Mae’n hymwelwyr o Loegr yn ceisio ennill y Gamp Lawn heno – tra bydd y Cymry’n ceisio rhoi’r siom o golli’n Yr Alban y tu ôl iddyn nhw wedi eu dwy fuddugoliaeth nodedig yn erbyn Yr Eidal ac Iwerddon.
‘Roedd yr ornest a’r achlysur yn erbyn Rodney Parade yn hynod o gofiadwy wrth i’r Crysau Cochion wneud 230 o daclau – osododd y sylfaen ar gyfer eu buddugoliaeth o 20-12. Fe arweiniodd y capten, Harry Beddall drwy esiampl gan iddo wneud 34 tacl ei hun yn ystod y gêm.
Fe all Beddall wynebu rhywun cyfarwydd iawn iddo heno sef Kane James. Bu’r ddau’n chwarae gyda’i gilydd am gyfnod gyda thîm ieuenctid St. Peter’s yma yg Nghaerdydd. Bydd hi’n ddifyr gwylio’r frwydr rhwng y ddau ohonyn nhw heno.
O ganlyniad i golledion siomedig diweddar prif dîm y dynion – mae Llwybr Datblygu ein gêm yma yng Nghymru wedi bod o dan y chwyddwydr yn ddiweddar. Mae gweld grym a dycnwch y blaenwyr o dan 20 – heb sôn am ddoniau ymosodol ein holwyr yn cynnig gwir obaith ar gyfer y dyfodol.
Hoffwn dalu teyrnged i Richard Whiffin a’i dîm hyfforddi am y modd y maen nhw wedi gweithio’n galed i andnabod a meithrin nifer o chwaraewyr ifanc i allu cystadlu ar y lefel yma.
Wedi dweud hynny – heno fydd gwir brawf y datblygiad hwnnw.
Nid ydym wedi curo tîm o dan 20 Lloegr ers 2020 pan arweiniodd Jac Morgan ni at fuddugoliaeth o 23-22 yng Nghaerloyw. Fe sgoriodd Sam Costelow 18 pwynt y noson honno.
Mae heno’n gyfle gwych i’r holl chwaraewyr arddangos eu doniau a chymryd cam pellach at wireddu eu gobeithion o safbwynt eu gyrfaoedd.
Mae heno’n gyfle hefyd i’r cefnogwyr godi llais a dangos eu gwerthfawrogiad o ymdrechion ein bechgyn. ‘Roedd y gefnogaeth yn Rodney Parade yn wych ac ‘rwy’n siwr y gallwn ni ddisgwyl rhywbeth tebyg – os nad gwell hyd yn oed – yma yn y Brifddinas.
Mwynhewch y noson a mwynhewch y gêm.
Terry Cobner
Llywydd URC