Sgoriodd Cymru chwe chais i gyd yn Stadio Danilo Martelli ym Mantua, a maswr y Gweilch oedd yn gyfrifol am drosi’r pedwar cyntaf cyn ildio ei le i Sam Costelow. Sam, sy’n chwarae dros Gaerlŷr, oedd yn gyfrifol am y cicio wedyn a llwyddodd i drosi’r ddau gais nesaf.
Mae Evans bellach yn ei ail dymor gyda’r Tîm dan 20, ac yn sgil ei berfformiad caboledig dros y penwythnos mae bellach wedi sgorio 83 o bwyntiau mewn 11 o gemau prawf dros Gymru. Bydd yn canolbwyntio’n awr ar y gêm yn erbyn Lloegr ym Mae Colwyn ar 22 Chwefror.
“Mae Cai yn datblygu’n giciwr o’r radd flaenaf, a fe yw’r ciciwr gorau o bell ffordd yn y gystadleuaeth. Byddwn yn aml yn holi ble mae Cai pan fyddwn yn paratoi i adael y cae hyfforddi,” meddai Basham.
“Mae e’n dal ar y cae yn ymarfer am amser hir ar ôl i bawb arall orffen, ac mae’r holl ymdrech ychwanegol yn talu’r ffordd. Ciciodd Cai yn arbennig o dda unwaith eto yn yr Eidal, ac mae’n bendant yn gwneud gwahaniaeth.
“Mae’r Eidalwyr yn frwdfrydig tu hwnt, ac o adael iddynt gael hwyl arni’n gynnar yn y gêm mae’r dorf yn dechrau cyffroi ac yn gallu rhoi hwb iddynt. Fe lwyddon ni i sgorio tri chais yn yr hanner cyntaf, llwyddodd Cai i drosi pob un ohonyn nhw, a rhoddodd hynny’r Eidalwyr dan bwysau.”
“Buom yn siarad drwy’r wythnos am fynd i’r Eidal a chipio’r fuddugoliaeth. Wnaethon ni ddim tynnu ein troed oddi ar y sbardun, ac roedd yn berfformiad ardderchog yn y pen draw,” meddai Basham.
“Roeddem yn siomedig gyda’r canlyniad yn hytrach na’r perfformiad yn Ffrainc. Mae ennill pwynt bonws yn erbyn yr Eidalwyr wedi gosod y llwyfan yn awr ar gyfer gêm fawr yn erbyn Lloegr yn y gogledd yr wythnos nesaf.”
Mae’r capten Dewi Lake yn credu y bydd y modd y cipiwyd y fuddugoliaeth ym Mantua wedi rhoi hwb enfawr i’w dîm cyn yr ornest yn erbyn Lloegr. Yn awr, o leiaf, gall y chwaraewyr wynebu eu gêm gyntaf ar eu tomen eu hunain yn llawn hyder.
“Mae pob tîm da yn bownsio’n ôl yn dilyn siom, a bydd y fuddugoliaeth yn yr Eidal yn rhoi llawer o hyder i ni cyn y gêm yn erbyn Lloegr yn y gogledd.”