Y tymor diwethaf daeth Owens a’r Sais Wayne Barnes yn gyfartal â hen record Jonathan Kaplan o Dde Affrica ac Alain Rolland o Iwerddon, a ddyfarnodd 17 o gemau yn y bencampwriaeth.
Bydd Owens yn creu record newydd o 18 gêm wrth y llyw yn y gêm olaf ar ddiwrnod agoriadol y bencampwriaeth yn Stade de France. Fodd bynnag, ni fydd gormod o amser ganddo i ddathlu, gan y bydd Barnes yndod yn gyfartal â’r record honno yn y drydedd rownd pan fydd yn dyfarnu’r gêm rhwng Ffrainc a’r Eidal.
Er hynny, dim ond un diwrnod y bydd yn rhaid i Owens aros nes y bydd yn hawlio’r record yn ôl, pan fydd yn torri tir newydd drwy ddyfarnu ei gêm Cwpan Calcutta gyntaf rhwng yr hen elynion, yr Alban a Lloegr.
Ond yn y rownd olaf ond un o gemau bydd Barnes yn ymuno ag Owens i rannu’r record, gyda 19 o gemau yr un i’w henwau, pan fydd yn teithio i Ddulyn ar gyfer y gêm rhwng Iwerddon a’r Alban.
Dyw Owens ddim am wneud môr a mynydd o’r record, ac meddai: “Dim ond rhifau ydyn nhw ar ddiwedd y dydd, ond pan fyddwch chi’n cyrraedd cerrig milltir fel hyn mae bob amser yn braf myfyrio ac ystyried am ba hyd yr ydych wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth arbennig hon.
“Mae rownd gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn bwysig oherwydd yn y rownd gyntaf gall pawb ei hennill hi, ac mae pawb am wneud hynny. Mae’r rownd gyntaf yn achlysur arbennig bob amser, ond mae ychydig yn fwy arbennig eleni oherwydd dyma fy 11eg neu 12fed tymor yn y Chwe Gwlad – dwi wedi bod o gwmpas ers amser hir erbyn hyn – dyma fydd fy 18fed gêm brawf yn y bencampwriaeth, sy’n golygu y byddaf yn cymryd lle Alain Rolland a Jonathan Kaplan fel y dyfarnwr sydd wedi dyfarnu’r nifer fwyaf o gemau yn y Chwe Gwlad, ond dim ond un gêm y tu ôl i mi mae fy nghyfaill da Barnsey, a bydd e’n cyrraedd yr un man â fi pan ddaw ei gêm nesaf.”
Ac yntau ond wedi dyfarnu chwe gêm ryngwladol cafodd Owens y fraint o ddyfarnu ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2007, ac mae’r atgofion yn dal i fod yn glir yn y cof, ddegawd yn ddiweddarach.
“Dwi’n cofio’r achlysur yn iawn – Lloegr yn herio’r Eidal yn Twickenham – a dyma fy ngêm fawr gyntaf, mewn gwirionedd. Roeddwn i wedi dyfarnu ambell i gêm ryngwladol cyn hynny, ond dwi ddim yn credu eich bod chi’n dod yn ddyfarnwr rhyngwladol go iawn nes i chi ddyfarnu gêm Chwe Gwlad neu gêm ym Mhencampwriaeth Rygbi hemisffer y de, neu’r Tri Nations fel yr oedd yn arfer cael ei galw.
“Mae dyfarnu eich gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad wastad yn achlysur arbennig – mae’n un o gystadlaethau gorau’r byd, heb os.”
Er ei fod wedi cyflawni popeth y mae modd i ddyfarnwyr yn yr oes fodern ei gyflawni yn y gamp, h.y. rowndiau terfynol Cwpan Ewrop, rownd derfynol Cwpan y Byd ac ati, mae Owens yn dal i edrych ymlaen at gyflawni camp arall am y tro cyntaf yn ei yrfa.
