Dywedodd Adam Jones: “Mae Gareth yn iawn i chwarae a bydd ei lais cryf yn bwysig i ni hefyd.
“Er nad ydi e’ wedi bod yn y garfan am ychydig cyn gêm Iwerddon – mae’n arweinydd ac mae wedi ffitio nôl mewn yn rhwydd.
“Fe ddaeth pawb yn ôl at ei gilydd ddydd Llun ac mae hwyliau da yn y garfan. Er y byddai hi wedi bod yn braf cael amser gyda phawb yn ystod yr wythnos o saib – fel ‘na mae pethau weithiau.
“Fe gawson ni sesiwn ymarfer da iawn ddoe a mater yw hi bellach o ganolbwyntio ar y manylion penodol fydd yn berthnasol yn erbyn Yr Alban.
“Fe gefais sioc bod Warren (Gatland) a Rob (Howley) wedi gadael. Mae Matt (Sherratt) yn gymeriad gwahanol – yn fwy hwyliog o bosib. Mae’n hoffi tynnu coes a chwerthin am ei ben ei hun weithiau hefyd.
“Mae ei brofiad o hyfforddi timau i chwarae rygbi ymosodol yn ardderchog ac mae’r bois yn mwynhau ei athroniaeth.
“Fe wthion ni Iwerddon i’r eithaf ac efallai y byddai pethau wedi bod yn wahanol pe byddai ymdrech hwyr Ellis Mee wedi cael ei ganiatáu.
“Wedi dweud hynny, ‘roedd yn hawdd ysgogi’r chwaraewyr ar gyfer gêm gartref yn erbyn y Gwyddelod. Yr her i ni ‘nawr fydd perfformio i’r un lefel lan ym Murrayfield.
“Mae’n rhaid i ni osod ein hawdurdod ar batrwm y gêm ond fydd hynny ddim yn hawdd wrth gwrs gan eu bod nhw’n dîm da.”
Fel chwaraewr, fe enillodd Jones 9 o’i 10 gêm yn y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban rhwng 2004-2014 – ond mae’n hollol ymwybodol o’r her y bydd carfan Cymru’n ei hwynebu ddydd Sadwrn.
“Does dim pwysau arnom ni – mae’r holl bwysau ar ysgwyddau’r Albanwyr.
“Dyma un o’r timau cryfaf yn eu hanes – os nad y tîm cryfaf erioed i wisgo’r crys glas. Fe fyddan nhw’n disgwyl ein curo ni’n eitha’ rhwydd ar eu tomen eu hunain.
“Ond ‘ry’n ni wedi dangos ein bod yn gallu cynnig gwir her i un o dimau gorau’r byd a’u siglo nhw rywfaint hefyd. Er na lwyddon ni i guro Iwerddon – ‘ry’n ni wedi cymryd llawer o bethau cadarnhaol o’r perfformiad hwnnw.
“Er bod gan yr Alban nifer o chwaraewyr arbennig – ein gwaith ni fydd eu herio ym mhob agwedd o’r gêm.
“Ry’n ni eisiau dod â’n rhediad diweddar o golledion i ben – ac ‘ry’n ni’n mynd lan i Murrayfield i ennill.”