Bydd y garfan brofiadol, dan arweiniad y capten Alun Wyn Jones, yn dechrau twrnamaint 2019 ym Mharis yn erbyn Ffrainc nos Wener 1 Chwefror.
Mae’r garfan yn cynnwys yr un 10 blaenwr rheng flaen a oedd yn rhan o garfan Cymru yng Nghyfres Under Armour 2018.
Mae Rob Evans a Wyn Jones o’r Scarlets ynghyd â Nicky Smith wedi’u henwi yn bropiau pen rhydd, a’r bachwyr yw Elliot Dee, Ryan Elias a Ken Owens. Mae Leon Brown, Tomas Francis, Samson Lee a Dillon Lewis wedi’u henwi yn bropiau pen tyn.
Mae’r capten Jones, sydd wedi ennill 120 o gapiau dros Gymru ac sydd wedi chwarae mewn 48 o gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad hyd yn hyn, yn cael cwmni Jake Ball, Adam Beard, Seb Davies a Cory Hill fel y chwaraewyr ail reng.
Mae Ross Moriarty, Aaron Wainwright a Justin Tipuric, a chwaraeodd i Gymru yng nghyfres yr hydref, i gyd wedi’u henwi eto. Mae Josh Navidi yn dychwelyd i’r garfan ar ôl anaf ac mae’r chwaraewyr amryddawn Josh Turnbull a Thomas Young hefyd wedi’u cynnwys ynddi.
Mae Cymru wedi dewis yr un tri mewnwr a fu’n chwarae yn y gemau fis Tachwedd diwethaf, sef Gareth Davies, Aled Davies a Tomos Williams.
Y maswyr yw Gareth Anscombe, Dan Biggar, Rhys Patchell a Jarrod Evans a chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn 2018.
Y pedwar canolwr yw Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Owen Watkin a Scott Williams.
Mae Josh Adams, Hallam Amos, Steffan Evans, Leigh Halfpenny, Jonah Holmes, George North a Liam Williams yn darparu’r opsiynau i Gymru o safbwynt y tri ôl.
“Rydym yn teimlo’n llawn cyffro ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness 2019 ac rydym yn edrych ymlaen at gael dechrau’r twrnamaint ym Mharis yn erbyn Ffrainc,” meddai prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland.
“Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn adeg bwysig o’r flwyddyn i gefnogwyr, chwaraewyr a hyfforddwyr rygbi ac rydym yn edrych ymlaen at ddod ynghyd ac at baratoi ar gyfer y bencampwriaeth eleni.”
CARFAN CYMRU – PENCAMPWRIAETH Y CHWE GWLAD GUINNESS 2019
BLAENWYR:
Rob Evans (Scarlets) (31 Cap)
Wyn Jones (Scarlets) (10 Cap)
Nicky Smith (Gweilch) (24 Cap)
Elliot Dee (Dreigiau) (13 Chap)
Ryan Elias (Scarlets) (6 Chap)
Ken Owens (Scarlets) (60 Cap)
Leon Brown (Dreigiau) (5 Cap)
Tomas Francis (Caerwysg) (36 Chap)
Samson Lee (Scarlets) (38 Cap)
Dillon Lewis (Gleision Caerdydd) (8 Cap)
Jake Ball (Scarlets) (29 Cap)
Adam Beard (Gweilch) (8 Cap)
Seb Davies (Gleision Caerdydd) (7 Cap)
Cory Hill (Dreigiau) (22 Gap)
Alun Wyn Jones (Gweilch) (120 Cap) (CAPTEN)
Ross Moriarty (Dreigiau) (26 Chap)
Josh Navidi (Gleision Caerdydd) (11 Cap)
Justin Tipuric (Gweilch) (60 Cap)
Josh Turnbull (Gleision Caerdydd) (10 Cap)
Aaron Wainwright (Dreigiau) (3 Chap)
Thomas Young (Wasps) (2 Gap)
OLWYR:
Aled Davies (Gweilch) (12 Cap)
Gareth Davies (Scarlets) (36 Chap)
Tomos Williams (Gleision Caerdydd) (6 Chap)
Gareth Anscombe (Gleision Caerdydd) (21 Cap)
Dan Biggar (Northampton) (65 Cap)
Jarrod Evans (Gleision Caerdydd) (1 Cap)
Rhys Patchell (Scarlets) (11 Cap)
Jonathan Davies (Scarlets) (67 Cap)
Hadleigh Parkes (Scarlets) (10 Cap)
Owen Watkin (Gweilch) (8 Cap)
Scott Williams (Gweilch) (57 Cap)
Josh Adams (Caerwrangon) (6 Chap)
Hallam Amos (Dreigiau) (18 Cap)
Steffan Evans (Scarlets) (12 Cap)
Leigh Halfpenny (Scarlets) (80 Cap)
Jonah Holmes (Caerl?r) (1 Cap)
George North (Gweilch) (79 Cap)
Liam Williams (Saraseniaid) (51 Cap)
Cymru yn enwi carfan 39 dyn ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness
Mae Cymru wedi enwi carfan 39 dyn ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness sydd ar ddod.