“Mae’n rhyfedd meddwl nad wyf wedi dyfarnu gêm Cwpan Calcutta o’r blaen. Pan fyddaf yn chwythu’r chwiban ar ddechrau’r gêm rhwng Iwerddon a Ffrainc, dyna fydd fy 80fed gêm brawf, a gêm Cwpan Calcutta fydd fy 81fed gêm. Yn draddodiadol, mae Cymry wedi dyfarnu sawl gêm Cwpan Calcutta – Derek Bevan, Clive Norling, Clayton Thomas – ac rwy’n edrych ymlaen at yr her. Does gen i ddim rhestr o bethau dwi am eu cyflawni cyn i mi orffen dyfarnu, oherwydd byddai hynny’n golygu fy mod i yn y swydd am y rhesymau anghywir, ond mae’n braf cyflawni rhywbeth nad wyf wedi’i gyflawni o’r blaen.
“Byddaf yn paratoi ar gyfer y gêm fel unrhyw gêm arall – byddaf yn gwneud fy ngorau glas fel yr wyf wedi’i wneud ym mhob gêm brawf arall, ond bydd hi’n brofiad arbennig cael dyfarnu’r ornest hon am y tro cyntaf.
Does gan Owens ddim amheuaeth pan ofynnir iddo pa un oedd ei gêm fwyaf cofiadwy ym mhencampwriaeth enwoca’r byd.
“Mae pob gêm yn gofiadwy yn ei ffordd ei hun, ond dwi’n credu mai’r diwrnod sy’n sefyll allan i mi oedd y dydd Sadwrn olaf ym Mhencampwriaeth 2015, pan gurodd Cymru yr Eidal gyda sgôr enfawr, a nhw fyddai wedi ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad pe bai pethau wedi aros fel hynny. Ond awr a hanner yn ddiweddarach fe gurodd Iwerddon yr Alban gyda sgôr eithaf da i gael digon o bwyntiau i neidio i frig y tabl, ac yna roeddwn i’n dyfarnu gêm ola’r diwrnod rhwng Ffrainc a Lloegr. Pe byddai Ffrainc yn curo Lloegr gan sgorio hyn a hyn o bwyntiau fe fydden nhw’n ennill, ac roedd angen i Loegr guro Ffrainc o 20 neu 25 pwynt er mwyn neidio uwchben Iwerddon a dod yn bencampwyr – dyna oedd diwrnod anhygoel o rygbi.
“Dwi ddim yn credu y gallech chi fod wedi ysgrifennu’r sgript ar gyfer y diwrnod hwnnw. Cafodd Lloegr fuddugoliaeth dda, ond roedden nhw’n dal i fod pum pwynt yn brin o’r sgôr yr oedd ei hangen i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Dim ond pan ddes i oddi ar y cae y dywedodd rhywun pe bai Lloegr wedi sgorio 5 pwynt arall byddai’r tlws wedi cael mynd yn ôl i Twickenham yn hytrach nag i Iwerddon.”
A gyda’r record o 100 o gemau prawf o fewn cyrraedd, a yw Owens yn anelu at fod y dyfarnwr cyntaf mewn hanes i gyrraedd y garreg filltir arbennig honno?
“Dyw dyfarnwyr ddim yn cael bod yn rhan o gemau prawf o’r naill wythnos i’r llall fel y mae chwaraewyr yn ei wneud, felly mae’n cymryd tipyn mwy o amser i gyrraedd y garreg filltir honno – os daw’r cyfle, bydd yn arbennig iawn, does dim dwywaith am hynny.
“Ond dwi’n canolbwyntio ar fwynhau fy swydd ar hyn o bryd, a thra bydd y corff yn para’n ffit a thra byddaf yn dal i gael fy newis i ddyfarnu gemau prawf, byddaf yn parhau i fwynhau’r gwaith.
“Dwi’n trin pob gêm rwy’n ei dyfarnu fel pe bai honno fydd fy ngêm olaf ac rwy’n ei mwynhau, oherwydd un diwrnod byddaf yn iawn, a dyna fydd fy ngêm olaf.”