Mae’r asgellwr ifanc wedi cytuno ar gontract tair blynedd, ychydig dros flwyddyn ar ôl iddo lofnodi contract datblygu gyda’r rhanbarth, ar ôl iddo serennu gyda thîm dan 20 Cymru a gipiodd y Gamp Lawn yn gynharach eleni.
Meddai Giles: “Rwyf wedi dod drwy’r system yma gyda’r Gweilch, fy rhanbarth lleol, ac rwyf wrth gwrs yn hynod o falch fy mod i wedi llofnodi’r contract hwn.
“Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel i mi, a dweud y gwir. Rwyf wedi cyflawni mwy nag y gallwn fod wedi gobeithio amdano, ac mae ennill y Gamp Lawn yn rhywbeth rwy’n arbennig o falch ohono. Daeth blwyddyn dda i ben â galwad annisgwyl i fynd i Seland Newydd at y tîm h?n. Roedd hwnnw’n brofiad anhygoel ac yn rhywbeth a fwynheais yn fawr.
“Gan fy mod i’n awr yn ôl yng Nghymru, rwyf am newid gêr a pharhau i wella. Rwy’n gobeithio y byddaf yn cael cyfle i chwarae gydag Abertawe yn yr Uwch-gynghrair a Chwpan Prydain ac Iwerddon, ac yn y Cwpan Eingl-Gymreig hefyd gan fod y gystadleuaeth honno’n ôl. Rwy’n dal yn ifanc, a gallwn fod wedi bod yng ngharfan dan 18 Cymru eleni yn hytrach na’r garfan dan 20. Felly, rhaid i mi fod yn amyneddgar ac aros am fy nghyfle.”
Mae Giles yn asgellwr peryglus oherwydd ei gyflymdra a’i draed chwim, a dilynodd y llwybr datblygu drwy Glwb Rygbi Waunarlwydd ac Ysgol Gyfun Tre-g?yr cyn ennill enw da fel sgoriwr ceisiau di-ri dan wahanol oedrannau ar lefel ranbarthol.
Ar ôl sgorio pedwar cais yr haf diwethaf yn adran Cymru o Gystadleuaeth Saith Bob Ochr Singha, llwyddodd i wneud argraff yn syth yn y Bencampwriaeth gydag Abertawe drwy sgorio chwe chais mewn pedair gêm yn ystod mis Medi a mis Hydref, cyn cynrychioli Tîm Dewisol y Gweilch o’r Uwch-gynghrair yn ystod ymgyrch y tîm yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon.
Ar ôl camu i fyny i chwarae dros dîm dan 20 Cymru ddechrau 2016, dechreuodd Giles bob un o’r pum gêm wrth i chwaraewyr ifanc Cymru gipio’r Gamp Lawn, a sgoriodd dri chais yn ystod y gystadleuaeth. Sgoriodd ddwywaith yng ngêm agoriadol tîm Cymru yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Byd Dan 20 ym Manceinion ym mis Mehefin, cyn i Warren Gatland ei alw i Seland Newydd i fod ar gael i’r tîm h?n oherwydd anafiadau yn ystod taith y tîm hwnnw yn yr haf.