Fe enillodd y Gwyddelod ddwy Gamp Lawn o’r bron yn 2022 a 2023 ac er nad oedden nhw wedi colli’n erbyn y Cymry ar y lefel hon ers 2018 – fe lwyddodd y Crysau Cochion i guro Iwerddon am y tro cyntaf mewn saith cyfarfyddiad.
Doedd tîm o dan 20 Cymru heb guro’r Gwyddelod gartref ers y fuddugoliaeth gofiadwy o 41-27 ym Mae Colwyn yn 2017 ac yng ngwynt a glaw Rodney Parade fe ddechreuodd bechgyn Richard Whiffin ar garlam – gan barhau â’u momentwm yn y Bencampwriaeth yn dilyn eu buddugoliaeth bwysig yn erbyn Yr Eidal yn Nhreviso bythefnos yn ôl.
Ac fe gafodd y tîm cartref ddechreuad perffaith wedi 3 munud yn unig wrth i’r dyfarnwr Morgan White benderfynu bod Iwerddon wedi dymchwel y sgarmes symudol yng nghysgod y pyst.
Cais cosb i Gymru a cherdyn melyn i’r clo Billy Corrigan oedd canlyniad hynny.
Dri munud yn ddiweddarach bu ond y dim i’r asgellwr Charlie Moloney dirio’i bedwerydd cais o’r Bencampwriaeth eleni – ond er iddo groesi’r gwyngalch – fe gollodd reolaeth ar y bêl yn ôl y swyddog teledu.
Cyn i Corrigan gamu’n ôl o’r cell cosb i’r glaw – daeth y dyfarnwr teledu i adwy’r Cymry am yr eildro wrth benderfynu nad oedd yr wythwr a’r capten Eanna McCarthy wedi llwyddo i dirio’r bêl.
Rhaid canmol amddiffyn trefnus a dewr Cymru yn ystod y cyfnod hwn o chwarae a gwobrwywyd hynny wedi 14 munud wrth i Steff Emanuel ennill y ras i gyrraedd y bêl i hawlio ail gais ei dîm.
Yn dilyn trosiad Harri Wilde – ‘roedd mantais y Cymry’n 14 pwynt.

Aidan Boshoff yn dathlu cais Steff Emanuel
Er bod crysau gwynion Iwerddon wedi cael tipyn o ysgytwad yn chwarter agoriadol y gêm, fe lwyddodd bechgyn Neil Doak i gadw’u pennau ac fe gawson nhw eu haeddiant wedi 26 munud o chwarae.
Wedi i’w blaenwyr guro ar ddrws llinell gais Cymru’n gyson – fe gododd y bachwr Henry Walker yn orfoleddus wedi iddo agor cyfrif ei wlad ar y noson.
Grym blaenwyr yr ymwelwyr ac amddiffyn corfforol y Cymry oedd elfennau amlycaf gweddill y cyfnod cyntaf – ac yn ystod eiliadau olaf y deuagain agoriadol – fe lwyddodd y canolwr Eoghan Smyth i ymestyn pob gewyn o’i gorff i gyrraedd y llinell am ail gais y Gwyddelod.
Gwaith hawdd oedd gan Sam Wisniewski i gau’r bwlch i ddeubwynt yn unig gyda digwyddiad olaf yr hanner cyntaf.
Byddai’r Gwyddelod wedi bod yn crafu eu pennau rywfaint am y ffaith nad oedden nhw ar y blaen ar ddechrau’r ail hanner – o ystyried iddyn nhw dreulio 78% o’r cyfnod cyntaf yn nhir Cymru.
Fe olygodd cic gosb Harri Wilde o 40 metr wedi 9 munud o’r ail gyfnod bod problemau’r ymwelwyr yn cynyddu a bod y bwlch wedi cynyddu i bum pwynt hefyd.
Daeth cicio tactegol gan y ddau dîm yn llawer amlycach wrth i’r ornest fynd yn ei blaen a bu Harry Beddall a’i dîm yn taclo’n ddi-baid hefyd. Fe wnaeth y capten 30 tacl o fewn yr awr gyntaf o chwarae gan arwain ei dîm at fuddugolaieth drwy wir esiampl.
Gyda dau funud yn unig yn weddill – fe fanteisiodd yr eilydd o faswr Harri Ford, ar oruchafiaeth Cymru’n y chwarae gosod i anelu cic gosb gywir rhwng y pyst – gadarnhaodd y fuddugoliaeth hanesyddol hon i’r Cymry ifanc. Y tro cyntaf i’r garfan o dan 20 ennill dwy ornest o’r bron yn y Bencampwriaeth ers pum mlynedd.
Sgôr Terfynol: Cymru 20 Iwerddon 12
Wedi’r chwiban olaf dywedodd Seren y Gêm, Sam Scott: “Mae’r teimlad o guro’r Gwyddelod yn anhygoel. Mae’ golygu gymaint i bod un ohonon ni.
“Fe garion ni’r momentwm o’r fuddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal i mewn i gêm heno. ‘Ry’n ni wastad yn gweithio mor galed fel carfan ac fel cenedl ac ‘rwy’n arbennig o falch o’n perfformiad ni heno.”