Neidio i'r prif gynnwys
Partneriaeth newydd i ddatblygu cyfranogiad rygbi a sgiliau  

Partneriaeth newydd i ddatblygu cyfranogiad rygbi a sgiliau  

Mae’r Urdd a WRU yn cydweithio yn agosach nag erioed i annog mwy o blant i chwarae rygbi a mwynhau y gamp o fewn eu hysgolion.

Rhannu:

Mae’r Urdd, y mudiad ieuenctid mwyaf yng Nghymru, yn mynd i fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r WRU i annog disgyblion i roi cynnig ar rygbi, datblygu sgiliau, cynyddu y defnydd o’r Gymraeg tu allan i’r dosbarth a chryfhau y teimlad o berthyn.

Bydd y ddau sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth i lwyfannu y gystadleuaeth 7 bob ochr ysgolion genedlaethol ac, yn ystod tymor y gwanwyn a’r haf, mi fyddant yn cynnal digwyddiadau a chystadlaethau ledled Cymru.  Mae disgwyl y bydd tua 12,000 o blant ysgol yn cymryd rhan mewn digwyddiadau rygbi 7 bob ochr, gan gynnwys cyffwrdd ac ar y traeth, yn ystod y flwyddyn.

Prif ddigwyddiad y bartneriaeth fydd cystadleuaeth 7 Bob Ochr Urdd WRU ym Mhencoed, gaiff ei gynnal dros dridiau ar y 4, 5 a 6 o Ebrill.

Gyda dros 200 o dimau eisoes wedi cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth ym Mhencoed, mae’n debygol mai hwn fydd y twrnament 7 bob ochr ysgolion mwyaf i’w gynnal yng Nghymru erioed.

Nid cyd-ddigwyddiad oedd y ffaith fod y bartneriaeth yn cael ei lansio ar Ddydd G?yl Dewi. Dywedodd Cadeirydd y WRU, Gareth Davies, “Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio’n agosach gyda’r Urdd.  Mae rygbi a’r iaith Gymraeg wrth wraidd ein hunaniaeth a bydd y bartneriaeth hon yn galluogi y ddau sefydliad i wireddu eu hamcanion.”

Dywedodd Ryan Jones, Pennaeth Cyfranogiad WRU, “Mae’r bartneriaeth bellach hon gyda’r Urdd yn ein cynorthwyo i gyrraedd ein nod o Fwy o Bobl, yn Amlach tra’n Mwynhau Mwy a chael Mwy o Lwyddiant.
“Mae chwarae mwy o rygbi 7 bob ochr mewn ysgolion ym mhob cwr o Gymru yn ffordd wych i’n helpu i gynyddu faint sydd yn cymryd rhan yn y gamp hon.  Mae yn ffurf gyflym, bleserus a chyfleus o’r gêm, ac yn faes yr ydym am ganolbwyntio arno i’r dyfodol.

Mewn partneriaeth gyda’r Urdd, byddwn hefyd yn cynnal cystadlaethau rygbi cyffwrdd a rygbi ar y traeth, dau ffurf arall gyffrous o’r gêm fydd yn denu chwaraewyr newydd a chyrraedd cynulleidfa newydd.

“Mae cystadlaethau a’r digwyddiadau hyn yn allweddol i ddenu merched a bechgyn newydd i’r gamp, chwaraewyr all fynd ymlaen i chwarae mewn clybiau a chanolfannau clwstwr gan fwynhau y gêm am flynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd, “Mae’r bartneriaeth newydd hon gyda’r WRU yn enghraifft wych o sut y gall sefydliadau Cymreig gydweithio i gynnig profiadau bythgofiadwy i blant a phobl ifanc.  O ganlyniad i’r bartneriaeth hon, rydym yn cynnal mwy o gystadlaethau, i ystod eang o gyfranogwyr mewn amryw o leoliadau ledled Cymru.”

Cynhaliwyd y lawns yng Nghlwb Rygbi Pencoed, lleoliad cystadleuaeth 7 Bob Ochr yr Urdd a WRU gyda chefnogaeth y cyn-chwaraewr rhyngwladol Shane Williams, sydd yn gefnogol iawn i’r gêm 7 bob ochr.
Dywedodd, “Mae mwynhau chwarae yn allweddol.  Os ydym ni eisiau i fwy o blant chwarae rygbi a chymryd rhan am amser hir, mae’n rhaid i ni ei wneud yn hwyl.  Pa ffordd well o greu atgofion am oes na thrwy chwarae rygbi gyda ffrindiau ysgol.

“Mae rygbi 7 bob ochr, rygbi cyffwrdd a rygbi ar y traeth yn gwneud y gêm yn atyniadol i fechgyn a bechgyn o bob gallu.  Yn ogystal â bod yn hwyl, maent hefyd yn wych o ran ffitrwydd cyffredinol a gwella sgiliau, gan baratoi chwaraewyr ar gyfer y gêm 15 bob ochr.”

Dywedodd Pennaeth Rygbi y WRU, Geraint John, “Mae cystadlaethau 7 bob ochr Urdd WRU yn le gwych i ddatblygu talent Cymreig ac mae’r bartneriaeth hon yn ymwybodol o’r rhan sydd ganddynt i’w chwarae wrth ddatblygu sgiliau a chynnig llwyfan i gystadlu.

“Does dim dwywaith fod rygbi 7 bob ochr yn helpu i ddatblygu chwaraewyr proffesiynol y dyfodol, ar gyfer rygbi 7 bob ochr a 15 bob ochr.

“Mae nifer o’n chwaraewyr rhyngwladol wedi serennu yng nghystadlaethau 7 bob ochr yr Urdd yn y gorffennol, megis Scott Williams gynrychiolodd dîm yr Urdd yn Dubai a nifer o chwaraewyr rhyngwladol, yn ogystal â nifer o ferched sydd wedi chwarae i dîm Cymru a Cymru 7 bob ochr.  Rydym yn gobeithio parhau a gwella y system hon trwy godi safon y cystadlaethau, gwella sgiliau hyfforddwyr ac athrawon, a chodi proffil digwyddiadau, megis y gystadleuaeth newydd hon ym Mhen-y-bont.”

 

www.urdd.cymru/chwaraeon am mwy o wybodaeth

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Partneriaeth newydd i ddatblygu cyfranogiad rygbi a sgiliau  
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Partneriaeth newydd i ddatblygu cyfranogiad rygbi a sgiliau  
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Partneriaeth newydd i ddatblygu cyfranogiad rygbi a sgiliau  
Rhino Rugby
Sportseen
Partneriaeth newydd i ddatblygu cyfranogiad rygbi a sgiliau  
Partneriaeth newydd i ddatblygu cyfranogiad rygbi a sgiliau  
Partneriaeth newydd i ddatblygu cyfranogiad rygbi a sgiliau  
Partneriaeth newydd i ddatblygu cyfranogiad rygbi a sgiliau  
Partneriaeth newydd i ddatblygu cyfranogiad rygbi a sgiliau  
Partneriaeth newydd i ddatblygu cyfranogiad rygbi a sgiliau  
Amber Energy
Opro
Partneriaeth newydd i ddatblygu cyfranogiad rygbi a sgiliau