‘Doedd y sgôr derfynol ddim yn adlewyrchiad o’r goruchafiaeth amlwg fu gan y crysau coch am gyfnodau hir, ond o fethu a throsglwyddo hynny i bwyntiau fe ganfu yr Albanwyr lygedyn o obaith a bu bron i’r cyfan droi’n sur i’r Cymry.
O’r cychwyn ‘roedd y crysau coch oll yn gyfforddus gyda’r bêl yn eu meddiant ac yn hynod gefnogol o’i gilydd tra’n cael eu harwain drwy esiampl wych y capten, Carys Phillips.
Cadwodd y Cymry’r bêl am y deng munud cyntaf gyda Jodie Evans yn taro’r postyn wrth ymdrechu i drosi cic gosb. Daeth hefyd yn agos gyda un rhediad nerthol arall wrth i’r pac ddominyddu a chyflwyno digonedd o beli i’r olwyr drwy sgrymio cadarn a sgarmesi symudol a enillodd fetrau lawer gydol y gêm.
Daeth y pwyntiau cyntaf ar ddeuddeg munud wrth i’r bêl gael ei phasio’n gelfydd ymysg yr olwyr, gyda presenoldeb a dwylo chwim y gefnwraig Jodie Evans yn rhyddhau yr asgellwraig Jess Kavanagh Williams ugain metr o’r linell. O gofio i Jess sgorio ddwywaith yn erbyn Iwerddon bythefnos yn ôl, ‘roedd y disgwyliadau yn uchel, ac fel gogleddwraig oedd o flaen ei chefnogwyr mwyaf selog wnaeth hi ddim siomi, gan gyflymu ac ochr-gami yn ddyheug i dirio heb fod ymhell o’r lliman cornel. Methwyd y trosiad ond parhau wnaeth y pwysau ar yr Albanwyr gyda un mewnbwn arall gan Jess Kavanagh Williams bron a rhyddhau ei chyd asgellwraig Hannah Bluck, ond yn anffodus ‘roedd yn bas yn un hynod o anodd i’w chasglu.
‘Roedd y newydd ddyfodiaid i’r tîm yn gweithredu yn effeithiol gyda’r flaenasgellwraig Beth Lewis yn cynnig ei hun a chario yn effeithiol a’r fewnwraig Jade Knight yn brysur yn ceisio amrywio’ r chwarae. Daeth cyfle toc i Jodie Evans ymestyn y fantais pan ddyfarnwyd cig cosb am beidio a rhyddhau yn erbyn y blaenwyr glas a’r tro yma bu yn llwyddianus.
‘Roedd gwaith y blaenwyr yn daclus ddigon gyda Mel Clay yn gyfforddus yn y llinell a taclo Hannah Bluck a Rebecca De Filippo yn ddigyfaddawd. Er hyn dechreuodd yr Alban ddechrau hawlio a chadw mwy o feddiant fel i’r hanner fynd rhagddo gyda rhediadau nerthol y rheng ôl o Louise McMillan a Hannah Smith yn codi ysbryd eu tîm. Yn wir bu seibiant am gyfnod, cyn i’r dyfarnwr, wedi ail sbio ar y dystiolaeth wrthod cynnig y rhif wyth Sarah Bonar gan nad oedd tystiolaeth bendant ei bod wedi tirio’r bêl ar ol cyfnod o bwyso parhaus gan yr Alban.
O ddianc yn ddi-gosb aeth y Cymry nôl i wrthymosod gyda Amy Evans yn flaenllaw ac Alisha Butchers yn gynyddol ddylanwadol yn y chwarae rhydd. Ar yr hanner daeth eu gwobr pan fwydwyd yr ochr dywyll yn sydyn gan Rhiannon Parker yr eilydd o fewnwraig gan ganfod Hannah Bluck a sgoriodd yn y gornel a hynny ar ei hymddangosiad cyntaf yng nghrys ei gwlad. O fethu’r trosiad daeth yr hanner i derfyn gyda Cymru yn gyfforddus ddigon ar y blaen o dri ar ddeg pwynt i ddim.
