Yn y pendraw, dau gais hwyr canolwr Cymru, Hannah Bluck, wedi iddi ddod i’r maes fel eilydd, oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm ar Barc y Scarlets heddiw.
Hawliodd y mewnwr bywiog Seren Singleton ddau gais ei hun hefyd – a’r clo Robyn Davies a’r bachwr Chloe Gant diriodd geisiau eraill y tîm cartref.
Fe arweiniodd Singleton a’r capten Natalia John drwy esiampl a bydd Caeredin wedi cael llond bol o wynebu’r clybiau Cymreig gan iddynt golli eu dwy gêm ddiwethaf yn y Bencampwriaeth yn erbyn Gwalia Lightning dros yr wythnosau diwethaf hefyd.
Yr ymwelwyr agorodd y sgorio wrth i brif sgoriwr ceisiau’r cynghrair hyd yma’r tymor hwn, Hannah Walker ddangos ei doniau unwaith yn rhagor – cyn i Singleton daro’n ôl dros y tîm cartref. Wedi trosiad Hanna Marshall, ‘roedd Brython ar y blaen o 7-5 hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf.
Fe ymatebodd yr ymwelwyr yn gadarn wrth i’r prop Hannah McMahon dirio ac wedi i Hannah Ramsay ychwanegu’r ddeubwynt, ‘roedd gan yr Albanwyr fantais o bum pwynt.
Pendiliodd yr ornest unwaith eto wrth i Robyn Davies hawlio’i chais ac am yr eildro, fe roddodd drosiad Marshall y Cymry’n ôl ar y blaen o drwch blewyn.
Lucia Scott gafodd y sgôr nesaf cyn i McRae ychwanegu’r trosiad – ond yn fuan wedi hynny fe fylchodd Savannah Picton-Powell yn drawiadol gan ryddhau Singleton i goroni cais gorau’r gêm. Yn dilyn trosiad arall gan Hanna Marshall, ‘roedd Brython Thunder ar y blaen o 21-19 ar hanner amser.
Er i gôl gosb gynnar Macrae wedi troi roi trwynau’r ymwelwyr ar y blaen yn gynnar wedi troi – ‘roedd carfan Ashley Beck yn benderfynol o ad-ennill y fantais unwaith yn rhagor. Dyna’n union wnaethon nhw yn dilyn cais y bachwr Grant, olygodd bod Brython Thunder wedi hawlio pwynt bonws a’r flaenoriaeth o 26-22.
Mewn gêm ryfeddol, fe hawliodd Caeredin eu pedwerydd a’u pumed cais nhw o ganlyniad i waith campus yr eilydd Amy Conchie a’r wythwr Merryn Gunderson – gan roi chwephwynt o fantais i’r ymwelwyr.
Ond gêm Hannah Bluck oedd hi wedi hynny.
Fe gamodd canolwr Cymru o’r fainc ac fe hawliodd hi ddau gais personol – ond yn bwysicach na dim fe sicrhaodd ei cheisiau fuddugoliaeth gyntaf ei thîm o’r tymor yn yr Her Geltaidd.