Roedd yn ymddangos fel pe bai Robson wedi llwyddo i roi Cymru yn y gêm ail gyfle am y pumed safle pan groesodd am drosgais gyda 10 munud yn weddill, gan fynd â’i gyfanswm personol i 15 o bwyntiau.
Ond daeth yr Albanwyr yn ôl i mewn i’r gêm gan hawlio cais yn y munudau olaf i gipio’r fuddugoliaeth yn y modd mwyaf torcalonnus.
Roedd Robson yn hynod siomedig â’r golled yn Stadiwm Avchala, yn enwedig gan fod y Cymry eisoes wedi curo eu cefndryd Celtaidd ddwywaith y tymor hwn, ond mae’n benderfynol o orffen ei yrfa gyda’r tîm dan 20 ar nodyn cadarnhaol drwy guro’r Eidal ddydd Sul.
Meddai: “Mae’r bechgyn mor siomedig â diwedd y gêm. Mae’n rhaid ein bod ni wedi mynd drwy 10-15 cymal, ac roedd eu gweld nhw’n sgorio yn y munudau olaf yn dorcalonnus. Ond rhaid i ni fod yn bositif, cadw ein pennau’n uchel a gorffen y bencampwriaeth â buddugoliaeth yn erbyn yr Eidal.
“Mae’n mynd i fod yn gêm enfawr i mi’n bersonol (yn erbyn yr Eidal) ac rwyf am orffen ar nodyn uchel – dyma’r tro olaf y byddaf yn gwisgo’r crys dan 20 felly rwyf am wneud yn si?r fy mod yn gwneud fy ngorau glas.”
Roedd maswr y Dreigiau’n siomedig â methiant ei dîm i droi pwysau’n bwyntiau, ond roedd y tîm ar y droed ôl am ran helaeth o’r ornest.
Am y tro cyntaf yn y twrnamaint nid oedd y safleoedd gosod mor gryf ag yr oeddent wedi bod, a methodd y Cymry â rheoli’r gêm.
Ychwanegodd Robson: “Aethom i mewn i’r gêm gan wybod beth i’w ddisgwyl. Yn yr hanner cyntaf roedd y gwynt y tu ôl i’r Albanwyr a gwnaethant yn dda i’n cadw ni i lawr yn ein 22. Gwnaethom ni’r un peth yn union yn yr ail hanner, ond pan gawsom ein cyfleoedd nid oeddem mor glinigol â nhw.
“Mae’n hynod siomedig, oherwydd yn yr ail hanner ni oedd yn rheoli’r tir ond fe gollon ni rai cyfleoedd allweddol. Mae angen i ni fod yn fwy clinigol, ac ar ôl sgorio mae angen i ni ganolbwyntio ac amddiffyn yn gadarn.
“Ond chwarae teg i’r Alban, roedden nhw’n haeddu’r fuddugoliaeth. Yn y pum munud olaf roedden nhw’n rhoi pwysau arnom ni ar ein llinell gais, gan lwyddo i dorri drwy’r amddiffyn yn y pen draw.”
Robson am orffen gyda buddugoliaeth
Mae Arwel Robson yn benderfynol o orffen Pencampwriaeth Rygbi dan 20 y Byd ar nodyn uchel ar ôl y siom enfawr o golli yn erbyn yr Alban ddydd Mawrth.