Penodwyd Sean Lynn yn Brif Hyfforddwr ar y garfan ym mis Ionawr ac mae cnewyllyn o 15 o chwaraewyr wnaeth ymddangos yn rowndiau cyn-derfynol y Bencampwriaeth y Lloegr – wedi eu dewis yn y garfan ryngwladol.
Mae Lynn yn parhau i arwain Hartpury-Caerloyw ar hyn o bryd wrth gwrs a Bryste, yr Harlequins a’r Saraseniaid yw’r tri thîm arall fu’n cymryd rhan ym mhedwar olaf y gystadleuaeth – sy’n cael ei gydnabod fel cynghrair cryfa’r byd ar hyn o bryd.
Bydd Lynn a Hartpury-Caerloyw’n cynnig sialens i’r Saraseniaid yn y Rownd Derfynol a bydd y chwaraewyr o glybiau Bryste a’r Harlequins yn ymuno gyda’r garfan genedlaethol yr wythnos hon.
Hannah Jones fydd capten Cymru unwaith eto yn y Chwe Gwlad gyda Keira Bevan ac Alex Callender wedi eu dewis yn îs-gapteiniaid ar y garfan.
Mae Sean Lynn hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd yr Her Geltaidd i ddatblygiad rygbi menywod yng Nghymru ac mae cynrychiolaeth deilwng o Gwalia Lightning a Brython Thunder wedi eu cynnwys yng nharfan ryngwladol y Prif Hyfforddwr.
Mae Gwalia wedi ennill chwech o’u naw gêm gynghrair hyd yma’r tymor yma gyda’r capten Bryonie King, yr wythwr Gwennan Hopkins, y clo Alaw Pyrs, y prop Maisie Davies a’r mewnwr Sian Jones yn wynebau amlwg iawn yn ystod eu hymgyrch.
O safbwynt Brython Thunder – mae eu capten hwythau – sef y clo Natalia John a’r canolwr cydnerth Hannah Bluck wedi perfformio’n gadarn iawn. Mae addewid nifer o chwaraewyr eraill wedi dod yn amlwg hefyd gan gynnwys y blaen-asgellwr Lucy Isaac a’r prop Cadi-Lois Davies.
Bydd y garfan estynedig yn dod at ei gilydd yng Nghanolfan Ragoriaeth Undeb Rygbi Cymru a bydd y chwaraewyr sy’n cymryd rhan yn uchafbwynt yr Uwch Gynghrair yn Lloegr yn ymuno â Chymru wedi i’w hymrwymiad i’r gystadleuaeth honno ddod i ben.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae’n brofiad braf a chyffrous enwi fy ngharfan gyntaf fel hyfforddwr rhyngwladol. Mae hon yn garfan sydd â digon o brofiad ac addewid sy’n cynnwys chwaraewyr sydd ar ben eu gêm gyda’u clybiau ar hyn o bryd – dros y ffin yn Lloegr ac i’r ddau glwb Cymreig yn yr Her Geltaidd hefyd.
“Mae gweld cymaint o’n chwaraewyr ni’n cynrychioli prif glybiau Lloegr yn y rowndiau cyn-derfynol yno’n brawf o safon nifer fawr o’n chwaraewyr ni a’r modd y maen nhw’n perfformio dros eu clybiau ar hyn o bryd.
“Ry’n ni fel tîm hyfforddi hefyd wedi dewis chwaraewyr sydd wedi amlygu eu hunain yn yr Her Geltaidd – cystadleuaeth sydd wedi profi’n hynod werthfawr wrth feithrin ein doniau ifanc ac addawol.
“Mae’r Her Geltaidd hefyd wedi rhoi cyfleoedd cyson i chwaraewyr Gwalia Lightning a Brython Thunder i wynebu nifer fawr o chwaraewyr gorau Iwerddon a’r Alban sydd yn amlwg yn beth da.
“Rwy’n gredwr cryf bod dod o hyd i chwaraewyr addawol – eu methrin a’u cefnogi gan roi cyfleoedd cyson iddyn nhw wella – yn rhan allweddol o fy athroniaeth.
“Dyma’r unig ffordd i unrhyw chwaraewr addawol gael y cyfle i ddatblygu’n llawn.
“Ry’n ni wedi dewis grŵp o chwaraewyr o’r carfanau rhyngwladol iau hefyd – fel y gall ein staff asesu eu datblygiad wrth gynnig y profiad iddyn nhw o fod yn rhan o garfan ryngwladol y prif dîm ar yr un pryd. Fe fyddan nhw’n elwa o’r profiad yma ac yn dysgu beth yw’r disgwyliadau a’r gofynion ar y lefel uchaf.
“Y chwaraewyr yma a’r rhai sy’n cystadlu yn yr Her Geltaidd eleni yw dyfodol ein gêm yma yng Nghymru ac ‘rwy’n hyderus y bydd nifer ohonyn nhw’n gallu creu argraff ffafriol iawn ar y llwyfan rhyngwladol ar unwaith ac yn y dyfodol agos hefyd.”
Bydd Isla McMullen, Seren Lockwood, Shanelle Williams a Jorja Aiono o dîm o dan 18 Cymru’n ymuno gyda’r brif garfan – gan eu bod wedi eu dewis yn chwaraewyr o addewid arbennig.
Blaenwyr: Gwenllian Pyrs, Maisie Davies, Abbey Constable, Stella Orin, Allie Watkins, Meg Lewis, Kelsey Jones, Carys Phillips, Rosie Carr, Molly Reardon, Donna Rose, Jenni Scoble, Cadi-Lois Davies, Abbie Fleming, Robyn Davies, Georgia Evans, Natalia John, Alaw Pyrs, Gwen Crabb, Lily Terry, Alex Callender, Alisha Butchers, Kate Williams, Bethan Lewis, Gwennan Hopkins, Lucy Isaac, Bryonie King
Olwyr: Keira Bevan, Sian Jones, Meg Davies, Ffion Lewis, Seren Singleton, Lleucu George, Kayleigh Powell, Robyn Wilkins, Courtney Keight, Hannah Jones, Carys Cox, Kerin Lake, Hannah Bluck, Meg Webb, Savannah Picton-Powell, Nel Metcalfe, Catherine Richards, Lisa Neumann, Jasmine Joyce, Jenny Hesketh, Niamh Terry.