Teithiodd carfan o 31 i lawr i Nice o Baris ddydd Sadwrn, a byddant yn treulio’r wythnos yn y ddinas yn ne Ffrainc cyn mynd i Rufain ddydd Iau.
Y bwriad wrth hyfforddi yn Nice, yn hytrach na dychwelyd adref i Gymru, yw bod aelodau’r garfan yn efelychu’r hyn y bydd yn rhaid iddynt ei wneud pan fyddant yn teithio o le i le yng Nghwpan y Byd yn Japan yn ddiweddarach eleni.
“Roedd y fuddugoliaeth dros Ffrainc yn un dda, ond mae’r gêm honno drosodd yn awr. Mae ein golygon wedi troi eisoes at yr Eidal yn Rhufain,” meddai asgellwr Cymru, Josh Adams, a chwaraeodd yn wych ym Mharis.
“Mae’r cyfan i gyd yn newydd i mi. Dyma fy mhedwerydd ymgyrch, a’r ail un ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond mae’r bechgyn yn grêt. Rydym yn griw sy’n agos at ein gilydd, mae pawb yn cyd-dynnu’n dda, ac mae gemau tebyg i’r un yn Ffrainc yn dangos ein bod yn gweithio fel un.
“Dangosodd y gêm ein bod yn gallu ennill hyd yn oed ar ôl bod 16 phwynt ar ei hôl hi. Yn dibynnu ar y tywydd, ac os bydd hi’n bwrw glaw fel y gwnaeth hi ym Mharis, bydd yn rhaid i ni reoli’r gêm ychydig yn well yn yr Eidal.
“Mae angen i ni chwarae’r gêm yn yr ardaloedd cywir, rhoi mwy o fin ar ein hymosod efallai, ac ailffurfio’n gyflymach. Mae yna ychydig o bethau i edrych ymlaen atynt ac i fyfyrio yn eu cylch.”
Dechreuodd Cymru ymgyrch 2019 gyda buddugoliaeth gampus ym Mharis. Diolch i gais gan Tomos Williams a dau gais wedyn gan George North yn yr ail hanner, llwyddodd tîm Warren Gatland i drawsnewid y sgôr hanner amser, sef 16-0, yn llwyr.
Hwn, felly, oedd y perfformiad gorau yn hanes rygbi Cymru o safbwynt ennill gêm ar ôl bod cymaint ar ei hôl hi.