Enillodd Adams, asgellwr Cymru, ei gap rhyngwladol cyntaf yn y fuddugoliaeth swmpus o 34-7 yn erbyn yr Albanwyr yng Nghaerdydd.
Tîm y rhosyn coch fydd yr her nesaf ond nid yw Adams, y seren 22 oed sy’n chwarae i Gaerwrangon, yn poeni dim am hynny ac mae’n awyddus i’w brofi ei hun yn erbyn y Saeson.
“Dydw i erioed wedi bod i Twickenham o’r blaen. Rwy’n disgwyl i’r stadiwm fod yn llawn oherwydd mae’r gêm rhwng Cymru a Lloegr yn gêm enfawr,” meddai.
“Bydd yr awyrgylch yn wych, ond rwy’n bwriadu derbyn popeth fel y daw a thrin y gêm fel pob gêm arall.
“Mae’r bechgyn wedi cael sesiynau hyfforddi da yn ystod yr wythnos ac rydym yn ffyddiog y gallwn fynd yno a rhoi pwysau ar Loegr.
“Rhaid i chi barchu chwaraewyr Lloegr oherwydd maen nhw wedi bod yn chwarae rygbi gwych. Gallech chi ddadlau mai nhw yw’r tîm sy’n chwarae orau yn hemisffer y gogledd.”
Roedd neges Adams a Chymru yn y gêm yn erbyn yr Alban ar ddechrau’r twrnamaint yn glir i bawb ac mae Warren Gatland, y prif hyfforddwr, wedi enwi’r un tîm ar gyfer yr ail gêm.
Mae’n golygu bod Adams yn cadw ei le gyda George North ymhlith yr eilyddion.
“Mae’n dda cael parhad. Mae morâl yn eithaf uchel ymhlith y chwaraewyr ac rydym yn edrych ymlaen at yr her yn Twickenham ddydd Sadwrn,” meddai Adams.
“Mae’n braf gallu cadw’r un pymtheg, oherwydd rwy’n teimlo bod llawer o’r rhyngchwarae yr wythnos diwethaf yn galonogol tu hwnt.
“Bydd yn bwysig iawn i ni ymroi o’r eiliad gyntaf a cheisio sgorio’n gynnar. Mae’n amlwg y bydd chwaraewyr Lloegr yn beryglus gyda’r bêl yn eu dwylo.”