachwr y Scarlets hawlio ail gais ei dîm. Llwyddodd Harri Wilde gyda’r trosiad olygodd bod y bwlch i lawr i ddeubwynt.

Mae gêm rygbi yn gallu troi ar ei phen yn sydyn – ac er mai munud yn unig oedd yn weddill o’r cyfnod cyntaf – fe ddioddefodd y Cymry dair ergyd sylweddol cyn troi.

Bu’n rhaid i glo’r Dreigiau Nick Thomas adael y maes gydag anaf difrifol i’w goes i ddechrau – ac yna dangoswyd cerdyn melyn i’r capten Harry Beddall am ladd y bêl.

Gyda’r cloc eisoes wedi troi’n goch – fe hyrddiodd Akrab dros y gwyngalch i gofnodi ei ail gais o’r noson cyn i Jurd barhau gyda’i record berffaith wrth drosi.

Hanner Amser: Ffrainc 21 Cymru 12.

Wedi iddo gael ei amddifadu’n yr hanner cyntaf, ddeng munud wedi troi fe lwyddodd Xan Mousques i hawlio’i gais ac o’r herwydd ‘roedd gan y Ffrancod bwynt bonws yn eu poced ac 16 phwynt o fantais wedi pedwaredd trosiad Jurd.

Bedwar munud wedi hynny creu cais i’r eilydd Fabien Brau-Boirie wnaeth Diego Jurd wedi iddo ddad-lwytho’n hyfryd – ac wrth gwrs fe gododd Jurd ei gyfanswm personol i ddeg pwynt gyda’r trosiad.

Ddau funud wedi hynny holltodd y pyst am y chweched tro wedi i Mousquest wasgu’n y gornel am yr eildro o fewn chwarter awr.

Yn ystod chwarter ola’r ornest fe efelychodd Harry Thomas gamp Mousques wrth dirio am yr eilwaith – ac fe ychwanegodd yr eilydd Harri Ford y ddeubwynt.

Er i fechgyn Richard Whiffin ddangos cryn gymeriad a menter, noson Ffrainc oedd hi fod ac yn dilyn cic letraws gampus hwyr Jurd – fe lwyddodd y canolwr Robin Taccola i sgorio 7fed cais ei wlad cyn i’r eilydd o fewnwr Nathan Llaveria ac yna’r eilydd o brop Jabea Njocke boenydio’r Cymry ymhellach gan godi cyfanswm y Ffrancod dros y trigain pwynt.

Efallai ei bod hi’n addas hefyd mai Jurd gafodd y gair olaf wrth iddo drosi am y nawfed tro a chadarnhau dechrau campus i ymgyrch bechgyn Cedric Laborde yn y Bencampwriaeth yn y broses.

Canlyniad: Ffrainc 63  Cymru 19

Y tro diwethaf i garfan o dan 20 Cymru ennill gêm oddi-cartref yn y Bencampwriaeth oedd yng Nghaerloyw yn erbyn Lloegr yn 2020 a bydd Richard Whiffin yn gobeithio y bydd y record honno’n dod i ben ymhen chwe niwrnod wrth i’w dîm ifanc herio’r Eidal yn ardal Treviso.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru o dan 20 yn ildio naw cais yn Vannes
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Cymru o dan 20 yn ildio naw cais yn Vannes
Cymru o dan 20 yn ildio naw cais yn Vannes
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru o dan 20 yn ildio naw cais yn Vannes
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru o dan 20 yn ildio naw cais yn Vannes
Cymru o dan 20 yn ildio naw cais yn Vannes
Cymru o dan 20 yn ildio naw cais yn Vannes
Cymru o dan 20 yn ildio naw cais yn Vannes
Cymru o dan 20 yn ildio naw cais yn Vannes
Amber Energy
Opro
Cymru o dan 20 yn ildio naw cais yn Vannes