Cymru’n Un

WRU CEO Abi Tierney and WRU Chair Richard Collier-Keywood at the press conference to announce the WRU One Wales Strategy

Cymru’n Un

Cymru’n Un
Cymru’n Un

Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un
Cymru’n Un

DOWNLOAD ONE WALES STRATEGY – ENG

DOWNLOAD ONE WALES STRATEGY – CYM

Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: Llythyr agored gan Abi Tierney

Mae rygbi yn bwysicach yng Nghymru 

Un o’r pethau ‘rwyf wedi bod yn teimlo’n gryf yn ei gylch am rygbi Cymru, ymhell cyn i mi ddechrau yn y rôl ym mis Ionawr 2024, yw pa mor bwysig yw’r gêm o safbwynt diwylliant unigryw’r genedl. Mae’r teimlad hwnnw wedi cryfhau ynof dros y misoedd diwethaf.

Dydw i ddim wedi dod o hyd i unrhyw un sy’n anghytuno â hynny yn ystod fy chwe mis cyntaf wrth i mi siarad â phobl ar bob lefel o’r gêm.

Dywedodd un cydweithiwr wrthyf, “… mae hynny oherwydd bod rygbi yn bwysicach yma yng Nghymru.” Ac maen nhw’n iawn. Mae’n wir!

Nid gêm yn unig yw rygbi i ni. Mae’n rhan allweddol o’n diwylliant sy’n effeithio ar wead cymdeithasol, economaidd ac emosiynol y wlad. Mae’r niferoedd uchel sy’n cymryd rhan yn y gêm, nifer y cefnogwyr, y cyfraniadau sylweddol a wneir i’r economi, a’r dystiolaeth angerddol gan chwaraewyr, hyfforddwyr, cefnogwyr ac enwogion i gyd yn tanlinellu pa mor hanfodol bwysig yw’r gêm i’n gwlad.

Yn 2024, mae tua 60,000 o chwaraewyr rygbi wedi eu cofrestru yng Nghymru, sy’n arwyddocaol i wlad sydd â phoblogaeth o ychydig dros dair miliwn. Mae hyn wedi cynyddu 10% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig.

Bydd gennym 298 o dimau yn chwarae mewn 30 o wahanol adrannau yn y gêm gymunedol y tymor nesaf, gan greu cyfleoedd i chwaraewyr o bob oed a gallu. Mae dros 20,000 o blant yn cymryd rhan mewn rygbi trwy amrywiol raglenni ieuenctid a chystadlaethau ysgol, ac mae’r rhain yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol a gwaith tîm o oedran ifanc.

Yn ystod ein gemau rhyngwladol mawr, amcangyfrifir bod dwy ran o dair o’n poblogaeth yn gwylio’r gêm ar y teledu neu drwy gyfrwng o’u dewis.

Mae hyn yn adlewyrchu natur angerddol a gwybodus cefnogwyr rygbi Cymru a’n gwirfoddolwyr ymroddedig, sydd mor allweddol ym mhob agwedd o’r gamp. Mae cynrychioli eu hymroddiad a’u hangerdd – fel Prif Weithredwr eu Hundeb yn anrhydedd rwy’n ei gymryd o ddifrif.

Rwy’n ymgymryd â’r gwaith ar amser allweddol yn hanes ein gêm ac ers dechrau yn fy swydd rwyf wedi ymdrechu i gydweithio gyda chymaint o bobl a sefydliadau â phosibl i greu cyfeiriad strategol newydd ar ein cyfer. Cynllun fydd yn gynaliadwy a llwyddiannus yn y pen draw – fydd er budd pawb yn y byd rygbi yng Nghymru.

‘Rydym wedi ymgynghori’n helaeth, gan gasglu data i lywio’n cynlluniau a’n penderfyniadau hirdymor.

‘Rydym wedi cyd-greu’r strategaeth gyda mewnbwn gan ein rhanddeiliaid ar draws rygbi yng Nghymru. Mae hynny’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Undeb, y Rhanbarthau, noddwyr, partneriaid, cyn-chwaraewyr a chwaraewyr presennol. ‘Rydym hefyd wedi gwarando ar gynrychiolwyr y gêm gymunedol trwy ymweld â chyfarfodydd y gwahanol Ardaloedd ledled y wlad.

