Neidio i'r prif gynnwys
Wales U20 v England U20

The Wales team huddle after snatching victory against England

Pedwar newid i dîm dan 20 Cymru i wynebu’r Alban

Mae Gareth Williams, prif hyfforddwr Cymru, wedi gwneud pedwar newid i’r tîm a fydd yn dechrau’r gêm yn
erbyn yr Alban nos Wener ym mhedwaredd rownd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad dan 20 ym Meggetland
(bydd y gic gyntaf am 7.30pm).

Rhannu:

Mae asgellwr Caerloyw Alex Morgan yn cymryd lle Tomi Lewis a gafodd ei anafu yn ystod y fuddugoliaeth agos dros
Loegr yn y rownd ddiwethaf. Mae’r tri newid arall ymhlith y blaenwyr.

Mae Jac Price yn dychwelyd i’r ail reng ar ôl colli’r gemau yn erbyn yr Eidal a Lloegr wedi iddo gael ei wahardd ar ôl
dechrau’r gêm yn erbyn Ffrainc. Ar ôl aros yn amyneddgar ar y fainc mae prop y Scarlets, Kemsley Mathias, a
blaenasgellwr Llanelli, Ellis Thomas, yn cael dechrau am y tro cyntaf yn ystod yr ymgyrch hon.

Bydd y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr wedi rhoi hwb i hyder y tîm, a bydd Cymru yn dechrau’r gêm yn erbyn y tîm sydd ar waelod y tabl gan wybod y byddai buddugoliaeth yn arwain at gêm olaf dyngedfennol yn erbyn Iwerddon lle gallai’r naill dîm neu’r llall ennill y bencampwriaeth, ond mae Williams yn mynnu na ddylai ei dîm ifanc roi’r cart o flaen y ceffyl.

“Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i’r garfan ac mae hynny’n adlewyrchu’r gystadleuaeth sydd gennym wrth nesáu at Gwpan y Byd,” meddai.

“Rydym yn canolbwyntio ar yr her y bydd yr Alban yn ei chynnig i ni. Maent yn dîm da o chwaraewyr a fydd yn llawn cyffro o fod yn chwarae ar eu tomen eu hunain, a byddant yn fygythiad go iawn i ni.

“Rydym wedi bod yn awyddus i anghofio am y gêm yn erbyn Lloegr, er mor falch yr ydym o’r cryfder cymeriad a ddangoswyd wrth gipio’r fuddugoliaeth honno.”

Tîm dan 20 Cymru v Yr Alban, Meggetland Sports Complex, Nos Wener 8 Mawrth, y gic gyntaf am 7.30pm
15 Ioan Davies (Gleision Caerdydd)
14 Alex Morgan (Caerloyw)
13 Max Llewellyn (Gleision Caerdydd)
12 Aneurin Owen (Dreigiau)
11 Dewi Cross (Gweilch)
10 Cai Evans (Gweilch)
9 Dafydd Buckland (Dreigiau);
1 Kemsley Mathias (Scarlets)
2 Dewi Lake (Gweilch – CAPTEN)
3 Ben Warren (Gleision Caerdydd)
4 Teddy Williams (Gleision Caerdydd)
5 Jac Price (Scarlets)
6 Ellis Thomas (Llanelli)
7 Jac Morgan (Aberafan / Scarlets)
8 Iestyn Rees (Scarlets)

Eilyddion:
16 Will Griffiths (Dreigiau) 17 Tom Devine (Dreigiau) 18 Nick English (Bryste) 19 Ed Scragg (Dreigiau) 20 Ioan Rhys Davies (Gleision Caerdydd) 21 Harri Morgan (Gweilch) 22 Sam Costelow (Caerlŷr) 23 Tiaan Thomas-Wheeler (Gweilch)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Pedwar newid i dîm dan 20 Cymru i wynebu’r Alban
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Pedwar newid i dîm dan 20 Cymru i wynebu’r Alban
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Pedwar newid i dîm dan 20 Cymru i wynebu’r Alban
Rhino Rugby
Sportseen
Pedwar newid i dîm dan 20 Cymru i wynebu’r Alban
Pedwar newid i dîm dan 20 Cymru i wynebu’r Alban
Pedwar newid i dîm dan 20 Cymru i wynebu’r Alban
Pedwar newid i dîm dan 20 Cymru i wynebu’r Alban
Pedwar newid i dîm dan 20 Cymru i wynebu’r Alban
Pedwar newid i dîm dan 20 Cymru i wynebu’r Alban
Amber Energy
Opro
Pedwar newid i dîm dan 20 Cymru i wynebu’r Alban