Yn y digwyddiad lansio, a gynhaliwyd yn Stadiwm y Principality, Caerdydd cyhoeddodd y WRU a’r Urdd eu huchelgais ar y cyd i sefydlu’r digwyddiad hwn fel y twrnamaint mwyaf a gorau y gall plant oed ysgol Cymru fod yn rhan ohonno, ac y gwelir y berthynas rhwng y ddwy fudiad fel model o arfer gorau er mwyn annog ffordd o fyw yn fwy heini tra’n hybu’r iaith a diwylliant Gymraeg. Mae’r bartneriaeth hon yn defnyddio ffurfiau amgen o rygbi er mwyn ennyn diddordeb bechgyn a merched o bob gallu ac o bob ardal o Gymru, mewn amgylchedd sy’n hwyl a deniadol.
Bydd yr adoddau chwarae a ddarparir gan Gyngor Caerdydd yn golygu y bydd posib i ni gynnal cystadlaethau saith-bob-ochr ar gyfer pob grwp oedran ysgol uwchradd, yn fechgyn a merched yn yr un lleoliad yr un pryd am y tro cyntaf. Yn ychwanegol, bydd cytundeb newydd gydag S4C i ddarlledu rhannau o’r twrnamaint yn fyw drwy Facebook yn ychwanegu ymhellach i gyrhaeddiad a phroffil y digwyddiad. Aeth rhai o’r merched a bechgyn fu’n rhan o gystadleuaeth y llynedd ymlaen i chwarae dros dîm Saith-bob-ochr Cymru o dan 18, timau Dosbarth Oedran Rhanbarthol a chlybiau Uwchgynghrair y Principality mewn rhai achosion.
Dywedodd Pennaeth Rygbi – Cyfranogaeth y WRU a chyn gapten Cymru, Ryan Jones: “Mae hi wedi bod yn wych gweld y twrnamaint yma’n tyfu a datblygu, ar y cyd â’r bartneriaeth rhwng y WRU â’r Urdd. Mae ein ymrwymiad i’w gefnogi ymhellach yn cadarnhau uchelgais y WRU i wireddu ei nod o ‘fwy o bobl, yn fwy aml, gyda mwy o fwynhad a mwy o lwyddiant.”
“Y mae’r twrnamaint yn gyfle gwych i’n chwaraewyr ifanc, fydd gobeithio yn derbyn profiad rygbi bositif fydd yn parhau ac yn denu chwaraewyr a’u teuluoedd i’r gamp am oes. Ar ran Undeb Rygbi Cymru, rydw i’n falch iawn o allu cynnig y gefnogaeth er mwyn sicrhau bod hwn yn digwydd.”
Ychwanegodd Pennaeth Rygbi – Perfformiad y WRU, Geraint John: “Y mae’r gêm saith bob ochr yn rhoi sgiliau cyffredinol hanfodol i chwaraewyr fydd yn eu cynorthwyo ar bob lefel o’r gêm. Mae’n hynod bwysig cael twrnameintiau fel un 7 bob-ochr yr Urdd WRU, er mwyn profi a datblygu chwaraewyr i’w galluogi nhw i gamu i fyny i dimau lefel oedran rhanbarthol a rhyngwladol.”
Y mae annog niferoedd mawrion o bobl ifanc i ymwneud ag ymarfer corff yn helpu cefnogi Strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’ Llywodraeth Cymru o ‘hyrwyddo iechyd da a llesiant i bawb’, ‘creu cymunedau mwy iach’, a ‘helpu pobl ifanc i wneud y mwyaf o’u potensial’.
Cefnoga’r twrnamaint hefyd waith yr Urdd sy’n defnyddio pwer yr iaith Gymraeg i weithio gyda miloedd o blant a phobl ifanc, drwy eu hannog i gymryd rhan mewn chwaraeon yn gyson.
Dywedodd Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru: “Y llynedd denodd Twrnamaint Saith-bob-ochr Urdd WRU ym Mhencoed 3,000 o bobl ifanc, ac rydym yn hyderus y bydd hyn yn tyfu i 4,500 eleni yng Nghaerdydd. Led-led Cymru, fe ddenodd twrnamaintiau rygbi ffurf amgen bychan ar lefel cynradd ac uwchradd, megis rygbi traeth a chyffwrdd, a drefnwyd gan yr Urdd a WRU dros 11,000 o bobl ifanc.
Y mae’r niferoedd yma eu hunain yn dangos cryfder gweithio mewn partneriaeth er budd holl bobl ifanc Cymru.”
Yn ogystal a chynyddu cyfleoedd cyfrangoaeth, mae rygbi saith-bob-ochr hefyd yn cynnig llwybr i chwarae’r gêm ar lefel elît, ac hyd at y Gemau Olympaidd. Er enghraifft: Ben Thomas fu’n cynrychioli Coleg Caerdydd a’r Fro yn saith-bob-ochr yr Urdd, a sydd bellach yn chwarae i Gaerdydd ac yng ngharfan Cymru o dan 20. Rhys Patchell, fu’n cynrychioli Ysgol Gyfun Glantaf yn saith-bob-ochr yr Urdd, a chwaraeodd yn y gamp i Gymru, ac sydd bellach yn chwarae i’r Sgarlets. Cynrychiolodd Manon Johnes Ysgol Gyfun Glantaf yn saith-bob-ochr yr Urdd, cyn mynd ymlaen i fod yn rhan o garfan Merched Cymru o dan 18, ac ennill medal efydd yng Ngemau Ifanc y Gymanwlad a gynhaliwyd yn y Bahamas fis Gorffennaf y llynedd. Bu hefyd yn aelod o’r garfan enillodd fedal arian yng Ngemau Ysgolion y DU y llynedd.
Ceir gwybodaeth bellach am y cystadlaethau rygbi, a holl weithgareddau chwaraeon Urdd Gobaith Cymru ar y wefan www.urdd.cymru/chwaraeon