Neidio i'r prif gynnwys
Tom Bowen

Tom Bowen gets a first start for Wales U20 against Italy on Friday

Tîm o Dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal

Mae’r Prif Hyfforddwr, Richard Whiffin wedi cadarnhau ei garfan ar gyfer eu hail gêm ym Mhencampwriaeth o dan 20 y Chwe Gwlad 2025 yn erbyn Yr Eidal. Bydd y gêm yn fyw nos Wener ar S4C am 7.15pm.

Rhannu:

Bydd y Cymry yn teithio i’r Stadio Comunale di Monigo yn Treviso i herio’r Eidalwyr a bydd y tîm yn cynnwys pedwar newid wedi’r golled o 63-19 yn erbyn Ffrainc yn y rownd agoriadol.

Mae prop pen rhydd Bryste, Louie Trevett yn cymryd lle Ioan Emanuel tra bo clo’r Gweilch Dan Gemine yn disodli Nick Thomas.

O safbwynt yr olwyr, bydd y canolwr Osian Roberts yn ennill ei gap cyntaf ar y lefel yma tra bydd asgellwr Caerdydd, Tom Bowen – yn dechrau ei gêm gyntaf, wedi iddo ddod i’r maes fel eilydd yn Vannes yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r Prif Hyfforddwr Richard Whiffin, eisoes wedi dweud bod y garfan wedi dod dros siom canlyniad nos Sadwrn diwethaf a’u bod yn canolbwyntio’n llwyr ar her yr Eidalwyr.

Dywedodd Richard Whiffin: “Doedd y sgôr ddim yn adlewyrchiad teg o’r gêm yr wythnos ddiwethaf. ‘Roedden ni’n wirioneddol gystadleuol ac yn creu problemau i Ffrainc am gyfnodau helaeth.

“Dyna pam ‘ry’n ni wedi canolbwyntio ar y pethau positif yr wythnos yma – gan gydnabod hefyd bod yn rhaid i ambell agwedd o’n chwarae wella’r penwythnos yma.

“Yn naturiol ‘ry’n ni wedi dadansoddi’r gêm yn Vannes yn fanwl ac ‘roedd perfformiad y blaenwyr yn dda iawn ar y cyfan.

“Am yr 50 munud cyntaf ‘roedden ni’n achosi problemau sylweddol i’r Ffrancod – ond fe dynnodd ambell benderyniad dadleuol y gwynt o’n hwyliau ychydig. Do fe aeth pethau o chwith o ran y sgôr wrth i ni fentro wrth geisio dod nôl mewn iddi – ond ‘roedd llawer o bethau yr oeddwn yn arbennig o falch ohonynt.

“Ry’n ni wastad yn hyderus cyn pob un gêm ac mae gennym gynllun penodol ar gyfer her Yr Eidal. Maen nhw’n dîm mawr a chorfforol – ond fe all hynny gynnig cyfleoedd i ni i gadw’r bêl yn fyw a’u symud nhw o gwmpas y cae yn gyson.

“Bydd yn rhaid i ni gicio’n ddeallus gan geisio rhoi’r cyfle i’n holwyr ddangos eu doniau – yn y gobaith y cawn ni’r gorau ar fois Yr Eidal.”

Cymru D20 v Yr Eidal D20, Stadio Comunale di Monigo, Gwener  7 Chwefror, 19.15, S4C

15 Scott Delnevo (Aberafan)
14 Aidan Boshoff (Bryste)
13 Osian Roberts (Sale)
12 Steffan Emanuel (Caerdydd)
11 Tom Bowen (Caerdydd)
10 Harri Wilde (Caerdydd)
9 Logan Franklin (Dreigiau);
1 Louie Trevett (Bryste)
2 Harry Thomas (Scarlets)
3 Sam Scott (Bryste)
4 Kenzie Jenkins (Bryste)
5 Dan Gemine (Gweilch)
6 Deian Gwynne (Caerloyw)
7 Harry Beddall (Caerlŷr – Capt)
8 Evan Minto (Dreigiau)

Eilyddion:

16 Saul Hurley (Aberafan)
17 Ioan Emanuel (Caerfaddon)
18 Jac Pritchard (Scarlets)
19 Tom Cottle (Rygbi Gogledd Cymru)
20 Ryan Jones (Dreigiau)
21 Siôn Davies (Caerdydd)
22 Harri Ford (Dreigiau)
23 Elijah Evans (Caerdydd)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm o Dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Tîm o Dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal
Tîm o Dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm o Dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm o Dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal
Tîm o Dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal
Tîm o Dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal
Tîm o Dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal
Tîm o Dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal
Amber Energy
Opro
Tîm o Dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal