Bydd y tri olwr yn ymuno â charfan Cymru ddydd Llun yr 17eg o Chwefror i baratoi ar gyfer yr ornest yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn yr 22ain o’r mis bach. Mae pob tocyn ar gyfer yr ornest honno yn Stadiwm Principality wedi eu gwerthu’n barod.
Yn dilyn ei anaf difrifol yn erbyn Ffrainc yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025, mae canolwr y Gweilch Owen Watkin wedi ei ryddhau o’r garfan i gael llawdriniaeth. Mae cefnwr y Saraseniaid, Liam Williams hefyd wedi ei ryddhau yn dilyn yr anaf ddioddefodd i’w benglin.
Er bod Rob Howley’n parhau i fod yn gyflogedig gan Undeb Rygbi Cymru, ni fydd yn hyfforddi’r garfan genedlaethol am dair gêm ryngwladol nesaf Cymru.
CARFAN CYMRU AR GYFER PENCAMPWRIAETH CHWE GWLAD GUINNESS 2025
Blaenwyr (21)
Keiron Assiratti (Caerdydd – 12 cap)
James Botham (Caerdydd – 18 cap)
Elliot Dee (Dreigiau – 53 chap)
Taulupe Faletau (Caerdydd – 105 cap)
Dafydd Jenkins (Caerwysg – 20 cap)
WillGriff John (Sale – 2 gap)
Evan Lloyd (Caerdydd – 7 cap)
Kemsley Mathias (Scarlets – 5 cap)
Jac Morgan (Gweilch – 20 cap) capten
Sam Parry (Gweilch – 7 cap)
Taine Plumtree (Scarlets – 7 cap)
Tommy Reffell (Caerlŷr – 24 cap)
Will Rowlands (Racing 92 – 38 cap)
Nicky Smith (Caerlŷr – 51 cap)
Freddie Thomas (Caerloyw – 3 chap)
Gareth Thomas (Gweilch – 37 cap)
Henry Thomas (Scarlets – 6 chap)
Christ Tshiunza (Caerwysg – 15 cap)
Aaron Wainwright (Dreigiau – 54 cap)
Ben Warren (Gweilch – heb gap)
Teddy Williams (Caerdydd – 3 chap)
Olwyr (16)
Josh Adams (Caerdydd – 61 cap)
Gareth Anscombe (Caerloyw – 39 cap)
Ellis Bevan (Caerdydd – 6 chap)
Dan Edwards (Gweilch – 2 gap)
Jarrod Evans (Harlequins – 8 cap)
Josh Hathaway (Caerloyw – 3 chap)
Eddie James (Scarlets – 4 cap)
Max Llewellyn (Caerloyw – 5 cap)
Ellis Mee (Scarlets – heb gap)
Blair Murray (Scarlets – 5 cap)
Joe Roberts (Scarlets – 2 gap)
Tom Rogers (Scarlets – 7 cap)
Ben Thomas (Caerdydd – 9 cap)
Nick Tompkins (Saraseniaid – 40 cap)
Rhodri Williams (Dreigiau – 7 cap)
Tomos Williams (Caerloyw – 61 cap)