Mae’r strategaeth yn drylwyr ac yn gynhwysfawr ac yn mynd i’r afael â’r prif faterion ym mhob agwedd o’r gêm – o lawr gwlad i’r lefel broffesiynol a thu hwnt i hynny hefyd. Mae’r strategaeth wedi’i pharatoi’n ofalus ac fe fydd hi’n ddogfen fyw fydd yn esblygu’n gadarnhaol dros y pum mlynedd nesaf – gyda data perthnasol yn arwain ein penderfyniadau. Ni fydd ofn arnom i newid ein cynlluniau os nad ydynt yn llwyddo i’r graddau disgwyliedig.

O ganlyniad i’r data a gasglwyd drwy’r gwaith ymgysylltu, roedd yn amlwg bod angen i’r strategaeth fynd i’r afael â’r meysydd canlynol fel blaenoriaeth:

  • Cyfeiriad pendant ar gyfer ein gêm broffesiynol. Gwella lefelau llwyddiant ein prif dimau dynion a menywod sydd wedi tangyflawni o ran y canlyniadau’r tymor diwethaf. Felly hefyd ein pedwar clwb rhanbarthol sydd i gyd yn anelu at wella canlyniadau yn eu cystadlaethau nhw. Yn syml, ennill ar y cae fydd yn dangos gwir gynnydd.
  • Adolygu ac esblygu’r diwylliant ar draws rygbi yng Nghymru, o hyrwyddo strwythur llywodraethu URC ei hun i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant rhywedd ar bob lefel o’n gêm.
  • Cynlluniau ariannol sy’n ystyried yr heriau cyllidol sy’n wynebu’r gêm yn fyd-eang ac yn lleol, yn enwedig yn dilyn pandemig Covid-19.

Yn y bôn, rhaid i ni weithredu ar y pethau sydd o fewn ein rheolaeth nawr a dadansoddi a gweithio i leihau’r pethau na allwn eu rheoli.

‘Cymru’n Un’

Bydd cryfder y gêm yng Nghymru yn deillio o’n hundod fel cenedl ac wrth wraidd ein strategaeth mae ymrwymiad ar draws pob elfen o’r gêm broffesiynol i rannu adnoddau ac arbenigedd, sy’n golygu y byddwn ni fel Undeb a’r clybiau rhanbarthol, yn cydweithio’n llawer agosach ar y cae ac oddi arno.

Yn syml, mae ‘Cymru’n Un’, a’n gweledigaeth newydd yn mynd i uno pobl ac ysbrydoli angerdd yn ein cenedl rygbi.’

Mae’r weledigaeth hon yn seiliedig ar genhadaeth ac ymrwymiad i ‘weithio gyda’n gilydd i greu profiadau a chyfleoedd eithriadol i bawb drwy ein gêm.”

Cyflawni gyda’n gilydd:

Rwyf wedi cynnwys copi o’r strategaeth bum mlynedd gyda’r llythyr hwn. Mae pawb sydd wedi ymrwymo i’r strategaeth hon yn gwybod yn iawn nad oes ateb tymor byr. Ond yr hyn sydd gennym yw cynllun clir i wireddu ein nodau a’n hamcanion dros y pum mlynedd nesaf.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw wrth wneud penderfyniadau a byddwn yn cyfathrebu’n glir â rhanddeiliaid ac yn eich diweddaru’n rheolaidd ar ein cynnydd a’r heriau y byddwn yn eu wynebu.

Er mwyn i ni lwyddo bydd angen cydweithio cadarn ar draws y gêm gyfan – yn ein hysgolion, ein clybiau, ein clybiau rhanbarthol a fy nhîm yma yn Undeb Rygbi Cymru. Os gallwn barhau i fod yn ddewr ac ymddiried yn ein gilydd yna rwy’n argyhoeddedig bod gennym y cynllun cywir i symud ymlaen gyda’n gilydd.

Diolch i chi am eich ymrwymiad a’ch angerdd parhaus tuag at ein gêm.

Abi Tierney – Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru