Neidio i'r prif gynnwys
Osian Roberts

Bydd Osian Roberts yn dychwelyd i ganol y cae

Cyhoeddi Tîm o Dan20 Cymru i wynebu Lloegr

Mae Prif Hyfforddwr Tîm o Dan 20 Cymru, Richard Whiffin wedi dewis ei dîm i herio’r ‘Hen Elyn’ yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2025 – ar Barc yr Arfau nos Wener yma. (7.30pm, yn fyw ar S4C).

Rhannu:

Mae Whiffin wedi gwneud pedwar newid o’r gêm flaenorol wrth i’r Cymry geisio atal y Saeson rhag ennill y Gamp Lawn.

O ganlyniad i waharddiadau, bydd Dan Gemine yn cymryd lle Tom Cottle yn yr ail reng, tra bydd y mewnwr Siôn Davies yn dechrau ei gêm gyntaf o’r Bencampwriaeth ar draul Logan Frankin.

O safbwynt y ddau newid arall, bydd Osian Roberts yn cymryd lle Elijah Evans yng nghanol y cae tra bydd Harri Wilde yn ôl fel maswr – wedi i Harri Ford anafu ei bigwrn yn erbyn Yr Alban.

Dywedodd Richard Whiffin: “Mae anafiadau a gwaharddiadau yn agor y drws i unigolion – a’r gobaith yw y byddan nhw’n achub ar eu cyfle’r penwythnos yma.

“Ry’n ni wedi treulio llawer iawn o amser yn dadansoddi y cyfleoedd y methon ni eu cymryd yng Nghaeredin.

“Fe symudon ni’r bêl yn arbennig o dda yn ystod y chwarter awr cyntaf ac fe fylchon ni’n glir deirgwaith wedi i ni osod y sylfeini wrth fynd trwy’r cymalau.

“Os fydden ni wedi cymryd y cyfleoedd clir hynny fe fydden ni wedi gallu rheoli’r ornest wedi hynny.

“Rhaid canmol Yr Alban gan iddyn nhw gymryd eu cyfleoedd – yn enwedig pan oedden ni ddyn neu ddau yn brin.”

Daw Lloegr i Gaerdydd yn ffefrynau clir ar gyfer yr ornest wedi ddyn nhw guro’r Eidal o 33-24 yng Nghaerfaddon ym mhedwaredd rownd y gemau.

Ychwanegodd Richard Whiffin: “Er mai Lloegr yw Pencampwyr y Byd ar y lefel yma – ac er eu bod yn chwarae’n dda ar hyn o bryd – mae’n rhaid i ni ganolbwyntio arnom ni’n hunain.

“Mae hon yn mynd i fod yn chwip o gêm!

“Yn ein gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Iwerddon yn Rodney Parade – fe chwaraeon ni’n arbennig o dda. ‘Rwy’n gobeithio gweld yr un angerdd a’r un gwaith caled yn erbyn Lloegr.

“Mae’r bois i gyd wedi gweithio’n arbennig o galed trwy gydol yr ymgyrch hon. Mae pob gêm wedi bod yn galed a chorfforol ac ‘ry’n ni wedi gorfod teithio deirgwaith hefyd sydd wedi cynnig ei heriau ei hun.

“Felly mae’n braf gallu dod â’n hymgyrch i ben gyda gêm gartref o flaen ein cefnogwyr ein hunain.

“Roedd yr awyrgylch yn erbyn y Gwyddelod yn Rodney Parade yn wych gyda 4,000 o gefnogwyr swnllyd yn ein cefnogi ni.

“Ry’n ni’n gobeithio y bydd hyn yn oed mwy yn dod i’n gwylio ar Barc yr Arfau a’r gobaith yw y gall ein cefnogwyr fod fel dyn ychwanegol a’n helpu ni i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn y Saeson.”

Cymru D20 v Lloegr D20, Parc yr Arfau, Gwener 14 Mawrth, 7.30pm
15 Tom Bowen (Caerdydd)
14 Harry Rees-Weldon (Dreigiau)
13 Osian Roberts (Sale)
12 Steffan Emanuel (Caerdydd)
11 Aidan Boshoff (Bryste)
10 Harri Wilde (Caerdydd)
9 Siôn Davies (Caerdydd)
1 Ioan Emanuel (Caerfaddon)
2 Harry Thomas (Scarlets)
3 Sam Scott (Bryste)
4 Kenzie Jenkins (Bryste)
5 Dan Gemine (Gweilch)
6 Deian Gwynne (Caerloyw)
7 Harry Beddall (Caerlŷr) (c)
8 Evan Minto (Dreigiau)

Eilyddion

16 Evan Wood (Met Caerdydd)
17 Louie Trevett (Bryste)
18 Owain James (Dreigiau)
19 Luke Evans (Caerwysg)
20 Caio James (Caerloyw)
21 Carwyn Edwards (Met Caerdydd)
22 Elis Price (Scarlets)
23 Jack Woods (Caerfaddon)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyhoeddi Tîm o Dan20 Cymru i wynebu Lloegr
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Cyhoeddi Tîm o Dan20 Cymru i wynebu Lloegr
Cyhoeddi Tîm o Dan20 Cymru i wynebu Lloegr
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyhoeddi Tîm o Dan20 Cymru i wynebu Lloegr
Rhino Rugby
Sportseen
Cyhoeddi Tîm o Dan20 Cymru i wynebu Lloegr
Cyhoeddi Tîm o Dan20 Cymru i wynebu Lloegr
Cyhoeddi Tîm o Dan20 Cymru i wynebu Lloegr
Cyhoeddi Tîm o Dan20 Cymru i wynebu Lloegr
Cyhoeddi Tîm o Dan20 Cymru i wynebu Lloegr
Amber Energy
Opro
Cyhoeddi Tîm o Dan20 Cymru i wynebu Lloegr