Fe gyfrannodd chwe chais y Cymry at fuddugoliaeth o 34-22 wythnos wedi i garfan Ashley Beck ennill o 33-17 yn Glasgow – ac fe sicrhaodd trydedd buddugoliaeth y tîm o’r tymor eu bod yn gorffen eu hymgyrch yn y pedwerydd safle.
Fe ddechreuodd Brython Thunder yn hyderus ac wedi i’r blaenwyr barchu ac ail-gylchu’r meddiant yn effeithiol, fe grëwyd lle i’r asgellwr Eleanor Hing sgorio ei hail gais o’r ymgyrch a rhoi’r dechrau delfrydol i’r tîm cartref yn y broses.
Mae wyth o chwaraewyr Brython wedi eu dewis yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad sydd ar y gorwel. Un o’r rheiny yw’r prop pen tynn Cadi-Lois Davies ac yn anffodus – wedi chwe munud yn unig o chwarae – bu’n rhaid iddi adael y maes gydag anaf i’w phen-glin.
Aelod arall o garfan ryngwladol Sean Lynn yw Hannah Bluck – a gyda dim ond 9 munud ar y cloc – fe ddaeth y canolwr o hyd i fwlch yn amddiffyn yr ymwelwyr – ac fe groesodd prif sgoriwr ceisiau Brython y tymor hwn am y pumed tro.
Llwyddodd Hanna Marshall gyda’r trosiad i agor bwlch o 12 pwynt rhwng y timau wedi dim ond 10 munud o chwarae.
Efallai bod yr ymwelwyr wedi dechrau’n araf gan bod eu bws wedi cyrraedd Parc y Scarlets hanner awr yn hwyr – ond wedi chwarter awr o’r gêm fe ddeffron nhw rywfaint. Wedi i’r blaenwyr wneud y gwaith caib a rhaw fe arweiniodd pas ddeallus Briar McNamara at gais i’w chyd-ganolwr Nicole Flynn – a McNamara ei hun ychwanegodd y trosiad.
‘Roedd Prif Hyfforddwr Brython Thunder, Ashley Beck wedi pwysleisio pwysigrwydd perfformio’n dda a sicrhau buddugoliaeth ar benwythnos olaf y Bencampwriaeth – ac fe lwyddodd y Crysau Cochion i ail-sefydlu eu goruchafiaeth yn fuan iawn wedi ildio.
O fewn cyfnod o bedwar munud – ‘roedd y Cymry wedi sicrhau pwynt bonws – wedi i’r cefnwr Hannah Lane groesi’n y gornel – ac wedi i’r canolwr Gabby Healan groesi am bedwerydd cais ei thîm wedi ei rhediad cofiadwy a’i ffug-bas glyfar.
Yn dilyn ail drosiad Marshall ‘roedd y bwlch rhwng y timau’n ddau bwynt ar bymtheg.
Serch hynny, Glasgow gafodd y gair olaf yn ystod y cyfnod cyntaf a’u tro nhw oedd croesi am ddau gais o fewn ychydig funudau.
Wedi cyfnod hirfaith o fygwth llinell gais Brython Thunder, fe groesodd yr asgellwr Emily Norval am gais cofiadwy’n y gornel – ac yna gyda symudiad olaf y cyfnod cyntaf, fe ddangosodd y prop Poppy Fletcher ei dwylo dawnus a’i chryfder i gau’r pwynt i 7 pwynt wrth droi.

Ashley Beck.
Mae’n amlwg bod geiriau Ashley Beck yn yr ystafell newid yn ystod yr egwyl – yn dal i atseinio yng nghlustiau ei chwaraewyr ar ddechrau’r ail hanner – gan mai dim ond chwe munud gymrodd hi i Catrin Jones ddal ei gafael ar y bêl i sgorio pumed cais ei thîm.
Fyddai Beck ddim wedi bod yn hapus gydag amddiffyn caredig ei dîm dri munud yn ddiweddarach gan i Orla Proctor fynd heibio dwy mewn crys coch i gau’r bwlch unwaith eto a hawlio pwynt bonws i’w thîm hefyd.
Er bod Glasgow ar waelod y tabl ar ddechrau’r diwrnod – fe wrthodon nhw ildio – ond er eu holl ymdrechion, Brython gafodd y gair olaf wrth i Hannah Lane groesi am yr eildro dri munud yn unig cyn y chwiban olaf i gadarnhau’r fuddugoliaeth glos ond bwysig hon i’r clwb cartref.
Wedi dechrau anodd i’w hail ymgyrch yn yr Her Geltaidd – diweddglo cadarnhaol iawn i’r tymor felly i Brython Thunder wrth iddyn nhw orffen y tymor yn bedwerydd yn y tabl.
Yn dilyn y chwiban olaf, dywedodd Seren y Gêm, Seren Singleton: “Roedd ymdrech y tîm yn wych eto heddiw – ac ‘roedd gorffen y tymor gyda buddugoliaeth o flaen ein cefnogwyr ein hunain yn braf iawn.
“Rwy’n ferch leol ac felly ‘roedd dod â’r tymor i ben o flaen ffrindiau a theulu’n brofiad arbennig.”
Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Brython Thunder, Ashley Beck: “Fe ddechreuon ni’n dda yn ystod yr 20 munud cyntaf ond mae’n rhaid canmol Glasgow. ‘Dy’n nhw byth yn rhoi’r ffidil yn y to.
“Pan ‘roedden nhw’n rheoli cyfnodau o’r gêm, ‘ro’n i’n gofyn i fy hun – pam bod yn hyfforddwr!
“O ganlyniad i ymdrech ein merched ni – fe gefais yr ateb – gan i ni gyflawni’n bwriad o orffen yn bedwerydd yn y tabl.
“Mae’r Gwyddelod yn llawn chwaraewyr rhyngwladol, tra ‘ry’n ni’n cynnig y profiad cyntaf ar y lefel yma i nifer o’n chwarewyr ni.
“Ry’n ni gyd wedi dysgu llawer iawn y tymor yma – ac mae gorffen gyda buddugoliaeth yn deimlad braf iawn.”