Cyn iddo arwain y daith ym mis Mehefin fe fydd Robin McBryde yn mynd ar garfan i Fae Colwyn am wersyll ymarfer dwys gan wynebu her RGC ar nos Wener 2 Mehefin cyn iddyn nhw hedfan i hemisffer y de.
“Da ni wrth ein boddau i gael y cyfle i ymweld â’r gogledd yn yr haf,” meddai McBryde.
“Dyma fydd y cyfle cyntaf i hel y garfan ynghyd ar ôl iddyn nhw orffen gyda’i clybiau a’u rhanbarthau ac felly fe fyddan ni yn edrych i weithio’n galed o’r cychwyn cyntaf.
“Fe gafon ni groeso gwych yng ngogledd Cymru yn ystod ein paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd 2015.
“Mae’r gymuned gyfan wedi estyn croeso a gyda’r tîm dan 20 bellach wedi ymsefydlu yma, mae hi’n brofiad arbennig i gael dychwelyd gyda’r tîm hwn unwaith eto.
“Mae’r cyfleusterau yma yn rhagorol ac yn ateb ein gofynion yn llwyr wrth i ni baratoi ar gyfer y daith, a da ni yn ddiolchgar iawn bod Mark Jones a Siôn o RGC wedi derbyn ein gwahoddiad i chwarae’r gêm ym mis Mehefin.
“Fe fydd y gêm yn un bwysig i’r garfan ac yn gyfle gwych i aelodau tîm RGC i ddangos eu doniau yn erbyn rhai o chwaraewyr gorau Cymru.”
Ar ôl cyrraedd Bae Colwyn ar 28 Mai, fe fydd y garfan yn defnyddio cyfleusterau ysblennydd ym Mharc Eirias.
Meddai prif hyfforddwr RGC Mark Jones: “Mae’r gêm yn gyfle euraidd i RGC a rygbi yn y gogledd i gynorthwyo Cymru yn eu paratoadau cyn taith yr haf. Yn bwysicach na hynny efallai, mae o hefyd yn dangos pa mor bell yr ydym wedi dod fel Rhanbarth Datblygu. Dyma gyfle i’r chwaraewyr sydd wedi teithio ar hyd y llwybr rhagoriaeth i herio aelodau’r tîm cenedlaethol sy’n dangos bod y strwythur yma yn y gogledd yn galluogi chwaraewyr i ddatblygu a chawrae ar y lefel uchaf.
Ychwanegodd rheolwr cyffredinol Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru, Siôn Jones: “Mae cynnal gem mor bwysig yn destament i’r gwaith caled sy’n cael ei gyflawni yn Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru. Hyrwyddo chwaraeon llawn bwrlwm o’r lefel cymunedol i lefel lled-brofessiynol a thu hwnt yw’r nod, ac ar yr 2 Mehefin fe fydd cyfle gan ein chwaraewyr, cefnogwyr a gwirfoddolwyr i weld yr uchelgais honno yn dod yn fyw ar achlysur arbennig i rygbi yng Nghymru.”