Ar ddechrau’r ail hanner gwelwyd yr Alban yn fwy parod i herio eu gwrthwynebwyr gyda’r gefnwraig Chloe Rollie yn ysbrydoli ei thîm drwy redeg yn gryf a phwrpasol ar bob cyfle. Yn wir pan welwyd y Cymry am unwaith yn aros yn ôl a peidio a herio eu gwrthwynebwyr fel yn yr hanner cyntaf magodd yr Albanwyr hyder a doedd hi ddim yn syndod pan welwyd y gefnwraig wallt melyn, Rollie, yn coroni symudiad a aeth o un ochr o’r cae i’r llall yn gynnar yn yr hanner a thawelu’r dorf.
Arweiniodd Carys Phillips trwy esiampl unwaith eto gan barhau a nifer o hyrddiadau yn agos i’r linell yn dilyn bylchiad arall gan Beth Lewis. O bosib byddai un wedi disgwyl i ambell sgrym gael ei dewis yn agos i’r linell gan fod yr oruchafiaeth ganddynt ond o barhau i gymryd ciciau cosb sydyn ag ailgylchu yn gelfydd achosodd hyn ddigon o ddryswch yn rhengoedd yr Alban i roi lle i’r ganolwraig a phrefformwraig gyson ac effeithiol iawn ar y noson, Kerin Lake i adennill y fantais o dri pwynt ar ddeg i’r Cymry pan yn tirio wedi deuddeg munud o’r ail ddechrau.
Bu i’r crysau coch ddangos doniau amddiffyn digon celfydd am y cyfnod a ddilynnodd ond ‘roedd cefnwyr yr Alban yn gynyddol fygythiol. Gyda chymorth rhif chwech Hannah Smith yn rhedeg i’r tir agored a phas wych Lisa Thomson yn denu Rollie mlaen i’r bêl ar gyflymder fe lwyddodd y gefnwraig i lithro trosodd am ei hail gais heb i neb osod bys arni, hanner ffordd drwy’r hanner.
‘Roedd peth blinder o bosib yn llesteirio’r Cymry erbyn hyn, tra ‘roedd hyder yr Alban yn uchel. Tawelwyd y dorf yn sicr ar saithdeg munud pan yn dilyn camgymeriad, fe ganfu y crysau glas eu hunain o fewn modfeddi o’r linell gais, ac wrth warchod y bêl yn gelfydd fe ganfu y prop Jade Konkel ddigon o fwlch i wasgu drosodd ymysg y dryswch. Pan i’r eilydd Sarah Law drosi’r cais ‘roedd mantais y tîm cartref lawr i bwynt yn unig a’r angen am gadw pen yn hanfodol.
Mentrodd y criw hyfforddi i daflu pedair blaenwraig newydd i’r frwydr ac yn wir fe dalodd y fenter. Clymodd Gwenllian Pyrs a Cerys Hale y sgrym yn ddi-drafferth naill ochr eu capten a daeth bloedd o gymeradwyaeth pan welwyd Teleri Davies o’r Bala yn camu i’r cae i ennill ei chap cyntaf yn yr ail-reng. Ychwanegodd Nia Elen Davies egni newydd i’r rheng ôl hefyd.
Llesteiriwyd mymryn ar yr Albanwyr wrth i un o’r blaenwyr weld cerdyn melyn, ond y Cymry orffennodd gryfaf gan dreulio’r deng munud olaf yn hanner y gwrthwynebwyr. Aeth Jess Kavanagh Williams yn agos unwaith eto a gyda gwell dadlwytho byddai cais arall yn sicr wedi deillio. Gwarchodwyd y bêl am y tair munud olaf dim ond i’w cholli wedi i’r cloc droi’n goch. Fodd bynnag llwyddodd Nia Elen Davies i adennill y meddiant, cyn i neb yn fwy haeddiannol na’r capten a chwaraewraig y gêm, Carys Phillips roi troed i’r bêl a’i bwrw ymhell oddi ar y cae i fonllef o gymeradwyaeth.
Bydd prawf mwy pendant ar y merched yn siwr o ddeillio yn ystod y bencampwriaeth ond mae yma ysbryd amlwg, talent, dycnwch, dyfalbarhad ar ewyllus i wneud eu gorau dros ei gilydd, y tîm hyfforddi a’u gwlad.