Neidio i'r prif gynnwys
Wales U20

The Wales U20 squad who begin their World Rugby U20 Championship against hosts Argentina, on Tuesday

Mae prif hyfforddwr Cymru, Gareth Williams, o’r farn y bydd ei chwaraewyr ifanc yn mwynhau’r awyrgylch llawn cyffro a fydd yn eu disgwyl yng ngêm gychwynnol Pencampwriaeth Rygbi’r Byd Dan 20 yn erbyn yr Ariannin sy’n cynnal y Bencampwriaeth.

Mae carfan Williams o 28 o chwaraewyr wedi cyrraedd eu canolfan yn Rosario i barhau â’u paratoadau ar gyfer eu gêm agoriadol yn erbyn y Piwmas ddydd Mawrth nesaf. Bydd y dorf yn wrthwynebus i dîm Cymru ond mae Williams am i’w chwaraewyr fanteisio ar yr awyrgylch ffyrnig a chipio buddugoliaeth er mwyn dechrau eu hymgyrch mewn steil.

Rhannu:

“Dylai fod yn achlysur bendigedig, a bydd yr awyrgylch yn rhagorol,” meddai. “Mae mynd i’r Ariannin yn brofiad newydd, a bydd yn wych cael chwarae yn eu herbyn gyntaf. Bydd yn lle ardderchog i fynd iddo oherwydd mae’r gefnogaeth i rygbi yno’n enfawr.

“Rydym yn awyddus i’r chwaraewyr chwarae mewn sefyllfaoedd gwrthwynebus fel hyn, a dangos eu cryfder a mwynhau’r awyrgylch. Mae’n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ymdopi ag ef ond yn rhywbeth y byddwn yn ei fwynhau hefyd.”

Efallai mai prif amcan Williams yw datblygu’r genhedlaeth nesaf o sêr Cymreig, ond bydd pob aelod o’r garfan yn breuddwydio am gael codi tlws Pencampwriaeth Rygbi’r Byd Dan 20 ar 22 Mehefin.

“Mae datblygu’n hollbwysig i ni ond rydym am ennill pob gêm,” meddai Williams. “Gadawon ni Gymru gyda’r bwriad o ennill Cwpan y Byd.

“Rwy’n bendant o’r farn bod ennill yn gallu helpu chwaraewyr i ddatblygu. Ond fel hyfforddwyr mae angen i ni ofalu nad ydym yn canolbwyntio’n ormodol ar ennill; rhaid i ni sicrhau cydbwysedd.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Rhino Rugby
Sportseen
Amber Energy
Opro