Neidio i'r prif gynnwys
Y dechrau delfrydol i dîm Prydain yn Rio

Y dechrau delfrydol i dîm Prydain yn Rio

Chwaraeodd y ddau Gymro, James Davies a Sam Cross, eu rhan yn wych i sicrhau bod tîm Prydain yn parhau’n ddiguro ar ddiwedd y diwrnod cyntaf o gemau gr?p, ac mae’r tîm ar frig Gr?p C yng nghystadleuaeth rygbi saith bob ochr y Gemau Olympaidd.

Rhannu:

Chwaraeodd Davies yn arbennig o dda yn y ddwy fuddugoliaeth yn erbyn Kenya a Japan, gan gystadlu’n frwd yn ardal y dacl i atal y gwrthwynebwyr rhag ennill pêl gyflym, a gwnaeth Cross gyfraniad da fel eilydd yn y ddwy gêm.

Dechreuodd tîm Simon Amor y diwrnod gyda buddugoliaeth o 31-7 yn erbyn Kenya, cyn mynd ymlaen i sicrhau buddugoliaeth gyda sgôr o 21-19 mewn gêm agos yn erbyn Japan.

Roedd Japan wedi syfrdanu Seland Newydd yn gynharach drwy guro un o ffefrynnau’r gystadleuaeth, ond tîm Prydain sy’n rheoli’r gr?p erbyn hyn.

Dechreuodd tîm Prydain ar dân yn erbyn chwaraewyr chwim Kenya, a llwyddodd Dan Norton i dawelu’r nerfau drwy wibio i lawr yr asgell i sgorio’r cais cyntaf.

Yna hyrddiodd Phil Burgess drwy ganol cae Kenya i sgorio ail gais ei dîm, ac wedi trosiad gan Mitchell roedd y sgôr yn 12-0. Sgoriodd Dan Bibby a Mark Bennett gais yr un wedyn i roi tîm Prydain ar y blaen gyda sgôr o 24-0 ar yr egwyl.

Daeth Kenya yn ôl i mewn i’r gêm yn syth ar ôl ailddechrau gyda throsgais, ond twyllodd Bibby yr amddiffyn gyda’i ddwylo chwim i lithro drwodd a sgorio cais ola’r gêm.

Ar ôl creu sioc enfawr drwy guro’r Crysau Duon yn y gêm flaenorol, roedd Japan yn gobeithio ennill dwy gêm o’r bron. Tîm Prydain oedd yn rheoli’r chwarae ar y dechrau, ond daeth tîm Japan yn ôl i mewn iddi a phe bai’r ymgais i drosi ar ôl y chwiban olaf wedi llwyddo byddai Japan wedi sicrhau gêm gyfartal.

Pan sgoriodd James Rodwell ddau gais cynnar roedd yn ymddangos y byddai tîm Prydain yn ennill yn hawdd, ond sgoriodd Lomano Lemeki i haneru’r bwlch rhwng y ddau dîm.

Sgoriodd Katsuyuki Sakai dan y pyst i ddod â’r sgôr yn gyfartal, ond gydag eiliad o athrylith llwyddodd yr eilydd Marcus Watson i ddefnyddio ei gyflymder a’i b?er i sleifio drwy dacl i sgorio dan y pyst a chael trydydd trosgais y tîm. Roedd yn edrych yn debyg bod hynny wedi selio’r fuddugoliaeth.

Sgoriodd Lemeki yn yr amser ychwanegol i ddod â Japan o fewn dau bwynt, ond methwyd trosi’r cais a sgorio’r pwyntiau hollbwysig.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y dechrau delfrydol i dîm Prydain yn Rio
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y dechrau delfrydol i dîm Prydain yn Rio
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y dechrau delfrydol i dîm Prydain yn Rio
Rhino Rugby
Sportseen
Y dechrau delfrydol i dîm Prydain yn Rio
Y dechrau delfrydol i dîm Prydain yn Rio
Y dechrau delfrydol i dîm Prydain yn Rio
Y dechrau delfrydol i dîm Prydain yn Rio
Y dechrau delfrydol i dîm Prydain yn Rio
Y dechrau delfrydol i dîm Prydain yn Rio
Amber Energy
Opro
Y dechrau delfrydol i dîm Prydain yn Rio