Yr ornest yn Stadiwm Principality dros y penwythnos fydd gêm olaf Sherratt wrth y llyw gyda’r garfan genedlaethol – cyn iddo ddychwelyd at ei ddyletswyddau gyda Chlwb Rygbi Caerdydd.
“Mae Matt wedi bod yn wych dros yr wythnosau diwethaf. Mae wedi gweithio’n galed iawn ac mae e’ wedi llwyddo i gyflwyno newidiadau’n gyflym sydd wedi gwella agweddau o’n gêm ni.
“Bydden ni wrth ein bodd fel carfan dweud ‘hwyl fawr a diolch’ wrtho wrth guro Lloegr. Er bod yr ymgyrch wedi bod yn galed iawn i ni – mae pawb wedi rhoi popeth – a byddai ennill ddydd Sadwrn yn wych i ni gyd.
“Mae pob un aelod o’r garfan a’r staff yn awchu i orffen y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth. ‘Ry’n ni gyd mor angerddol am yr hyn ‘ry’n ni’n ei wneud.
“Does dim angen i Matt neu unrhywun arall ein hatgoffa o bwysigrwydd y gêm ddydd Sadwrn – gan mai Lloegr fydd yn ein herbyn.
“Maen nhw’n dîm da iawn ar hyn o bryd – ond os allwn ni waredu ambell gamgymeriad wnaethon ni yng Nghaeredin a bod yn fwy cywir yn ein chwarae – fe allwn ni eu curo nhw a sicrhau’r fuddugoliaeth sydd wedi bod mor anodd i’w chael yn ddiweddar.”