Dyma’r tro cyntaf erioed i’r Albanwyr guro Cymru deirgwaith o’r bron ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad – a gwnaed y difrod yn yr hanner cyntaf wrth i fechgyn Gregor Townsend groesi am bedwar o’u pum cais.
Er bod y Crysau Cochion wedi colli yng Nghaeredin ddwy flynedd yn ôl, ‘roedd Cymru wedi ennill ar chwech o’r wyth ymweliad diwethaf â Murrayfield cyn heddiw.
Am y tro cyntaf ers 2019, fe ddechreuodd yr un pymtheg chwarewr yn y crys coch am yr ail gêm yn olynol ac fe ddechreuodd y Cymry ar y droed flaen. Wedi 2 funud yn unig ‘roedd Gareth Anscombe wedi hollti’r pyst wedi trosedd yr Albanwyr yn lein gynta’r ornest.
Dim ond am gwta dri munud y bu’r Cymry ar y blaen trwy gydol yr ornest – ohewrydd wedi i’r tîm cartref barchu’r meddiant am 14 o gymalau fe wasgodd y cefnwr Blair Kinghorn heibio tacl Anscombe i hawlio’i ddegfed cais rhyngwladol.
Wedi iddo fethu trosiad fyddai wedi ennill y gêm yn Twickenham bythefnos yn ôl – fe lwyddodd Finn Russell gyda chic o ongl debyg i ychwanegu’r ddeubwynt.
Yn union wedi hynny fe anafwyd Tom Rogers ac fe gafodd Joe Roberts gyfle cynnar i gamu o’r fainc.
Yn ei weithred gyntaf fe gasglodd yr Albanwyr ei gic – ac wedi gwrthymosodiad effeithiol – fe redodd y canolwr Tom Jordan yn glir i gysgod y pyst i hawlio ei gais rhyngwladol cyntaf ac ail gais y tîm cartref o fewn y 10 munud agoriadol.
Croesi am ei ail gais ef dros ei wlad wnaeth Blair Murray wedi 23 o funudau wedi i Gareth Anscombe osod ei gic ar bishyn chwech – wnaeth gwaith y cefnwr o dirio’n rhyfeddol o hawdd.

Blair Murray yn hawlio’i gais
Gwnaeth Gregor Townsend un newid ar gyfer y gêm hon wrth iddo alw’r asgellwr profiadol Darcy Graham yn ôl i’r tîm – a thri munud wedi i Murray roi gobaith i Gymru – fe groesodd yr asgellwr i ail-sefydlu goruchafiaeth Yr Alban. Degfed cais ar hugain Darcy dros ei wlad.
Wrth i’r cloc ddangos bod hanner awr wedi ei chwarae aeth copa’r mynydd ymhellach o gyrraedd y Crysau Cochion wrth i ddiffyg disgyblaeth WillGriff John olygu bod gan y tîm cartref ddyn o fantais am 10 munud.
Cyn i’r prop gyrraedd yr ystlys bron â bod, ‘roedd Yr Alban wedi manteisio ar flerwch yn amddiffyn y Cymry ac wedi hawlio pwynt bonws.
Tom Jordan elwodd am yr eildro – ac ‘roedd y gwynt yn bendant yn hwyliau’r Albanwyr.
Pedwar cais i’r Alban yn yr hanner cyntaf felly a phedwar trosiad o safon gan Finn Russell yn ogystal.
Hanner Amser: Yr Alban 28 Cymru 8.
Fe reolodd y tîm cartref dros 60% o’r meddiant a’r tir yn ystod y cyfnod cyntaf a pharhau wnaeth eu rheolaeth o’r gêm a’u gallu i dorri llinell fantais eu gwrthwynebwyr ar ddechrau’r ail hanner hefyd.
Dim ond 7 munud o’r ail gyfnod gymrodd hi i’r Albanwyr groesi am eu pumed cais – wrth i Blair Kinghorn efelychu camp Jordan – a chroesi am yr eildro.
Parhau gyda’i record 100% wrth drosi wnaeth Finn Russell.
