Neidio i'r prif gynnwys
Dee yn hapus i ddysgu gan Owens

Dee yn hapus i ddysgu gan Owens

Efallai nad yw Elliott Dee wedi cael dechrau ei gêm gyntaf dros Gymru ond mae bachwr y Dreigiau yn dysgu o bob eiliad o rygbi rhyngwladol y mae Warren Gatland yn barod i gynnig iddo.

Rhannu:

Hyd yma mae wedi chwarae 72 munud o rygbi rhyngwladol a’r gêm yn erbyn Lloegr, a gollwyd gyda sgôr o 12-6, yw’r unig dro iddo golli mewn pedair gêm i Gymru. Enillodd ei gap cyntaf yn yr hydref yn erbyn Georgia, daeth i’r cae eto yn y fuddugoliaeth yn erbyn y Springboks a chwaraeodd 17 munud yn ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad yn erbyn yr Albanwyr.

Bu’n brofiad o ddysgu llawer mewn cyfnod byr i’r g?r ifanc 23 oed sydd wedi dringo’r rhengoedd yng Nghymru, gan sicrhau ei fod mewn sefyllfa dda i olynu Ken Owens yn y crys rhif 2. Penwythnos diwethaf aeth benben â Jamie George sef y bachwr a oedd yn ddewis cyntaf i’r Llewod ac erbyn hyn mae’n troi ei olygon at herio rheng flaen Iwerddon, y mae pob un ohonynt wedi chwarae i’r Llewod, yn Nulyn yn nhrydedd rownd Pencampwriaeth y 6 Gwlad NatWest.

“Mae’n hwb mawr i’r hyder i gael 20 munud ar y cae a gwybod bod pobl yn ymddiried ynoch chi. Rwy’n mwynhau bod ar y cae,” meddai Dee. “Mae’n rhaid i chi fod â ffydd ynoch chi eich hun a gwybod bod yr hyfforddwyr yn ymddiried ynoch chi. Dyna pam y maen nhw wedi eich anfon i’r cae, felly mae’n rhaid bwrw ati i wneud yr hyn y maen nhw’n disgwyl i chi ei wneud.

“Yn fy marn i mae’n dda cael y profiad waeth faint o funudau yr ydych yn eu chwarae. Mae Ken wedi ennill ei blwyf ers amser;  mae wedi bod yn chwarae’n dda am yn agos at 10 mlynedd erbyn hyn ac mae’n un o’r bachwyr gorau sydd wedi chwarae i Gymru.

“Mae ein harddull chwarae yn wahanol. Mae Ken yn dda am redeg gyda’r bêl a hyrddio i mewn i’r dacl, ac rwyf i’n fwy tueddol o basio’r bêl, ond wedi dweud hynny, rwy’n mwynhau rhedeg gyda’r bêl a bod yng nghanol pethau hefyd.

“Mae Ken yn gweithio’n galed am ba gyfnod bynnag y mae e ar y maes ac yna pan fydd y gêm ychydig yn fwy rhydd, mae’n amser da i fi gamu i’r cae. Mae Ken bob amser yn chwarae’n wych dros Gymru ac mae’n dda cael dysgu ganddo.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Dee yn hapus i ddysgu gan Owens
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Dee yn hapus i ddysgu gan Owens
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Dee yn hapus i ddysgu gan Owens
Rhino Rugby
Sportseen
Dee yn hapus i ddysgu gan Owens
Dee yn hapus i ddysgu gan Owens
Dee yn hapus i ddysgu gan Owens
Dee yn hapus i ddysgu gan Owens
Dee yn hapus i ddysgu gan Owens
Dee yn hapus i ddysgu gan Owens
Amber Energy
Opro
Dee yn hapus i ddysgu gan Owens