Un newid yn unig sydd ymysg yr eilyddion, a bydd y Llew George North yn dychwelyd i wisgo’r crys rhif 23.
Bydd Leigh Halfpenny, a sgoriodd ddau gais a 24 o bwyntiau yn erbyn yr Albanwyr, yn dechrau eto wrth ochr Josh Adams a Steff Evans yn y tri ôl.
Meddai prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Mae’n braf gallu enwi’r un XV i ddechrau’r gêm – mae’r chwaraewyr yn haeddu hynny ar ôl perfformiad da iawn ar y penwythnos agoriadol.
“Rydym wedi gwneud un newid ar y fainc, a bydd George yn cymryd lle Owen (Watkin). Mae hynny’n anodd ar Owen, ond cafodd Josh (Adams) anaf bach y penwythnos diwethaf felly bydd hi’n ddefnyddiol cael George ar y fainc.
“Rydym yn gwybod pa mor anodd y bydd hi yn erbyn pac enfawr y Saeson. Byddan nhw’n rhoi prawf go iawn i ni. Mae Lloegr wedi bod yn chwarae’n dda iawn dros y blynyddoedd diwethaf felly rydym yn ymwybodol o’r her sy’n ein hwynebu, ond rydym wedi cael wythnos neu ddwy dda wrth ymarfer ac rydym yn edrych ymlaen at y daith i Twickenham.”
TÎM CYMRU I HERIO LLOEGR:
Leigh Halfpenny (Scarlets) (75 cap)
Josh Adams (Caerwrangon) (1 cap)
Scott Williams (Scarlets) (52 cap)
Hadleigh Parkes (Scarlets) (2 gap)
Steff Evans (Scarlets) (6 chap)
Rhys Patchell (Scarlets) (6 chap)
Gareth Davies (Scarlets) (28 cap)
Rob Evans (Scarlets) (21 cap)
Ken Owens (Scarlets) (53 cap)
Samson Lee (Scarlets) (34 cap)
Cory Hill (Dreigiau) (11 cap)
Alun Wyn Jones (Gweilch) (114 cap) CAPTEN
Aaron Shingler (Scarlets) (14 cap)
Josh Navidi (Gleision Caerdydd) (8 cap)
Ross Moriarty (Caerloyw) (18 cap)
Eilyddion:
Elliot Dee (Dreigiau) (3 chap)
Wyn Jones (Scarlets) (6 chap)
Tomas Francis (Caerwysg) (27 cap)
Bradley Davies (Gweilch) (58 cap)
Justin Tipuric (Gweilch) (53 cap)
Aled Davies (Scarlets) (6 chap)
Gareth Anscombe (Gleision Caerdydd) (12 cap)
George North (Northampton) (69 cap)