Mae wedi enwi carfan 32 dyn ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sy’n cynnwys 13 o chwaraewyr sydd eisoes wedi cael profiad o chwarae ar lefel y timau dan 20. Mae’r capten Tommy Reffell yn eu plith yn ogystal â dau o sêr carfan dan 18 Cymru y llynedd, sef canolwr y Dreigiau, Aneurin Owen, a maswr Caerl?r, Sam Costelow.
“Dyma’r cam dewis cyntaf wrth ystyried y darlun ehangach a pharatoi ar gyfer Cwpan y Byd,” esboniodd Williams ar ddechrau ei ymgyrch gyntaf fel prif hyfforddwr.
“Mae agwedd y chwaraewyr, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi llwyddo i gael eu henwi yn y garfan, wedi gwneud argraff dda arnaf.
“At hynny, mae gennym gr?p o chwaraewyr sydd wedi’u hanafu a gr?p hyfforddi’n ogystal â’r garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac mae agwedd y chwaraewyr i gyd wedi bod yn rhagorol. Rydym wedi cynnal tri gwersyll a oedd yn cynnwys 60 o chwaraewyr, ac mae’r ffaith bod pawb mor gystadleuol yn golygu nad oes neb wedi gallu dibynnu ar eu henw da’n unig gan fod y gystadleuaeth am bob lle wedi bod yn ddwys iawn.
“Gwnaeth ymdrech y bechgyn argraff fawr ar bob un o’r hyfforddwyr, sy’n cynnwys Dai Flanagan [yr agwedd ymosod], Richard Kelly [y blaenwyr] ac Andrew Bishop [yr agwedd amddiffyn], ac yn awr rydym i gyd yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau’r bencampwriaeth yn Ffrainc,” meddai.
Carfan dan 20 Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
Blaenwyr: Tom Devine (Dreigiau), Rhys Davies (Gweilch), Ben Warren (Gleision Caerdydd), Kemsley Mathias (Scarlets), Nick English (Bristol Bears), Dewi Lake (Gweilch), Cameron Lewis (Gleision Caerdydd), Will Griffiths (Dreigiau), Jac Price (Scarlets), Teddy Williams (Gleision Caerdydd), Morgan Jones (Scarlets), Ed Scragg (Dreigiau), Iestyn Rees (Scarlets), Ellis Thomas (Llanelli), Tommy Reffell – Capten (Caerl?r), Jac Morgan (Scarlets), Taine Basham (Dreigiau).
Olwyr: Harri Morgan (Gweilch), Jamie Hill (Gleision Caerdydd), Dafydd Buckland (Dreigiau), Cai Evans (Gweilch), Sam Costelow (Caerl?r), Aneurin Owen (Dreigiau), Tiaan Thomas-Wheeler (Gweilch), Tom Hoppe (Dreigiau), Dewi Cross (Gweilch), Deon Smith (Dreigiau), Caine Woolerton (Gweilch), Rio Dyer (Dreigiau), Alex Morgan (Caerloyw), Tomi Lewis (Scarlets), Ioan Davies (Gleision Caerdydd).
Cymru yn enwi’r garfan dan 20 ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
Gan gadw llygad ar y paratoadau ar gyfer Pencampwriaeth Iau’r Byd a gynhelir eleni yn yr Ariannin mae prif hyfforddwr Tîm dan 20 Cymru, Gareth Williams, yn edrych ymlaen yn eiddgar at wylio’r garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn datblygu’n dîm a allai herio’r goreuon.