Neidio i'r prif gynnwys
Tom Rogers

Cais cyntaf Tom Rogers dros ei wlad (Llun gan Tom Maher / Inpho)

Gwelliant sylweddol gan Gymru ond y Goron Driphlyg i’r Gwyddelod

Er perfformiad addawol iawn, colli wnaeth Cymru gyda Matt Sherratt wrth y llyw am y tro cyntaf, wrth i Iwerddon ennill y Goron Driphlyg yn Nghaerdydd yn dilyn eu buddugoliaeth o 27-18 o dan do Stadiwm Principality.

Rhannu:

Mae breuddwyd Iwerddon o gipio’r Gamp Lawn am y trydydd tro mewn saith mlynedd yn fyw o hyd o’r herwydd ond mae Cymru wedi colli wyth gêm gartref o’r bron bellach.

Er y golled fain heddiw bydd perfformiad Cymry’n rhoi gobaith gwirioneddol i’w Prif Hyfforddwr newydd ac i’r genedl gyfan ar gyfer y dyfodol.

Dim ond pedair sesiwn ymarfer gafodd Matt Sherratt gyda charfan Cymru cyn y gêm yn erbyn y Gwyddelod a’r ymwelwyr yn eu crysau gwynion agorodd y sgorio wrth i Jack Conan hyrddio’i hun dros y llinell gais wedi chwe munud o chwarae. Ychwanegodd Sam Prendergast y trosiad.

Agorwyd y bwlch i 10 pwynt wrth i’r chwarter agoriadol ddod i ben – pan holltodd Sam Prendergast y pyst unwaith eto gyda’i gic gosb gyntaf o’r prynhawn.

Y tro diwethaf i Gareth Anscombe ddechrau gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad oedd yn 2019 pan enillodd y Cymry’r Gamp Lawn yn erbyn Iwerddon o bawb ac fe agorodd gyfri’r Crysau Cochion ar ddechrau ail chwarter yr ornest pan holltodd ef y pyst yn hyderus.

Daeth eiliad allweddol y cyfnod cyntaf gyda chwe munud yn weddill wrth i Garry Ringrose orfod gadael y maes am ei dacl beryglus ar Ben Thomas.

Uwchraddiwyd y cerdyn melyn i goch – ac felly ‘roedd yn rhaid i Ringrose dreulio 20 munud ar yr ystlys.

Cosbwyd y Gwyddelod yn llym gan i Anscombe ychwanegu triphwynt pellach cyn i Jac Morgan dirio yng nghysgod y pyst gyda symudiad ola’r hanner.

Jac Morgan yn dathlu ei gais.

Wedi trosiad Anscombe, ‘roedd y dorf ar eu traed ac ‘roedd tîm Matt Sherratt ar y blaen o driphwynt.

Fe reolodd Cymru 69% o’r meddiant yn ystod yr hanner cyntaf ac fe ddechreuon nhw’r ail gyfnod ar garlam.

Ddau funud yn unig wedi’r ail ddechrau – fe arweiniodd hyrddiad Will Rowlands a gweledigaeth Blair Murray at gais gorfoleddus i Tom Rogers yn y gornel.

Cais cyntaf asgellwr y Scarlets dros ei wlad ar achlysur ei wythfed cap.

Wrth i 20 munud Ringrose ddod i ben – fe lwyddodd y Gwyddelod i gau’r bwlch i bum pwynt o ganlyniad i gicio cywir Prendergast unwaith yn rhagor – ac fe ddaeth Bundee Aki i’r maes yn lle Ringrose.

‘Roedd pethau’n gwbl gyfartal wedi 54 o funudau pan lwyddodd yr asgellwr James Lowe i gyfeirio cic letraws Seren y Gêm, Jamison Gibson-Park i ddwylo Jamie Osborne – ail gais y cefnwr ifanc a’r sgorfwrdd ynghlwm ar 18 pwynt yr un.

Hawliodd Prendergast ei unfed pwynt ar ddeg o’r prynhawn gyda llai na chwarter awr ar ôl wedi i Blair Murray atal cais pendant i Mack Hansen gyda’i amddiffyn arwrol – ac yn anffodus o safbwynt Cymreig – ni ildiodd y Gwyddelod y mantais hwnnw am weddill yr ornest.

