Neidio i'r prif gynnwys
Reffell yn troi ei olygon at Iwerddon

Reffell yn troi ei olygon at Iwerddon

Er i dîm dan 20 Cymru golli o 37-12 yn Newcastle nos Wener, mae’r capten Tommy Reffell yn parhau’n ffyddiog wrth i’r tîm baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yr haf hwn.

Rhannu:

Yn ôl Reffell, llwyddodd chwaraewyr Lloegr i gyflawni eu bwriad yn effeithiol iawn yn y gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan 20 nos Wener diwethaf: “Roedden nhw’n bwerus iawn ac wedi gwneud llawer o waith cartref; aethon nhw amdani a doedden ni ddim yn gallu cystadlu â hynny. Pob clod iddyn nhw. Gallwn ni ddysgu llawer o’r gêm,” meddai.

Ym Mharc Kingston methodd Cymru â manteisio ar ddechrau addawol pan welwyd y mewnwr chwim Harri Morgan yn croesi i sgorio ei ail gais mewn dwy gêm yn y twrnamaint. “R’yn ni bob amser yn awyddus i ddechrau’r gêm ar garlam, ac ar ôl sgorio efallai ein bod ni wedi ymlacio ychydig a rhoi cyfle iddyn nhw gael yr oruchafiaeth,” meddai Reffell. “Mae angen i ni ddysgu o hynny – peidio â chynhyrfu a mynd i banig, a chadw at y cynllun. Mae yna bethau i’w dysgu.”
 
Cafodd Reffell syndod o gael ei enwi’n gapten ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn yr Alban, ond mae wedi mwynhau’r cyfrifoldeb. “Y prif nod i mi oedd sicrhau lle yn y tîm, felly roedd cael fy enwi’n gapten yn anrhydedd enfawr,” mae’n cyfaddef. “Cefais fy nghymryd i’r naill ochr a gofynnwyd i mi a hoffwn i wneud y swydd. Yna, cyhoeddodd yr hyfforddwr i’r garfan mai fi fyddai’r capten. Mae’n fraint fawr i mi.”
 
Y mewnwr Ben White oedd capten Lloegr, ac fel mae’n digwydd mae’r ddau yn rhannu t? ac yn chwarae i glwb Teigrod Caerl?r. Wrth arwain eu timau i’r cae nos Wener, nhw oedd y ddau gyntaf o blith chwaraewyr Caerl?r i arwain timau rhyngwladol mewn gêm yn erbyn ei gilydd.

“Dwi’n byw gyda Ben, a chwarae teg iddo mae’n fachan da – does dim byd cas amdano,” meddai Reffell. “Fe gyflawnodd ei rôl fel capten yn arbennig o dda; cymerodd gyfrifoldeb am y gêm. Mae wedi gwneud yn dda iawn.”

Gyda’r Gwyddelod ar y gorwel y penwythnos nesaf, mae Reffell yn benderfynol na fydd ei dîm yn meddwl gormod am y canlyniad yn erbyn Lloegr. “Rhaid i chi ddechrau troi eich golygon at y gêm nesaf, a dechrau ymarfer eto,” meddai’r chwaraewr 18 oed. “Byddwn yn wynebu Iwerddon yn Donnybrook wythnos i nos Wener, a bydd honno’n gêm anodd arall.
 
“Rhaid i ni gydweithio fel tîm, ac ar adegau fel hyn rydych yn cydweithio’n agosach fyth er mwyn datrys problemau gyda’ch gilydd.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Reffell yn troi ei olygon at Iwerddon
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Reffell yn troi ei olygon at Iwerddon
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Reffell yn troi ei olygon at Iwerddon
Rhino Rugby
Sportseen
Reffell yn troi ei olygon at Iwerddon
Reffell yn troi ei olygon at Iwerddon
Reffell yn troi ei olygon at Iwerddon
Reffell yn troi ei olygon at Iwerddon
Reffell yn troi ei olygon at Iwerddon
Reffell yn troi ei olygon at Iwerddon
Amber Energy
Opro
Reffell yn troi ei olygon at Iwerddon