Does dim amheuaeth i’r Cymry ddangos gwir gymeriad wedi hynny – ond wedi meistrolaeth Yr Alban yn y 40 munud agoriadol – ‘roedd y dasg o ennill yr ornest y tu hwnt i afael yr ymwelwyr.
Wedi awr o chwarae fe gododd Ben Thomas rywfaint ar hwyliau y miloedd o Gymry oedd wedi teithio i Gaeredin gan iddo groesi am ail gais Cymru – a’i ail gais ef dros ei wlad – ac wedi trosaid syml yr eilydd Jarrod Evans, ugain pwynt oedd yn gwahanu’r ddau dîm.
Cwtogwyd y mantais hwnnw i 13 o bwyntaiu’n unig gydag 13 munud ar ôl wedi hyrddiad nerthol yr eilydd Teddy Williams arweiniodd at ei gais cyntaf erioed dros Gymru.
Gyda symudiad olaf un yr ornest – fe brofodd Max Llewellyn y wefr o sgorio dros ei wlad am y tro cyntaf hefyd. O ganlyniad i’w gais – fe hawliodd y Cymry bwynt bonws am sgorio pedwar cais – a gan i Evans drosi gyda chic ola’r ornest – fe fydd y garfan yn dychwelyd adref gydag ail bwynt bonws hefyd am leihau’r bwlch i lai na 7 pwynt.
Perfformiad ail hanner llawer gwell gan Gymru wrth iddyn nhw sgorio 21 o bwyntiau heb ymateb – ond prynhawn siomedig arall i’r Crysau Cochion yn y pendraw.
Canlyniad: Yr Alban 35 Cymru 29
Gan bo Ffrainc wedi curo Iwerddon yn Nulyn – os bydd y Saeson yn trechu’r Eidal yn Twickenham yfory – bydd gan Loegr obaith o ennill y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd y penwythnos nesaf.
Awch ychwanegol i achlysur hanesyddol ymweliad yr ‘Hen Elyn’ â Chaerdydd.
Wedi’r gêm, fe ddywedodd Dewi Lake – sydd heb chwarae yn y Chwe Gwlad ers tri thymor tan iddo gamu o’r fainc fel eilydd: “Ry’n ni’n ymwybodol pa mor dda y mae’r Alban yn gallu bod – ac fe wnaethon ni roi gormod o feddiant iddyn nhw yn yr hanner cyntaf – a ‘doedd hi’n ddim syndod eu bod nhw wedi cymryd eu cyfleoedd.
“Fe adawon ni ormod o fynydd i ni ei ddringo – ond mae’n rhaid i ni longyfarch Yr Alban am eu perfformiad a’u buddugoliaeth.
“Er i ni golli, fe roedd hi’n braf chwarae yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf mewn tair ymgyrch – ac ‘ry’n ni gyd yn gwybod bod wythnos caled o waith o’n blaenau ni yn ystod yr wythnos sydd i ddod.”
Ychwanegodd Capten Cymru, Jac Morgan:“Ni’n bles gydag ymdrech y bois yn yr ail hanner sy’n rhoi dau bwynt bonws i ni. Fe ddangoson ni lot o gymeriad ar ôl hanner cyntaf caled – ond ganddyn nhw oedd y momentwm yn yr hanner cyntaf.
“Bydd hi’n galed yn erbyn Lloegr yr wythnos nesaf. Bydd yn rhaid i ni ddysgu o’n perfformaid hanner cyntaf heddiw a cheisio genwud mwy o’r hyn wnaethon ni yr yr ail hanner heddiw.”
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Matt Sherratt:” Mae’n deg dweud y gwnaeth y 25 munud cyntaf lywio gweddill y gêm heddiw. ‘Roedd yr Alban yn gadarn iawn yr ardal y dacl ac fe fyddai wedi bod yn hawdd i ni fynd ar chwal yn yr ail hanner.
“Wnaethon ni mo hynny – ac fe fyddan ni wedi gallu cipio’r fuddugoliaeth gydag ychydig o lwc.
“Ddylwn ni ddim teimlo’n flin amdanon ni’n hunain – oherwydd does dim gêm fwy na chroesawu Lloegr i Gaerdydd.”