Ar achlysur ei gap cyntaf dros ei wlad – ‘roedd Ellis Mee’n meddwl ei fod wedi sgorio ei gais cyntaf dros ei wlad gyda 7 munud yn weddill – ond fe benderfynodd y tîm dyfarnu ei fod wedi taro’r bêl ymlaen fodfeddi’n brin o’r llinell gais.

Llwyddodd Iwerddon i reoli’r chwarae wrth gadw llygad ar y cloc yn ystod munudau olaf yr ornest ac ychydig cyn y chwiban olaf fe lwyddodd Prendergast i godi ei gyfanswm personol i 17 ac ‘roedd y Gwyddelod yn gorfoleddu.

Coron Driphlyg

Heddiw oedd y pedwerydd tro’n eu hanes i Iwerddon hawlio’r Goron Driphlyg ar dir Cymru – ac fe fyddan nhw’n croesawu Ffrainc i Ddulyn ar yr 8fed o Fawrth. Os y bydd y Gwyddelod yn ennill y Bencampwriaeth eto eleni – nhw fydd y wlad gyntaf erioed i wneud hynny dair blynedd o’r bron yn holl hanes y gystadleuaeth -142 o flynyddoedd!

Bydd gêm nesaf Cymru ym Murrayfield ar yr un diwrnod – a bydd Matt Sherratt a holl gefnogwyr Cymru’n gobeithio adeiladu ar berfformiad addawol a hyderus heddiw a sicrhau buddugoliaeth hirddisgwyliedig ar y llwyfan rhyngwladol.

Canlyniad Cymru 18 Iwerddon 27

Yn dilyn y chwiban olaf dywedodd Capten Iwerddon, Dan Sheehan: “Roedden ni’n disgwyl gêm galed a dyna’n union gawson ni heddiw mewn stadiwm arbennig iawn o flaen cefnogwyr arbennig iawn. ‘Ry’n ni wrth ein bodd ein bod wedi ennill y gêm a’r Goron Driphlyg – ond roedd heddiw’n gêm brawf go iawn.”

Ychwanegodd Capten Cymru Jac Morgan: “Ry’n ni’n falch o’n perfformiad ac ‘ry’n ni wedi dysgu llawer heddiw yn erbyn un o dimau gorau’r byd.

“Mae Matt Sherratt wedi dweud y dylem fod yn ddewr yn ein chwarae a mwynhau ein hunain hefyd.

“Roedd y dorf yn anhygoel heddiw ac ‘roedd eu cefnogaeth yn hwb mawr i ni fel chwaraewyr ac ‘ry’n ni’n ddiolchgar iawn am hynny.

“Mae perfformiad heddiw’n rhoi hyder mawr i ni ar gyfer y ddwy gêm nesaf.”

Yn y gynhadledd i’r wasg wedi’r gêm, fe ddywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Matt Sherratt.” Er i ni golli, ‘dwi wir wedi caru’r profiad o fod gyda’r garfan yr wythnos hon – ac ‘roedd bod wrth y llyw ar gyfer gornest mor gofiadwy mewn awyrgylch mor anhygoel yn rhywbeth y byddaf yn ei gofio am byth.

“Mae gennym lawer o waith i’w wneud yn ystod y pythefnos nesaf – ond fe ddylai llawer iawn o agweddau o’n chwarae heddiw roi hyder i ni wrth i ni edrych tua’r dyfodol.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gwelliant sylweddol gan Gymru ond y Goron Driphlyg i’r Gwyddelod
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Gwelliant sylweddol gan Gymru ond y Goron Driphlyg i’r Gwyddelod
Gwelliant sylweddol gan Gymru ond y Goron Driphlyg i’r Gwyddelod
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gwelliant sylweddol gan Gymru ond y Goron Driphlyg i’r Gwyddelod
Rhino Rugby
Sportseen
Gwelliant sylweddol gan Gymru ond y Goron Driphlyg i’r Gwyddelod
Gwelliant sylweddol gan Gymru ond y Goron Driphlyg i’r Gwyddelod
Gwelliant sylweddol gan Gymru ond y Goron Driphlyg i’r Gwyddelod
Gwelliant sylweddol gan Gymru ond y Goron Driphlyg i’r Gwyddelod
Gwelliant sylweddol gan Gymru ond y Goron Driphlyg i’r Gwyddelod
Amber Energy
Opro
Gwelliant sylweddol gan Gymru ond y Goron Driphlyg i’r Gwyddelod