Fe adawodd Owen y Scarlets yn 2013 i ymuno gyda Chaerlyr ac mewn pedair blynedd ar Welford Road fe chwaraeodd bron i gant o gemau a sgorio dros chwe chan pwynt – y math o safon ddaeth ag e at sylw dewiswyr Cymru.
“Roedd symud i Gaerlyr yn help anferth. Roedd e’n fater o nofio neu foddi. Roedd pobl yn dweud wrtha i ar y pryd y byddwn i’n bedwerydd dewis ond erbyn diwedd y tymor roeddwn i’n ddewis cynta ac yn chwarae mewn gemau cyn-derfynol yn Uwch Gyngrhair Lloegr a Chwpan Ewrop. Roedd e’n benderfyiad anferth i adael y Scarlets – nid un wnes i gymryd dros nos, roedd wythnosau lawer o bendroni.
“Ond roeddwn i’n meddwl ‘mae’n rhaid cymryd ambell risg mewn bywyd’ a dyna wnes i. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Scarlets am roi cyfle i fi yn y lle cynta a fe wnes i fwynhau fy amser yna. Mae Caerlyr yn glwb mawr yn chwarae gemau mawr wythnos ar ôl wythnos ac roedd Uwch Gyngrhair Lloegr yn lle cyffrous i fod felly pam ddim mynd amdani a gweld sut byddai pethau’n troi mas? Fe fyddwn i wedi bod yn eistedd tu ôl i Priest (Rhys Priestland) yn Llanelli a’r tebygolrwydd yw na fyddwn i wedi chwarae gymaint o gemau na magu’r profiad rwy wedi gwneud – felly mae wedi troi mas yn dda i fi.
“Fe chwaraes i faswr am y tymhorau cynta ond llynedd fe geson ni lot o anafiadau i chwaraewyr fel Manu Tuilagi a Matt Toomua a fe orffennes i’n llanw mewn yn y canol. Fi’n credu ‘mod i wedi chwarae saith gem ola’r tymor fel rhif deuddeg gyda Freddie Burns yn chwarae deg.”
Ond er bod nifer, gan gynnwys cyn-hyfforddwr Caerlyr, Richard Cockerill, wedi bod yn dweud ers tro bod Owen yn haeddu’i le ar y llwyfan rhyngwladol bu’n rhaid iddo aros tan yr hâf cyn cael ei gyfle, ac yn eironig yn y canol mae’r cyfle hwnnw wedi dod.
“Rwy wedi cael cwpwl o anfiadau dros y tymhorau dwetha. Fe ges i anaf penglin drwg gadwodd fi mas am dymor cyfan a fe dorres i fy ngên cyn un Chwe Gwlad felly dyw lwc ddim wedi bod o’m plaid i yn hynny o beth ond rwy yma nawr a rwy’n ddiolchgar ‘mod i wedi ennill fy nghap a dwi ishe rhagor.
“Roeddwn i’n nerfus yn yr wythnos yn arwain lan at gêm Awstralia ond nawr bod y gêm gartre gynta honno mas o’r ffordd rwy wedi ymlacio mwy ac yn gallu mwynhau’r wythnos yn fwy. Yn amlwg roedden i’n siomedig a’r canlyniad – ‘ro ni’n teimlo mai’n camgymeriadau ni gostiodd yn ddrud i ni. Ar lefel bersonol roeddwn i’n bles iawn i ddechre gêm rhyngwladol am y tro cynta a roedd nifer o aelodau’r teulu a ffrindiau yno. Fe geson nhw’i gyd ddiwrnod neis a roedd pawb wedi mwynhau.
“Gyda’r to ar gau ac awyrgylch wych nes i fwynhau mas draw. Roedd e’n gwbwl wahanol i ennill fy nghap cynta yn yr hâf. Fe chwaraeon ni’n erbyn Tonga yn Eden Park a hynny cyn bod y Crysau Duon yn chwarae felly doedd hi ddim yn orlawn a dweud y lleia. Fe ges i ddeg munud fel eilydd gwaed yn lle Scott Williams ond cynrychioli’ch gwlad yw breuddwyd pob bachgen bach yng Nghymru a roedd hi’n eiliad wych. Roeddwn i wedi bod yn rhan o’r garfan yn ystod Pencmapwriaeth y Chwe Gwlad ond heb gael cyfle ac roeddwn i’n teimlo ‘mod i wedi bod yn chwarae’d dda i Gaerlyr felly roeddwn i’n ysu i fynd ar daith yr hâf. Yn ffodus fe ges i fy newis a fe nes i ddigon yn ystod y sesiynau ymarfer i ennill lle ar y fainc yn erbyn Tonga.
Rwy’n hapus chwarae deuddeg i Gymru. Y ffordd mae Gats a Howlers am i ni fynd ymlaen yw gyda dau greadigol tu ôl. Rwy fel par arall o lygaid i’r rhif deg ac yn ei helpu fe mas gymaint byth ag y gallai, trefnu’r blaenwyr a gweld ble mae’r bylchau. Efallai bod rhaid i fi fwrw cwpwl mwy o sgarmesu na chi’n gwneud fel maswr ond dwi ddim yn poeni gormod am hynny! ‘Ron i’n falch iawn i gael profiad Biggs a Foxy nail ochr i fi, mae’r ddau mor dalentog a wedi gwneud gymaint dros Gymru ac wrth lwc fe aeth pethau’n dda yn amddiffynol.”
Ac yntau bellach wedi symud o Welford Rd a Chaerlyr i Kingsholm a Chaerloyw beth am y dyfodol I Owen?
“Rwy am chwarae rhif deg i Gaerloyw. Os chi’n chwarae deg yn gyson mae’n haws symud i rhif deuddeg na’r ffordd arall. Rwy ‘mond ishe dal i wella fel chwaraewr boed hyny fel deg neu ddeuddeg. Rwy’n hoffi meddwl ‘mod i’n dawel hyderus ond dwi ddim yn un i ganu fy nghlodydd fy hunan. Rwy’n cario mlaen i wneud fy ngwaith i a gobeithio bydd popeth arall yn edrych ar ol ei hun. Rwy am chwarae i Gymru gymaint fedrai dros y flwyddyn neu ddwy nesa a gwthio am le yng Nghwpan y Byd yn 2019.”
Ymhell o adre efallai y gwelwn ni’r gorau o’r Cymro eto.