Fel un o raddedigion llwybr datblygu rhanbarthol y Gweilch, chwaraeodd y prop 27 oed ei gêm gyntaf dros y rhanbarth ar ddiwedd tymor 2007/08 oddi cartref yn Connacht, ac ef oedd y pumed chwaraewr ar hugain yn unig i chwarae cant o gemau dros y Gweilch, pan enillodd y rhanbarth yn erbyn Munster yn Stadiwm Liberty ym mis Mawrth y llynedd.
Mae wedi ennill 13 o gapiau dros Gymru a chwarae 112 o gemau dros y Gweilch, gan sgorio tri chais, ond mae anafiadau wedi golygu nad yw wedi chwarae llawer dros y ddau dymor diwethaf.
Meddai Bevington: “Mae’n deimlad trist gadael rhanbarth fy ardal enedigol yr wyf wedi bod yn rhan ohono ers pan oeddwn yn 15 oed, ond rwy’n credu bod hwn yn gyfle cyffrous i mi geisio chwarae unwaith eto ar y lefel yr wyf yn gwybod ei bod o fewn fy ngallu.
“Mae’n amlwg bod dyfodol disglair gyda’r Gweilch gyda thîm mor ifanc yn dod drwy’r rhengoedd, a byddaf yn parhau i gefnogi’r bechgyn o bell.
“Mae’r bennod nesaf yn fy ngyrfa’n dechrau’r wythnos hon ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her, ond rwyf hefyd am ddymuno’r gorau i chwaraewyr, hyfforddwyr, staff a chefnogwyr y Gweilch ar gyfer y tymor, gan ddiolch am yr atgofion arbennig.”