Mae’r undeb am benodi tair ‘Newidwyr’ ar gyfer rygbi merched yn y de orllewin, de ddwyrain a gogledd Cymru, fydd yn cydweithio yn agos gydag aelodau allweddol o adran rygbi URC ynghyd a chlybiau, ysgolion a swyddogion hwb ysgolion er mwyn cynyddu nifer y merched sy’n chwarae’r gamp yng Nghymru.
Dywed Rheolwr Rygbi Merched URC Caroline Spanton: “Mae nifer y merched sy’n chwarae wedi dyblu dros y flwyddyn ddiwethaf diolch i waith yr hwb ysgolion a’r sesiynau merched yn unig gafodd eu cynnal dros yr haf. Ond, yr ydym yn ymwybodol bod ‘na botensial i sicrhau twf hyd yn oed fwy. Fe fydd y Newidwyr newydd yn allweddol wrth geisio gwireddu hyn wrth iddyn nhw weithio gyda phartneriaid allweddol er mwyn creu’r hinsawdd angenrheidiol i ddenu a chadw chwaraewyr newydd.”
Dywed Pennaeth Cyfranogiad URC Ryan Jones: “Mae sicrhau bod yr Undeb yn fwy deniadol i ferched ac i ddymchwel y rhwystrau sydd yn eu hatal rhag gwneud hynny yn un o’n blaenoriaethau strategol. Fe fydd yn rhaid i bawb gydweithio gyda’r newidwyr er mwyn cynnig mwy o gyfleon i ferched ac i greu rygbi sydd yn denu merched o bob oedran.”
Cliciwch yma er mwyn gweld swydd-ddisgrifiad llawn ac i wneud cais i fod yn un o Newidwyr Rygbi Merched Cymru
Newidwyr gêm i drawsnewid rygbi merched yng Nghymru
Fe fydd Undeb Rygbi Cymru yn cynyddu yn sylweddol y cyfleoedd sydd ar gael i ferched ar bob lefel o’r gêm drwy hysbysebu am dair swydd newydd ar wefan wru.wales heddiw.