Mae Biggar wedi gwella o anaf i’w ysgwydd i ennill cap rhif 61 dros ei wlad, a bydd yn bartner i Gareth Davies y tu ôl i’r sgrym.
Bydd Halfpenny a Williams yn ymuno â Steff Evans yn y tri ôl a bydd Hadleigh Parkes a Scott Williams yn parhau â’u partneriaeth yng nghanol cae.
Mae Cymru wedi enwi’r un pac ar gyfer y daith i Ddulyn.
“Mae’n braf gallu dod â chymaint o brofiad yn ôl i’r pymtheg sy’n dechrau’r gêm ac i’r olwyr,” meddai’r prif hyfforddwr Warren Gatland, a fydd yn gyfrifol am dîm Cymru am y 100fed tro.
“Dyma’r wythnos gyntaf i bawb yn y garfan gael y ‘golau gwyrdd’ i chwarae, ac mae hynny’n beth braf a chadarnhaol iawn cyn gêm brawf hynod o bwysig yn erbyn tîm Iwerddon sydd wedi gwneud argraff hyd yn hyn.
“Rydym wedi bod yn falch â’r dyfnder rydym wedi’i ddatblygu yn y tri ôl, ac yn hapus â sut mae’r chwaraewyr hynny wedi chwarae, ond bydd cael profiad Dan, Liam a Leigh yn ôl yn bwysig iawn i ni.
“Rydym wedi bod yn hapus iawn â’r ffordd mae’r blaenwyr wedi chwarae fel uned, ond yn ôl yr arfer mae pwysau arnyn nhw i berfformio hefyd.”
TÎM CYMRU I WYNEBU IWERDDON:
Leigh Halfpenny (Scarlets) (75 Cap)
Liam Williams (Saraseniaid) (45 Cap)
Scott Williams (Scarlets) (53 Cap)
Hadleigh Parkes (Scarlets) (3 Chap)
Steff Evans (Scarlets) (7 Cap)
Dan Biggar (Gweilch) (60 Cap)
Gareth Davies (Scarlets) (29 Cap)
Rob Evans (Scarlets) (22 Cap)
Ken Owens (Scarlets) (54 Cap)
Samson Lee (Scarlets) (35 Cap)
Cory Hill (Dreigiau) (12 Cap)
Alun Wyn Jones (Gweilch) (115 Cap) CAPTEN
Aaron Shingler (Scarlets) (15 Cap)
Josh Navidi (Gleision Caerdydd) (9 Cap)
Ross Moriarty (Caerloyw) (19 Cap)
Eilyddion:
Elliot Dee (Dreigiau) (4 Cap)
Wyn Jones (Scarlets) (7 Cap)
Tomas Francis (Caerwysg) (28 Cap)
Bradley Davies (Gweilch) (59 Cap)
Justin Tipuric (Gweilch) (54 Cap)
Aled Davies (Scarlets) (7 Cap)
Gareth Anscombe (Gleision Caerdydd) (13 Cap)?
George North (Northampton) (70 Cap)