Neidio i'r prif gynnwys
Gwen Crabb

Tri chais i Gwen Crabb

Tri chais i Crabb ac ail fuddugoliaeth i Brython Thunder

Am yr eildro’r tymor hwn fe enillodd Brython Thunder yn yr Her Geltaidd gan iddynt guro Glasgow yn Scotstoun o 33-17.

Rhannu:

Mae’r fuddugoliaeth hon yn eu codi uwchben Glasgow yn y tabl cyn i’r ddau dîm gyfarfod unwaith eto ar Barc y Scarlets ddydd Sul nesaf yng ngêm ola’r Bencampwriaeth.

Gwnaeth Ashley Beck wyth newid i’r tîm ifanc gollodd yn drwm yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn y Clovers. Un o’r newidiadau hynny oedd Gwen Crabb oedd yn dychwelyd i’r tîm wedi iddi golli’r pum gêm ddiwethaf o ganlyniad i anaf – ac fe grëodd hi a’i thri chais gryn argraff ar yr ornest hon.

Wedi chwarter awr o chwarae fe hyrddiodd ei hun dros y llinell gais i sgorio’r cyntaf o bum cais ei thîm ar y diwrnod a 7 munud wedi hynny fe ddangosodd ei chryfder a’i thechneg unwaith yn rhagor i groesi am yr eildro.

Galwyd y maswr Hanna Marshall i’r pymtheg cychwynol ar yr eiliad olaf yn lle Niamh Terry ac fe ychwanegodd hi’r ddau drosiad yn ddi-ffwdan – olygodd bod Brython ar y blaen o 14-0.

Hanerwyd mantais yr ymwelwyr gyda chwe munud o’r hanner cyntaf ar ôl. Er bod rhediad canolwr Glasgow Briar McNamara’n gryf, byddai Ashley Beck wedi gobeithio gweld amddiffyn cadarnach gan ei dîm fyddai wedi atal 7fed cais McNamara o’r tymor – cyn iddi ychwanegu’r trosiad ei hun hefyd.

Serch hynny, byddai Prif Hyfforddwr Brython Thunder wedi bod wrth ei fodd gyda’r modd cadarnhaol iawn y daeth ei dîm â’r hanner cyntaf i ben. Cipiodd y clo Robyn Davies y meddiant o lein Glasgow ac fe fylchodd Hannah Lane yn hyfryd cyn i gyflymdra Ellie Tromans brofi’n ormod i amddiffyn yr Albanwyr.

Gwaith hawdd oedd gan Hanna Marshall i drosi am y trydydd tro ac felly ‘roedd gan y Crysau Cochion fantais o 14 pwynt wrth droi.

Glasgow ddechreuodd yr ail gyfnod gryfaf ac wedi 50 munud o chwarae fe arweiniodd rhediad cryf y clo Kate Yeomans at gais i’r asgellwr Abi Evans yn y pendraw.

Ysgogi Brython Thunder i reoli’r meddiant wnaeth hynny a gyda 10 munud yn weddill fe arweiniodd sgarmes symudol yr ymwelwyr at gais allweddol i’r eilydd o fachwr Rosie Carr a bachwyd y pwynt bonws hefyd o’r herwydd.

Er i Roma Fraser sgorio cais unigol hollol wych o’i dwy ar hugain ei hun ym munudau olaf yr ornest – doedd hynny ddim yn ddigon i atal yr ymwelwyr rhag cael y gair olaf a hawlio eu hail lwyddiant o’r tymor.

Gyda’r cloc wedi troi’n goch fe groesodd Gwen Crabb am ei thrydydd cais o’r prynhawn ac wedi trosiad campus arall gan Hanna Marshall ‘roedd y fuddugoliaeth yn gyflawn.

Perfformiad cadarn gan Brython Thunder fydd yn gobeithio ail-adrodd y gamp yn erbyn Glasgow ar benwythnos olaf y Bencampwriaeth ddydd Sul nesaf.

Wedi’r chwiban olaf dywedodd Seren y Gêm Gwen Crabb: “Fel grŵp ifanc, roedd taro’n ôl heddiw wedi colled drom yr wythnos ddiwethaf yn deimlad braf iawn.

“Fe barchon ni’r bêl a’r meddiant yn dda heddiw ac ‘roedden ni’n haeddu’r fuddugoliaeth.

“O safbwynt personol , ‘dwi wedi dioddef tri o anafiadau’n syth ar ôl ei gilydd yn ystod y deunaw mis diwethaf ac felly ‘roedd bod yn ôl ar y maes heddiw’n help mawr ar fy siwrnai o syrthio’n ôl mewn cariad gyda rygbi.

“Fe wnes i wir fwynhau a fy ngobaith nawr yw chwarae eto’r penwythnos nesaf gan bod y Chwe Gwlad ar y gorwel ac mae hi’n flwyddyn Cwpan y Byd hefyd wrth gwrs.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tri chais i Crabb ac ail fuddugoliaeth i Brython Thunder
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Tri chais i Crabb ac ail fuddugoliaeth i Brython Thunder
Tri chais i Crabb ac ail fuddugoliaeth i Brython Thunder
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tri chais i Crabb ac ail fuddugoliaeth i Brython Thunder
Rhino Rugby
Sportseen
Tri chais i Crabb ac ail fuddugoliaeth i Brython Thunder
Tri chais i Crabb ac ail fuddugoliaeth i Brython Thunder
Tri chais i Crabb ac ail fuddugoliaeth i Brython Thunder
Tri chais i Crabb ac ail fuddugoliaeth i Brython Thunder
Tri chais i Crabb ac ail fuddugoliaeth i Brython Thunder
Amber Energy
Opro
Tri chais i Crabb ac ail fuddugoliaeth i Brython Thunder