Neidio i'r prif gynnwys
Gwalia’n gorffen yn drydydd wedi eu colled yn erbyn y Clovers

Enya Breen yn croesi am un o 9 cais y Clovers

Gwalia’n gorffen yn drydydd wedi eu colled yn erbyn y Clovers

Daeth ail dymor Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd i ben ychydig yn siomedig heddiw wrth i’r Clovers guro’r Cymry o 55-33 yn Ystrad Mynach.

Rhannu:

Er bod Gwalia wedi colli eu pedwaredd gêm yn unig o’r gystadleuaeth y prynhawn yma – fe orffenodd carfan Catrina Nicholas-McLaughlin yn y trydydd safle. Dim ond y ddau dîm o Iwerddon, sef y Clovers eu hunain a’r Pencampwyr – y Wolfhounds oedd uwch eu pennau’n y tabl a dim ond y ddau dîm o’r Ynys Werdd lwyddodd i guro Gwalia trwy gydol y tymor.

Wedi colli o 29-7 yn ne Iwerddon yn Rownd 3 – ‘roedd angen dechrau da ar y tîm cartref heddiw – ond dim ond munud oedd ar y cloc pan groesodd y prop Sophie Barrett am y cyntaf o 9 cais yr ymwelwyr.

Er i Gwennan Hopkins ddangos ei chryfder i dirio cais cyntaf Gwalia Lightning o’r ornest wedi 10 munud o chwarae – dim ond 3 munud wedi hynny ail-sefydlodd yr wythwr Deirbhile Nic a Bháird flaenoriaeth y Clovers.

Gyda chwarter cyntaf yr ornest yn dirwyn i ben fe groesodd y blaenasgellwr Faith Oviawe am drydydd cais ei thîm oedd unwaith eto’n cadarnhau goruchafiaeth wyth blaen y Clovers.

Gyda chwarter awr o’r hanner cyntaf ar ôl, ‘roedd yr ornest ar ben i bob pwrpas wrth i rym y blaenwyr amlygu ei hun unwaith eto – a gwaith hawdd o’r herwydd oedd gan y mewnwr Aoibheann Reilly i hawlio’r pwynt bonws.

Fe barchusodd rhyng-gipiad Caitlin Lewis y sgôr rywfaint wedi 25 munud – ond o ganlyniad i bumed cais Nic a Bháird o’r tymor, cais hwyr y bachwr Beth Buttimer a thri throsaid Nicole Fowley – ‘roedd y Clovers yn haeddiannol ar y blaen o 36-12 ar yr egwyl.

O fewn 10 munud cyntaf yr ail gyfnod ‘roedd dwy o’r gogledd wedi croesi am ddau gais i Gwalia. Wedi i’r canolwr Kelsie Webster a’r clo amryddawn Alaw Pyrs dirio, ‘roedd y bwlch rhwng y timau i lawr i 10 pwynt. Ond taro’n ôl yn syth wnaeth Anna McGann i gofnodi ei 9fed cais o’r ymgyrch eleni.

Wedi awr o chwarae fe diriodd yr eilydd Jemima Adams Verling wythfed cais y Clovers ac yn fuan wedi hynny y capten Enya Breen groesodd am y nawfed – a chais olaf ei thîm o’r tymor – yng nghysgod y pyst.

Wedi tymor o ddatblygu ac addewid sylweddol fe lwyddodd Gwalia Lightning i orffen yr ornest ar nodyn uchel wrth i gryfder yr eilydd Freya Bell ei chario hi dros y gwyngalch gyda symudiad olaf yr ornest.

Fe lwyddodd Carys Hughes i drosi pedwar o bum cais ei thîm ar y diwrnod olygodd mai 33-55 oedd y sgôr terfynol.

Gwalia Lightning yn gorffen yn y trydydd safle felly ac o ganlyniad i fuddugoliaeth y Wolfhounds yn erbyn Caeredin – ail oedd y Clovers yn y pendraw y tu ôl i’w cyd-Wyddelod.

Dywedodd capten Gwalia Lightning, Bryonie King: “Mae’n rhaid i ni gofio bod y Clovers yn llawn o chwaraewyr rhyngwladol – a gan i ni ddechrau’n araf, fe ddangoson nhw eu gallu a’u dawn i gymryd mantais o hynny.

“Ar ddechrau’r tymor, ‘roedden ni’n anelu am yr ail safle – ac er na lwyddon ni i gyflawni hynny – does dim amheuaeth ein bod wedi gwella fel tîm a’n bod ni hefyd wedi dangos faint o ddyfnder talent sydd gennym yma yng Nghymru.

“Rwyf mor falch o fod yn aelod o deulu Gwalia.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gwalia’n gorffen yn drydydd wedi eu colled yn erbyn y Clovers
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Gwalia’n gorffen yn drydydd wedi eu colled yn erbyn y Clovers
Gwalia’n gorffen yn drydydd wedi eu colled yn erbyn y Clovers
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gwalia’n gorffen yn drydydd wedi eu colled yn erbyn y Clovers
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Gwalia’n gorffen yn drydydd wedi eu colled yn erbyn y Clovers