Hyd yn hyn, mae tîm Warren Gatland wedi trechu Ffrainc a’r Eidal oddi cartref ym Mhencampwriaeth 2019, sy’n golygu bod Cymru erbyn hyn wedi ennill 11 gêm o’r bron, sef rhediad gorau’r tîm erioed yn yr oes broffesiynol.
“Mae Lloegr yn dîm o safon, ond mae’r un peth yn wir amdanom ni,” meddai bachwr Cymru a’r Llewod Ken Owens. “Bydd y ddau dîm sydd ar frig tabl y Chwe Gwlad yn mynd benben â’i gilydd er mwyn cynnal eu record ddiguro. Rydym yn gwybod beth yw’r dasg sydd o’n blaen. Rydym wedi ennill dwy gêm oddi cartref, ond mae angen i ni wella.
“Mae’n rhaid i ni eu herio nhw, ond os na fyddwn yn gwella rwy’n siŵr y bydd chwaraewyr Lloegr yn dod i Gaerdydd, yn chwarae fel y maen nhw wedi chwarae yn eu dwy gêm ddiwethaf ac yn dysgu gwers i ni.”
Cymru a Lloegr yw’r unig ddau dîm sydd heb golli yn y Bencampwriaeth eleni, a bydd y gêm rhyngddynt yn cael ei chwarae o flaen stadiwm a fydd dan ei sang. Mae Owens yn disgwyl i’r awyrgylch fod yn arbennig.
“Hon fydd ein gêm gartref gyntaf ni, felly byddwn yn edrych ymlaen at gael y dorf i godi llais. Mae arnom angen i’r cefnogwyr fod y tu ôl i ni a gwneud i chwaraewyr Lloegr deimlo’n anghyfforddus, oherwydd dydyn nhw ddim wedi bod mewn sefyllfa felly yn eu dwy gêm gyntaf,” ychwanegodd Owens.
“Mae’n mynd i fod yn 80 munud anodd, ac mae hynny’n wir am y rhan fwyaf o gemau prawf erbyn hyn, yn enwedig os ydych yn chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr o safon. Mae hynny’n sicr yn wir am Loegr. Rydym yn edrych ymlaen at yr her.”